Os nad yw eich practis yn cynnig apwyntiadau i’w bwcio ar-lein o fewn yr Ap, gallwch chi dal alluogi’r nodwedd. Mae hyn yn caniatáu i gleifion weld apwyntiadau’r gorffennol a rhai yn y dyfodol. Byddan nhw hefyd yn gallu canslo unrhyw apwyntiadau sydd ar ddod o fewn yr Ap.
Er mwyn i gleifion fedru gweld y slotiau apwyntiad sydd ar gael yn yr ap, rhaid i’r practis sicrhau yn gyntaf eu bod ar gael i’w harchebu ar-lein yn y system glinigol.
Rydyn ni’n argymell bod unrhyw apwyntiadau sydd ar gael i’w harchebu dros y ffôn hefyd yn cael eu cynnig ar-lein drwy’r ap. Rydyn ni’n cydnabod bod practisiau wedi gorfod newid y ffordd maen nhw’n trefnu apwyntiadau yn ddiweddar. Mae’r ap yma i’ch cefnogi chi trwy’r newidiadau hyn.
Dyma enghreifftiau o apwyntiadau y gallai practis eu cynnig ar-lein:
Po fwyaf o fathau o apwyntiadau y gallwch eu cynnig i’w harchebu ar-lein, y mwyaf y bydd pobl yn defnyddio’r ap a’r mwyaf o amser y bydd hyn yn ei arbed i staff y dderbynfa.
Fodd bynnag, mae hi fyny i bob practis i wneud y penderfyniadau am archebu ar-lein sydd fwyaf addas ar gyfer eich ffordd chi o weithio. Disgwylir y bydd meddygfeydd yn brysbennu cleifion cyn cynnig apwyntiad y gellir ei archebu. Gallwch ddefnyddio nodweddion yn eich systemau clinigol i gefnogi eich prosesau.
Gall y rhain gynnwys:
Mae’r dulliau’n amrywio mewn gwahanol systemau clinigol. Gallwch gael cymorth gan eich cyflenwr system. Rydyn ni wedi darparu canllawiau byr ar sicrhau bod eich apwyntiadau ar gael ar-lein o fewn systemau clinigol penodol.
Bydd Ap GIG Cymru yn dangos unrhyw apwyntiadau rydych wedi’u cynnig i’w harchebu ar-lein o fewn yr 16 wythnos nesaf.
DYLECH
PEIDIWCH Â
Enwau clinigol
Dylech gynnwys rhywedd yr aelod o’r practis yn y maes enw gan nodi (G) neu (B). Mae ymchwil yn dangos bod hyn yn bwysig i gleifion. Peidiwch â chynnwys enw'r aelod practis mewn enwau apwyntiadau oherwydd mae hyn yn achosi dryswch gan fod enw'r clinigydd yn cael ei arddangos ar wahân.
Mae’r dull o newid yr enwau yn dibynnu ar eich system glinigol.
Yn EMIS gall cleifion weld Enw’r Sesiwn a Math y Slot.
I newid Enw’r Sesiwn:
I newid y math o slot:
Gall cleifion ychwanegu nodyn am eu hapwyntiad os yw eu practis meddyg teulu wedi galluogi’r nodwedd hon yn yr Ap. Er enghraifft, gellir ei defnyddio i ddweud pam mae’r claf yn bwcio’r apwyntiad.
Gall eich practis wneud y maes nodiadau yn:
Dod o hyd i help a chefnogaeth ar gyfer defnyddio Emis