Neidio i'r prif gynnwy
Andrew Fletcher

Aelod Cyswllt o'r Bwrdd

Amdanaf i

Aelod Cyswllt o'r Bwrdd

Mae Andrew yn Aelod Cyswllt o'r Bwrdd ar y Bwrdd sy'n cynrychioli'r Undebau Llafur. Mae'n Gyd-gadeirydd y Fforwm Partneriaeth Lleol, fel grŵp cynghori i'r Bwrdd. Mae ei ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth wedi'i hen sefydlu dros nifer o flynyddoedd. Mae’n cynnwys sawl sefydliad ac mae llwyddiant y sefydliadau hyn yn brawf o hynny.

Yn broffesiynol, mae Andrew yn arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  Ar ôl ymuno â'r GIG yn 2002, mae ganddo  brofiad helaeth ym maes darparu gwasanaethau iechyd, ac yn arbennig ym maes Llywodraethu Gwybodaeth. Ei rôl yw darparu'r cyngor a'r sicrwydd priodol i alluogi defnyddio gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfreithlon i sbarduno gwasanaethau gwell, o ansawdd uchel ac sy’n effeithlon trwy dechnoleg.

Fel cyfreithiwr academaidd sydd â gradd Baglor a Meistr yn y gyfraith, mae Andrew wedi bod wrthi’n ymchwilio yn ei faes proffesiynol, ac ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu ei PhD ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.

Mae Andrew sydd o Gaerfyrddin, yn Ne-orllewin Cymru, yn gefnogwr balch o gerddoriaeth fyw a'r celfyddydau dramatig, a hynny ar ôl perfformio ar lwyfan ers pan oedd yn ifanc.