Mae Ap Symudol Porth Clinigol Cymru (“Yr Ap”), a ddatblygwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), yn ap Apple a Google ar gyfer defnyddwyr sy’n glinigwyr yng Nghymru (“defnyddwyr”). Mae’r Ap yn rhoi mynediad i glinigwyr yng Nghymru at wybodaeth cofnodion iechyd cleifion trwy eu ffonau clyfar a’u cyfrifiaduron llechen, gan gefnogi darparu’r un wybodaeth a ddangosir mewn systemau meddalwedd bwrdd gwaith. Mae'r wybodaeth hon yn helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau clinigol am iechyd neu ofal yr unigolyn.
Mae bod yn dryloyw a darparu gwybodaeth hygyrch i unigolion am sut y gallwn ddefnyddio data personol yn elfen allweddol o’r Ddeddf Diogelu Data (DPA) a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) wedi ymrwymo i feithrin ymddiriedaeth a hyder yn ein gallu i brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn canolbwyntio ar yr wybodaeth a gedwir am ddefnyddiwr yr Ap at ddibenion rheoli cyfrifon. Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cwmpasu'r wybodaeth glinigol a gedwir yn yr Ap neu'r system feddalwedd bwrdd gwaith. Ar gyfer yr unigolion hynny sydd am gael rhagor o wybodaeth am sut mae sefydliadau GIG Cymru yn casglu gwybodaeth, cysylltwch â’r sefydliad sy’n gyfrifol am gasglu’r wybodaeth hon. Mae gwybodaeth ar sut i gysylltu â'r sefydliadau hyn ar gael ar wefannau GIG.Cymru a GIG 111 . Mae rhagor o wybodaeth am sut mae sefydliadau GIG Cymru yn casglu gwybodaeth a sut y gellir ei defnyddio ar gael yma: Eich Preifatrwydd Chi Eich Hawliau Chi Mae Deall Data Cleifion yn rhoi rhagor o fanylion am sut y caiff data cleifion ei reoli gan gynnwys adnoddau ac astudiaethau achos ar sut y defnyddir data cleifion yn y GIG. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: understandingpatientdata.org.uk Os oes gennych unrhyw bryderon am y ffordd y defnyddir gwybodaeth amdanoch, efallai yr hoffech drafod y rhain gyda'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol neu Swyddog Diogelu Data'r sefydliad. |