Neidio i'r prif gynnwy
Llun proffil o Ifan Evans - Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Digidol
Ifan Evans

Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Digidol

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Digidol

Ymunodd Ifan Evans ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn 2022 fel Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth.  Mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys cynllunio strategol a pherfformiad sefydliadol, rhaglenni trawsnewid digidol, gwasanaethau masnachol, ymgysylltu a phartneru. 

Dechreuodd Ifan ei yrfa yn y sector preifat, gan arwain sawl busnes bach yn y sectorau manwerthu, lletygarwch ac eiddo.  Symudodd i’r sector cyhoeddus yn 2007 fel cyfarwyddwr gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg, gan arwain ar ymgysylltu â’r sector preifat a'r byd busnes, ac yna i Lywodraeth Cymru fel arweinydd ar gyfer Gwyddorau Bywyd ac Iechyd yn adran yr economi. 

Symudodd yn ddiweddarach i adran iechyd Llywodraeth Cymru, pan ysgrifennodd y strategaeth ar gyfer iechyd a gofal, Cymru Iachach, ac adeiladu cyfarwyddiaeth newydd a oedd yn canolbwyntio ar drawsnewid, arloesi a digidol.  Ifan oedd yr arweinydd cenedlaethol ar gyfer bod yn barod am Brexit ar draws iechyd a gofal, ac ar gyfer yr ymateb digidol i bandemig COVID-19. 

Mae Ifan wedi bod yn hyrwyddwr ar gyfer trawsnewid digidol, mabwysiadu technoleg, ac arloesi yn y llywodraeth a GIG Cymru.  Mae’n frwd dros gymhwyso technolegau digidol a data fel offer i egluro a symleiddio, lleihau amrywiadau direswm a gwneud gwasanaethau’n well i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.  Mae’n credu mai gweithio’n agored gydag ystod eang o bartneriaid yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â heriau presennol ac yn y dyfodol ym maes iechyd a gofal, yn enwedig drwy gymhwyso datrysiadau newydd i broblemau presennol a mesur canlyniadau mewn amser real. 

Daw Ifan yn wreiddiol o Geredigion yng ngorllewin Cymru, mae’n siarad Cymraeg yn rhugl, ac mae ganddo raddau o Brifysgolion Rhydychen, Caerdydd ac Aberystwyth.