Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch gyda materion technegol am yr Ap, cysylltwch â ni trwy Ddesg Wasanaeth DHCW.
I'w gwblhau gan y practis meddyg teulu.
Os oes gan gleifion broblem dechnegol gyda'r App, neu eisiau rhoi adborth, gallant ddefnyddio'r botwm adborth sy'n weladwy ar bob tudalen o'r App.
Os nad ydyn nhw’n gallu gweld y botwm adborth, bydd angen iddyn nhw droi cwcis dadansoddol dewisol ymlaen trwy:
Mae cwcis yn ffeiliau bach a ddefnyddir i wneud gwefannau yn gyflymach i gael mynediad iddynt ac yn haws eu defnyddio, a darparu mwy o nodweddion i ddefnyddwyr. Dysgwch ragor am gwcis.
Os yw’n well ganddyn nhw beidio â chaniatáu cwcis, bydd angen iddyn nhw roi gwybod am y broblem drwy lenwi’r arolwg ar-lein.
Os yw'r claf yn adrodd am broblem gan ddefnyddio'r llwybr "Mae gen i broblem gydag Ap GIG Cymru" yn y ffurflen adborth, efallai y byddant yn derbyn ymateb e-bost gan y Ddesg Wasanaeth.