Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r Porth Mynediad Deintyddol.
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Mae hyn yn golygu y dylech allu:
newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau’r porwr neu’r ddyfais
chwyddo’r cynnwys hyd at 400% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.
nid yw dolenni i ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i raglen darllen sgrin
mae cyfyngiad ar ba mor bell y gallwch chi chwyddo'r map ar ein tudalen 'cysylltwch â ni'
gall lefelau cyferbyniad isel ei gwneud yn anodd darllen rhywfaint o wybodaeth
Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â dhcw-enquiries@wales.nhs.uk yn gyntaf a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os nad ydych yn credu ein bod yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: dhcw-enquiries@wales.nhs.uk
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.2.
Nid yw'r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2. Rhestrir yr elfennau nad ydynt yn cydymffurfio isod.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Methu â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Dim ond trwy newid lliw y testun y gellir adnabod dolenni testun o fewn paragraffau (1.4.1 Defnydd o Lliw (Lefel A))
Efallai y bydd pobl yn ei chael hi’n anodd darllen rhywfaint o destun oherwydd lefelau cyferbyniad isel rhwng y cefndir a’r testun (1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm) (Lefel AA))
Nid yw rhai meysydd mewnbwn yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin a'r rhai sy'n defnyddio meddalwedd ysgogi llais. (1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A), 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A))
Nid yw penawdau a gyflwynir gan dechnoleg gynorthwyol darllen sgrin yn cyfateb i'r rhai a gyflwynir yn weledol (1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A))
Mae gan rai tudalennau ar dudalen y cyfrif benawdau lefel 1 lluosog (1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A))
Nid yw rhai labeli cyflwyno testun yn cyfateb i'r cwestiwn a gyflwynir a allai fod yn ddryslyd (2.4.6 Penawdau a Labeli (Lefel AA))
Ni chyhoeddir gwybodaeth ynghylch cymorth a gwallau yn awtomatig ddarllenwyr sgrin (3.3.1 Adnabod Gwallau (Lefel A))
Ni chyhoeddir crynodebau gwallau ar gyfer defnyddwyr technolegau cynorthwyol darllen sgrin. (4.1.3 Negeseuon Statws (Lefel AA))
Rydym yn gweithio i drwsio cynnwys sy'n methu â chyrraedd safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.
Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Gorffennaf 2024. Bydd hyn yn cael ei adolygu eto ym mis Mehefin 2025.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 30 Mai 2024 yn erbyn safon AA WCAG 2.2.
Cyflawnwyd y prawf gan a gynhaliwyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC). Defnyddio offer profi awtomataidd a phrofi defnyddwyr â llaw.