Neidio i'r prif gynnwy
Rhidian Hurle

Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol / Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol / Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru

Llawfeddyg Wroleg Ymgynghorol yw Mr Rhidian Hurle sy’n gweithio’n rhan amser ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru (2015), ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Meddygol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (2021).

Wedi iddo raddio o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru Caerdydd ym 1995, fe wnaeth hyfforddiant llawfeddygol sylfaenol ac wrolegol uwch, lle dyfarnwyd MD iddo gan Brifysgol Caerdydd am ei ymchwil i ganser y prostad.

Mae ganddo ddiploma ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol (Prifysgol Caerdydd), mae'n Athro Clinigol Anrhydeddus (Prifysgol Caerdydd) a chyn hynny, bu’n Diwtor Llawfeddygol yng Ngholeg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr.

Mae Rhidian yn aelod o Gymdeithas Llawfeddygon Wrolegol Prydain, Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin a Chymdeithas Wroleg Ewrop. Mae ganddo brofiad helaeth mewn wro-oncoleg ac mae ganddo ddiddordebau is-arbenigol mewn rheoli canser y bledren arwynebol risg uchel.

Mae gan Rhidian ddiddordeb mawr yn y defnydd o dechnoleg fel galluogwr darpariaeth gofal iechyd o ansawdd uchel ac mae ganddo radd Meistr gyda rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth Iechyd Digidol (Imperialaidd).

Mae’n Gymrodor Sylfaenol Cyfadran Gwybodeg Glinigol, ac fe’i hetholwyd gan ei gymheiriaid yn 223 i eistedd ar Banel Cynghori CCIO Rhwydweithiau Iechyd Digidol.

Mae Rhidian yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth gydag ef ac mae wedi ymrwymo i ddefnyddio technoleg i ysgogi gwelliannau yn ansawdd ac effeithlonrwydd gofal iechyd, ac fe’i cydnabuwyd fel arbenigwr yn ei faes gydag Athro Ymarfer o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2023.

Mae ganddo rôl arwain allweddol mewn ymgysylltu clinigol â'r agenda ddigidol yng Nghymru ac mae ganddo'r cyfrifoldebau canlynol yn ei bortffolio:

  • Gwarcheidwad Caldicott
  • Gweithio i Wella
  • Llywodraethu Gwybodaeth
  • Diogelwch Cleifion ac Ymchwilio i Ddigwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • E-lyfrgell y GIG
  • Ymchwil ac Arloesi
  • Sicrwydd Gwybodeg
  • Newid Busnes

Athrow Rhidian Hurle MBBCh, MRCS, PgDip Med Ed, MSc, MD, FRCS (urol), FFCI