Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad o gyfrifoldebau'r swyddog cyfrifyddu

Yr adroddiad atebolrwydd a’r cyfrifon

Datganiad o gyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo mai’r Prif Weithredwr ddylai fod yn Swyddog Atebol i’r Awdurdod Iechyd Arbennig.

Mae cyfrifoldebau perthnasol Swyddogion Atebol, gan gynnwys eu cyfrifoldeb am briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus maen nhw’n atebol amdano, ac am gadw cofnodion priodol, yn cael eu manylu ym Memorandwm y Swyddog Atebol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Gallaf gadarnhau:

  • Hyd eithaf fy ngwybodaeth, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr yr endid yn ymwybodol ohoni, ac fy mod i fel y Swyddog Atebol wedi cymryd yr holl gamau y dylwn fod wedi’u cymryd i wneud fy hun yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac wedi cadarnhau bod archwilwyr yr endid yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.
  • Bod adroddiad blynyddol a chyfrifon Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy a fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu ei fod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Hyd eithaf fy ngwybodaeth a’m cred, rwyf wedi cyflawni’n briodol y cyfrifoldebau a nodwyd yn y llythyr sy’n fy mhenodi fel Swyddog Atebol.

Llofnodwyd gan Helen Thomas

Dyddiad: 27th Gorffenaf 2023