Gan weithio mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi sefydlu rhwydwaith Ecosystem Iechyd Digidol Cymru.
Nod y cydweithredu yw rhannu arloesiadau digidol a darparu mynediad at lwyfannau technoleg sector iechyd GIG Cymru.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (GGGC) a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, â chefnogaeth Rhaglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg Llywodraeth Cymru, yn creu rhwydwaith Ecosystem Iechyd Digidol Cymru.
Bydd y prosiect yn rhoi mynediad at saernïaeth GIG Cymru mewn camau cynyddrannol, gan ddefnyddio rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau (APIs) sy’n seiliedig ar y we. Mae’r camau cychwynnol yn rhoi mynediad at APIs achos prawf.
Mae fersiwn BETA y Porth Datblygwyr ar gael