Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad y cyfarwyddwyr ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 mawrth 2023

Yr adroddiad atebolrwydd a’r cyfrifon

Adroddiad y cyfarwyddwyr ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 mawrth 2023

Mae’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer yr adroddiad hwn i’w gweld yn y tablau a’r tudalennau yn yr adroddiad blynyddol y manylir arnynt isod:

CYFANSODDIAD Y BWRDD AC AELODAETH

Cyfansoddiad y Bwrdd Mae Atodiad 1 yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyfansoddiad y Bwrdd, gan gynnwys cyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol, sydd ag awdurdod neu gyfrifoldeb am gyfarwyddo neu reoli prif weithgareddau Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23.

Mae hyn yn cynnwys enwau’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr. Mae Tabl 1 hefyd yn cynnwys enwau’r cyfarwyddwyr sy’n ffurfio’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd. Mae Atodiad 1  hefyd yn manylu ar y cyfarfodydd a fynychwyd yn ystod y flwyddyn a’r rolau hyrwyddwr y cytunwyd arnynt gan Aelodau’r Bwrdd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, gellir gweld bywgraffiadau byr o holl Aelodau’r Bwrdd ar wefan yr Awdurdodau Iechyd Arbennig.

COFRESTR O FUDDIANNAU

Er mwyn sicrhau bod penderfyniadau teg a chyfiawn yn cael eu gwneud, mae’n ofynnol i’r Bwrdd ddatgan unrhyw fuddiannau a allai wrthdaro â chyfrifoldebau’r sefydliad. Caiff hwn ei diweddaru’n rheolaidd a’i dderbyn gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd ar ran y Bwrdd, ac fe’i cyhoeddir ar wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru o dan ddogfennau allweddol. Gellir cael copi caled gan Ysgrifennydd y Bwrdd ar gais.

DIGWYDDIADAU SY’N GYSYLLTIEDIG Â DATA PERSONOL

Rhoddir gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n ymwneud â data personol a adroddwyd yn ffurfiol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a “digwyddiadau anffafriol difrifol” yn ymwneud â cholli data neu dorri cyfrinachedd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol

MATERION AMGYLCHEDDOL, CYMDEITHASOL A CHYMUNEDOL

Mae manylion strategaeth ddatgarboneiddio Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’i chynnydd ar gael yn yr Adroddiad Perfformiad ENTER pages.

DATGANIAD AR GYFER DEILIAID GWYBODAETH Y SECTOR CYHOEDDUS

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cadarnhau ei fod wedi cydymffurfio â’r dyraniad costau a’r gofynion codi tâl a nodir yng nghanllaw Trysorlys EM yn ystod y flwyddyn.