Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth gyda mynediad cyfyngedig

Dangosfwrdd Camddefnyddio Sylweddau

Mynediad i'r Dangosfwrdd Camddefnyddio Sylweddau: Dangosfwrdd Camddefnyddio Sylweddau

Adroddiadau Gwe Camddefnyddio Sylweddau

Mae Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (WNDSM) yn darparu data ar bobl a atgyfeiriwyd am broblem camddefnyddio sylweddau. Mae'r wybodaeth yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan fwyafrif y sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gronfa ddata yn darparu gwybodaeth sydd ei hangen i fonitro cyflawniadau yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a'r adroddiadau sy'n seiliedig ar wybodaeth sy'n ymwneud â nifer yr atgyfeiriadau gan eitemau data allweddol a gyflwynwyd trwy'r WNDSM.

Nod mynediad i'r Rhyngrwyd yw caniatáu mynediad cynhwysfawr a hyblyg i'r Gronfa Ddata Genedlaethol Camddefnyddio Sylweddau. Yn dilyn cyflwyniadau gan ddarparwyr gwasanaeth, mae'r data'n cael ei ddiweddaru ac mae'n sail i'r dadansoddiad gweithgaredd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Mae'r system hon sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd yn caniatáu i ddefnyddwyr terfynol weld data yr adroddir arno. Mae gan Ddarparwyr Gwasanaeth y gallu i fonitro eu perfformiad yn erbyn targedau cenedlaethol cytunedig a chynnal dadansoddiad tueddiadau gan fod data o 2005 ar gael. Mae'r system hefyd yn darparu dadansoddiadau o ddata ar ffurf graffigol sy'n caniatáu i'r defnyddiwr terfynol nodi ei berfformiad cyfredol yn hawdd yn erbyn targedau cenedlaethol, a galluogi meincnodi perfformiad asiantaethau.

Mae'r dangosyddion perfformiad allweddol cenedlaethol hyn yn berthnasol i wasanaethau i unigolion sy'n camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau eraill. Fe'u mireiniwyd o ganlyniad i ymgynghoriad llawn, ffurfiol yng Nghymru a'u llywio gan ddadansoddiad annibynnol y dangosyddion arfaethedig gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus. Dylai Partneriaethau Diogelwch Cymunedol ymgorffori'r DPAau a'r dangosyddion cysylltiedig ym mhob Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) neu gontract. Mae canllawiau ar ddiffiniadau lle bo hynny'n briodol, gofynion adrodd a ffynonellau data yn cyd-fynd â phob DPA. Yn y lle cyntaf, dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y DPA i'r Tîm Rhanbarthol Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau priodol.

Gellir gweld dyddiadau cyflwyno a chyhoeddi 2023-24 and 2024-25 yma: Dyddiadau Cyflwyno a Chyhoeddi 2023-24 a Dyddiadau Cyflwyno a Chyhoeddi 2024-25

 

Mynediad i'r adroddiadau ar y we ar gyfer defnyddwyr awdurdodedig: Adroddiadau Gwe Camddefnyddio Sylweddau

Anfonwch unrhyw ymholiadau neu sylwadau at: sylweddmisuse-queries@wales.nhs.uk