Neidio i'r prif gynnwy
Llun proffil o david Selway - Aelod Annibynol
David Selway

Aelod Annibynol

Digital Health and Care Wales

Amdanaf i

Aelod Annibynol

Mae David yn beiriannydd siartredig â gradd mewn Technoleg Gwybodaeth a thros 40 mlynedd o brofiad mewn TGCh ar draws nifer o fertigau’r farchnad. Treuliodd David ei yrfa gynnar gyda Ferranti yn dylunio a darparu datrysiadau TG cymhleth.  

Ymunodd â Rolls-Royce yn 2002 ac yn fuan ar ôl hynny, arweiniodd raglen trawsnewid digidol fawr a oedd yn galluogi gwasanaethu busnes awyrofod sifil Rolls-Royce. Mae David wedi dal nifer o swyddi uwch weithredol gyda Rolls-Royce ac roedd yn rhan o dîm arweinyddiaeth R2 Data Labs a oedd â’r dasg o gyflymu strategaeth ddigidol Rolls-Royce. Mae ganddo brofiad diweddar o ddefnyddio platfformau agored, arloesedd ddigidol a dylunio gwasanaethau digidol.  

Mae gan David rôl ran-amser hefyd fel ymgynghorydd rheoli gyda phractis Ymgynghori a Thechnoleg Strategol Amey. Mae ganddo ddiploma ôl-raddedig mewn Marchnata hefyd a chyflawnodd statws marchnatwr siartredig yn 2002.