Trosolwg perfformiad bwydlen
Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’n cyflawniadau allweddol, yn ogystal â’r mentrau hynny sydd angen rhagor o amser a/neu gynllunio i’w cyflawni. Mae’r cyflawniadau’n cwmpasu’r deuddeg portffolio a nodwyd yn ein cynllun 2022-23, ac felly prif gorff y gwaith a gyflawnwyd. Mae’r mentrau hynny na chawsant eu cwblhau yn ôl y cynllun yn ystod y flwyddyn wedi cael eu hailgynllunio gyda rhanddeiliaid a byddant yn ymddangos yn ein cynllun ar gyfer 2023-24.
Yn ystod ein hail flwyddyn fel Awdurdod Iechyd Arbennig, fe wnaethom gryfhau partneriaethau gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gofal sylfaenol a sefydliadau eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol, i gefnogi ymateb GIG Cymru i bandemig COVID-19. Ar yr un pryd, fe wnaethom barhau i gynnal a datblygu seilwaith a systemau digidol cenedlaethol craidd, ac rydym yn parhau â’r lefel hon o gydweithio i 2022-23.
Gwnaethom gyflawniadau allweddol ar draws ein 12 portffolio, gan ymgymryd â rhaglenni gwaith newydd sylweddol. Ar yr un pryd, fe wnaethom barhau i gefnogi cydweithwyr yn GIG Cymru i wella drwy’r gwasanaethau digidol sydd ar gael i gefnogi gofal rheng flaen, ac wrth symud cynlluniau trawsnewid digidol cenedlaethol ymlaen. Mae ein cynllun busnes blynyddol yn gynllun uchelgeisiol yr ydym yn ei ystwytho er mwyn gallu ymgymryd â gwaith ychwanegol yn ystod y flwyddyn, ac rydym yn cyflawni hyn trwy ymarfer parhaus o adolygu ac ail-flaenoriaethu llwyth gwaith. Wrth gwrs mae hyn yn golygu y bydd rhai mentrau yn cael eu harafu neu eu hoedi o fewn y cyfnod. Nodir y mentrau hynny yn eu hadrannau perthnasol isod, ochr yn ochr â'r cyflawniadau yr ydym wedi'u gwneud.
Symudodd ein huchelgais i gyflawni pensaernïaeth agored ymlaen gyda strategaeth ar gyfer datblygu a chyflawni Blociau Adeiladu Pensaernïaeth, y cydrannau sylfaenol a’r rhyngweithiadau sydd eu hangen ar gyfer cofnod iechyd a gofal digidol. Mae hyn yn cynnwys cyfleuster i drydydd parti ddatblygu meddalwedd mewn rhai meysydd allweddol, gan ddefnyddio ein system Rheoli API.
Fe wnaethom gyhoeddi Strategaeth Ddata yr Adnodd Data Cenedlaethol a’r Strategaeth Dadansoddeg Uwch i sicrhau mwy o allu i drawsnewid data iechyd a gofal. Fe wnaethom hefyd gaffael y Platfform Data Cenedlaethol, a fydd yn sail i fynediad at y data sy’n ofynnol gan y Cofnod Iechyd a Gofal Digidol.
Roedd map ffordd yr Offeryn Archwilio Cenedlaethol yn ein cynllun ar gyfer 2022-23, ac mae rhan o’r gwaith wedi’i gyflawni yn ystod y cyfnod, ond mae mwy i’w wneud o hyd yn 2023-24.
Fel y sefydliad digidol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru, mae gennym rôl arwain systemau i ddiogelu’r rhwydwaith gofal iechyd cenedlaethol, yn ogystal â’r swm helaeth o wybodaeth a data cleifion sy’n cael eu storio’n electronig. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a chydweithwyr o fewn GIG Cymru i sicrhau bod systemau digidol yn wydn ac yn ddiogel.
Gan weithio gyda chydweithwyr ar draws Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ymatebodd ein tîm Microsoft 365 (M365) yn gyflym i ymosodiad seiber a effeithiodd ar gyflenwr digidol GIG Cymru. Gweithiodd y tîm M365 gyda'n timau cymwysiadau i ddarparu datrysiad parhad busnes amser-gritigol i gefnogi defnyddwyr y gwasanaeth 111/GP y Tu Allan i Oriau yr effeithiwyd arnynt gan yr ymosodiad seibr ar system y cyflenwr. Datblygodd ein tîm Newid Busnes ddeunyddiau hyfforddi yn gyflym a gweithiodd yn agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau y gellid mabwysiadu'r datrysiad parhad busnes gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl.
Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd byddwn yn parhau i fabwysiadu gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl gan ddefnyddio dull cwmwl yn gyntaf ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau newydd a phresennol.
Gan weithio tuag at ein nod o’r cwmwl yn gyntaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol i optimeiddio gweithrediad y cwmwl, ac o fewn hyn rydym wedi gwneud arbedion a fydd yn cyfateb i bron i hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, bydd ein cyfleuster canolfan ddata newydd (sydd i fod i fynd yn fyw yn 2024) yn rhyddhau rhagor o arbedion effeithlonrwydd.
Er mwyn ysgogi arloesedd digidol creadigol ar draws GIG Cymru a chefnogi staff i ddefnyddio platfform M365, lansiwyd Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru.
Nod y Ganolfan Ragoriaeth, a gynhelir o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yw hybu prosiectau gwella cynaliadwy, llwyddiannus ar draws GIG Cymru drwy ddatblygu a rhannu gwybodaeth a syniadau drwy arfer gorau.
Ochr yn ochr ag offer mwy cyfarwydd fel Teams, Word a SharePoint, mae'r Ganolfan Ragoriaeth yn cefnogi cydweithwyr i wneud defnydd o'r Microsoft Power Platform, sy'n cynnwys Power Apps, Power BI a Power Automate. Mae'n galluogi staff i adeiladu apiau, mae’n gymorth i gipio data, awtomeiddio prosesau, ac adrodd ar wybodaeth fusnes i fodloni gofynion clinigol a rheoli.
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru wedi caffael casgliad newydd o 400 o e-lyfrau o ddeunydd cyfeirio meddygol, addysgol a datblygu gyrfa, gan ddarparu hyd yn oed mwy o offer tystiolaeth i GIG Cymru a staff gofal cymdeithasol. Dewiswyd cynnwys trwy gydweithio â llyfrgellwyr ar draws GIG Cymru ynghyd â Llywodraeth Cymru a’i ddarparu trwy EBSCO Information Services a Browns Books - prif gyflenwr llyfrau ac e-lyfrau’r DU i ysgolion a llyfrgelloedd.
Erbyn diwedd 2022-23, roedd mwy na 35,000 o weithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru yn defnyddio Porth Clinigol Cymru. Mae Porth Clinigol Cymru yn darparu mynediad at gofnod iechyd electronig y claf drwy goladu gwybodaeth cleifion o sawl ffynhonnell, cefnogi llif gwaith clinigol a galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau clinigol gwell a mwy diogel. Mae Porth Clinigol Cymru yn darparu mynediad wedi’i archwilio at yr holl brofion gwaed, delweddu radiolegol, atgyfeiriadau, llythyrau cleifion allanol, alergeddau ac adweithiau niweidiol, rhybuddion cleifion, crynodebau rhyddhau, cofnodion cryno meddygon teulu a digwyddiadau gofal. Rydym yn parhau i nodi bylchau yng nghynnwys cofnodion iechyd electronig ac yn gweithio i gasglu mwy o wybodaeth am ofal cleifion er mwyn sicrhau bod y cynnig digidol sydd ar gael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol o fewn GIG Cymru yn fwy cyflawn.
Er mwyn symleiddio a lleihau apwyntiadau cleifion allanol diangen mewn gofal eilaidd, fe wnaethom gyflwyno swyddogaeth e-Gyngor Meddygon Teulu yn System Atgyfeirio Cleifion Cymru sy’n ei gwneud yn bosibl i sgyrsiau am gyngor clinigol ac arweiniad ddigwydd rhwng meddygon teulu a meddygon ysbyty, gan ddileu’r angen yn aml i rai cleifion fynd i’r ysbyty.
Rydym yn parhau i wneud gwelliannau wedi’u cynllunio gan ddefnyddwyr i helpu i foderneiddio gwasanaethau Cleifion Allanol – dyma un o flaenoriaethau craidd Llywodraeth Cymru. Mae data am bresenoldeb cleifion allanol yn cael eu casglu bellach yn Hyb Data GIG Cymru a ddefnyddir i storio a chyflwyno gwybodaeth allweddol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.
Aeth gweithrediad hir ddisgwyliedig WelshPAS Iechyd a Gofal Digidol Cymru yng Nghanolfan Ganser Felindre yn fyw ym mis Ionawr 2023.
Mae WelshPAS yn cadw manylion adnabod cleifion, ac yn cofnodi manylion ymweliadau cleifion ag ysbytai, gan gynnwys rheoli rhestrau aros, cofnodion meddygol, triniaeth cleifion mewnol, apwyntiadau cleifion allanol ac ymweliadau brys.
Mae gweithredu WelshPAS yng Nghanolfan Ganser Felindre yn rhan o ‘Raglen Ganser' ehangach Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a sefydlwyd i weithredu Datrysiad Gwybodeg Canser i Gymru i ddisodli’r System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (Canisc) gyfredol.
Mae symud Canolfan Ganser Felindre i bensaernïaeth genedlaethol a chysoni un o’i systemau gweithredol allweddol â gweddill Cymru yn dod â manteision sylweddol gan gynnwys:
Roedd cyflawni hyn yn ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad, penderfyniad ac ymdrech gan bawb a gymerodd ran, yn ogystal â chydweithio a gwaith tîm ar draws y ddau sefydliad. Mae’r adborth cynnar wedi bod yn anhygoel o gadarnhaol ac mae defnyddwyr yn canmol y gwell mynediad at wybodaeth glinigol y mae'r system newydd yn ei ddarparu.
Mae’r ateb i gefnogi darparu gwasanaethau canser yn defnyddio Porth Clinigol Cymru a System Gweinyddu Cleifion Cymru (WelshPAS) ac rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ganser Felindre (VCC) a’r rhwydwaith canser fel rhan o’r gwaith o foderneiddio gwasanaethau canser.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru i ddisodli’r dogfennau papur y mae nyrsys yn eu defnyddio ar hyn o bryd â dewis amgen digidol. Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR), sydd wedi ennill gwobrau, a fydd wedi ei gyflwyno ym mhob man yn 2023, yn newid arferion gwaith ac yn galluogi nyrsys i dreulio mwy o amser yn gofalu am gleifion.
Ychwanegu Dolen i fideo Nyrsio newydd Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR)
Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru wedi casglu mwy na 3.9 miliwn o nodiadau nyrsio cleifion mewnol mewn ychydig llai na dwy flynedd.
Mae'r system ddigidol wedi trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi gwybodaeth cleifion ac mae ganddi fwy na 13,000 o ddefnyddwyr bob mis. Mae hefyd wedi gweld 3.3 miliwn o asesiadau risg cleifion yn cael eu cwblhau’n electronig rhwng Ebrill 2021 a Chwefror 2023. Cafodd mwy na 1.8 miliwn o asesiadau poen eu cwblhau, a dros 394,000 o asesiadau ar gyfer briwiau pwyso ar y croen a thros 223,000 o asesiadau ar gyfer codymau.
Yn hytrach na gwneud nodiadau ar bapur, mae nyrsys yn defnyddio cyfrifiaduron llechen i gasglu gwybodaeth yn electronig wrth erchwyn gwely claf. Mae'r system hon a ddyluniwyd gan nyrsys, yn storio gwybodaeth gofal cleifion yn ddiogel yn y Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, mae’n defnyddio iaith nyrsio safonol ac yn gwella cywirdeb a rhannu gwybodaeth rhwng lleoliadau gofal. Mae hyn yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu unwaith a'i defnyddio ar hyd taith gofal iechyd y claf i gefnogi gwneud penderfyniadau mwy diogel a gwybodus ni waeth ble mae'r gofal hwnnw'n digwydd. Mae’r rhaglen ddigidol hon yn dileu’r angen i chwilio am nodiadau papur neu ofyn i’r claf ailadrodd gwybodaeth y mae eisoes wedi’i rhoi gan roi sicrwydd a hyder i gleifion ar hyd eu taith gofal.
Yn ôl gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda chleifion diabetes, mae cofnod electronig a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cleifion diabetes yn “drawsnewidiad go iawn”.
Soniodd un dietegydd am sut mae’r Nodyn Ymgynghori Digidol ar Ddiabetes (DCN) yn arbed amser iddi, gan nad oes rhaid iddi bellach ysgrifennu’n ôl at nyrsys atgyfeirio nac ymgynghorwyr.
Esboniodd Victoria Oldham, dietegydd Diabetes arbenigol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: “Gallaf ddiweddaru’r nodyn ac rwy’n gwybod y bydd gan weithwyr iechyd proffesiynol perthnasol eraill fynediad ato hefyd. Yn ogystal â bod yn fwy effeithiol gan fod yr holl wybodaeth mewn un lle, mae hefyd yn arbed llawer iawn o amser.”
Ceir mynediad i’r nodyn trwy Borth Clinigol Cymru ac fe’i defnyddir i gofnodi, gweld a rhannu gwybodaeth am gleifion gyda diabetes.
Mae Dr Gautam Das, ymgynghorydd diabetes, wedi bod yn defnyddio’r Nodyn Ymgynghori Digidol ar Ddiabetes (DCN) ers iddo gael ei dreialu yn Ysbyty’r Tywysog Siarl yn 2019.
Dywedodd: “Mae’n drawsnewidiad go iawn. “Mae’n arwain at newid patrwm yn y ffordd rydym yn rheoli diabetes ac yn cynnal cofnodion cleifion”.
Mae’r Nodyn Ymgynghori Digidol ar Ddiabetes ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol ar gyfer gofal diabetes gan gynnwys dieteteg, podiatreg a gofal cynenedigol mewn ysbytai ym Myrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda.
Bydd gwasanaeth digidol newydd sy’n ‘rhoi gofal iechyd ar flaenau eich bysedd’ yn ei gwneud yn haws i ddinasyddion Cymru ryngweithio ag iechyd a gofal. Aeth Ap GIG Cymru drwy brofion helaeth yn ystod y flwyddyn cyn symud i gyfnod lle gwahoddwyd aelodau’r cyhoedd i ymuno â gweithgaredd profi yn gynnar yn 2023.
Mae ar gael ar ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechen a chyfrifiaduron, ac yn ddatblygiad allweddol yn y Rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd, a fydd yn helpu pobl yng Nghymru i gael mynediad at ofal iechyd gwell a chefnogi darparwyr iechyd i ddarparu gofal yn fwy effeithlon
Fel rhan o’r profion defnyddwyr cychwynnol, archebwyd dros 500 o bresgripsiynau amlroddadwy, edrychwyd ar dros 3,400 o gofnodion ac archebwyd 100 o apwyntiadau gyda Meddyg Teulu.
Roedd datblygiad parhaus System Imiwneiddio Cymru (WIS) yn cynnwys data brechu trawsffiniol y DU gyfan a thramor. Mae’r gwelliannau hyn yn helpu i greu cofnod mwy cywir ar gyfer pobl a gafodd eu brechiadau y tu allan i’w hardal breswyl, trwy gynnwys hanes brechiadau llawn y gall clinigwyr ei weld pan fo angen. Roedd fersiwn pellach o System Imiwneiddio Cymru (WIS) yn darparu negeseuon testun Cymraeg a dwy ffordd, sy’n golygu bod pobl sy’n cofnodi’r Gymraeg fel eu dewis iaith yn gallu cael gwybodaeth amserol a chywir yn Gymraeg.
Mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) wedi’i defnyddio i gefnogi’r gwaith o weinyddu 8.9 miliwn o frechiadau ers dechrau’r pandemig, ac 1.1 miliwn o frechiadau yn ystod rhaglen gaeaf 2022 rhwng mis Medi a mis Rhagfyr.
Cymru yw’r unig ran o’r DU i ddatblygu datrysiad rheoli brechu mewn modd digidol gan ddefnyddio tîm meddalwedd mewnol sy’n bodoli eisoes. Bu’r tîm o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i ddarparu’r datrysiad digidol ar gyfer rheoli, dosbarthu ac adrodd ynghylch rhaglen frechu COVID-19
Mae’r system yn defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg cleifion, grwpiau galwedigaeth a lefelau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer derbyn y brechiad, er mwyn trefnu apwyntiadau ar gyfer cleifion. Mae hefyd yn cadw cofnod o lefelau stoc brechiadau, yn creu slotiau ar gyfer apwyntiadau, yn anfon llythyrau apwyntiad, ac yn cofnodi manylion yr holl frechiadau ar gyfer pob brechiad Covid 19 a roddir yng Nghymru.
Roedd ein cynllun ar gyfer 2022-23 yn cynnwys mentrau eraill yn y portffolio Gofal Wedi’i Gynllunio a Gofal Heb ei Drefnu, ond roedd rhai o’r rhain, gan gynnwys cyflwyno’r system Adrannau Achosion Brys, integreiddio Gofal Llygaid i’r bensaernïaeth genedlaethol, a’r system Gofal Dwys, yn destun oedi. Mae’r rhain bellach yn rhan o gynllun 2023-24.
Roedd ein cynllun ar gyfer 2022-23 yn cynnwys mentrau eraill yn y portffolio Gofal Wedi’i Gynllunio a Gofal Heb ei Drefnu, ond roedd rhai o’r rhain, gan gynnwys cyflwyno’r system Adrannau Achosion Brys, integreiddio Gofal Llygaid i’r bensaernïaeth genedlaethol, a’r system Gofal Dwys, yn destun oedi. Mae’r rhain bellach yn rhan o gynllun 2023-24.
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn wasanaeth digidol ar gyfer nyrsys, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion i’w helpu i gydweithio’n well. Mae’n galluogi mynediad at wybodaeth berthnasol am y gofal a ddarperir ac yn dangos pa gam y mae claf wedi’i gyrraedd yn ei driniaeth a’i gynllun gofal.
Mae’r manteision yn cynnwys rhyddhau cleifion yn gynt o’r ysbyty, llai o apwyntiadau’n cael eu methu, cofnodion cywir, gofal mwy diogel, arbed amser a chost, diogelwch clinigol drwy rannu data, llai o ddyblygu cofnodion, gwell darpariaeth gwasanaeth, gostyngiad mewn derbyniadau diangen i’r ysbyty a gwell profiad i gleifion.
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru bellach yn fyw mewn 19 o sefydliadau ledled Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw’r diweddaraf i ymuno, gyda dros 3,000 o ddefnyddwyr. Dechreuodd cynllun peilot gyda charfan fawr o nyrsys ardal proffesiynol hefyd yn ardal Betsi Cadwaladr yn 2022. The table below indicates what patients would have done, had they not gone to their community pharmacy for a consultation:
Mae fferyllwyr cymunedol yng Nghymru yn defnyddio gwasanaeth canfod bacteria i annog cleifion i sgrinio rhag heintiau.
Mae gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf (STTT) Dewis Fferyllfa yn hyrwyddo stiwardiaeth gwrthficrobaidd trwy ddefnyddio dull cam wrth gam archwiliad clinigol gan fferyllydd. Mae hyn hefyd yn annog cleifion sy’n bodloni’r meini prawf i ddefnyddio’r gwasanaeth swab dolur gwddf yn y fan a’r lle i sgrinio rhag heintiau bacterol.
Os na chanfyddir bacteria, mae’n debyg mai firws sy’n achosi’r dolur gwddf - sy’n golygu na fyddai gwrthfiotigau yn helpu. Bydd canlyniadau swab gwddf ar gael mewn munudau ac os oes haint bacterol yn bresennol a bod gwrthfiotigau’n gallu helpu’r claf, gall y fferyllydd eu darparu.
Dim ond ar ôl i’r fferyllydd drafod y manteision a’r niwed posibl, gan gynnwys ymwrthedd i wrthfiotigau, y caiff gwrthfiotigau eu rhoi.
Anfonir canlyniadau yn ddigidol at Feddyg Teulu’r claf trwy Dewis Fferyllfa, y seilwaith digidol a ddatblygodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gefnogi darparu gwasanaethau mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.
Yn 2022-23 cafwyd dros 28,000 o ymgynghoriadau Profi a Thrin Dolur Gwddf (STTT) ar draws fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.
System Gweinyddu Cleifion Cymru (Welsh PAS) Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw prif ffynhonnell data gweinyddol ar gyfer cleifion mewn ysbytai. Mae’n cadw manylion adnabod cleifion, ac yn cofnodi manylion ymweliadau cleifion ag ysbytai, gan gynnwys rheoli rhestrau aros, cofnodion meddygol, triniaeth cleifion mewnol, apwyntiadau cleifion allanol ac ymweliadau brys.
Symudwyd y data y bu hir ddisgwyl amdano o System Rheoli Gwybodaeth Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gorllewin) i mewn i fynegiad canolog WelshPAS ac aeth yn fyw yn llwyddiannus ym mis Mai 2022 , gyda 2,800 o ddefnyddwyr ychwanegol, sydd bellach yn gwneud cyfanswm o dros 6,800 o ddefnyddwyr ar draws y mynegiad unigol. Mae hyn yn rhan o raglen waith fesul cam i gyfuno’r tair system ar wahân ar gyfer rheoli cleifion yn Betsi Cadwaladr yn un gronfa System Gweinyddu Cleifion Cymru ar draws y bwrdd iechyd – dyma’r gweithrediad mwyaf o System Gweinyddu Cleifion yng Nghymru ers 2013.
Bydd datblygu un enghraifft o System Gweinyddu Cleifion Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn symleiddio’r broses ofal ac yn galluogi i wybodaeth gyfredol a chywir fod ar gael i gydweithwyr clinigol a chlerigol ar gyfer darparu gwasanaethau ar draws y bwrdd iechyd.
Roedd Mamolaeth Ddigidol Cymru yn falch o gyhoeddi cymeradwyaeth Gweinidogol a £7 miliwn o gyllid yn ddiweddar ar gyfer rhaglen waith pum mlynedd a fydd yn trawsnewid gwasanaethau mamolaeth yn ddigidol i fenywod a chlinigwyr yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Byrddau Iechyd yn defnyddio cyfuniad o systemau digidol a phapur gwahanol, ond mae sawl adolygiad diweddar o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru a’r DU wedi galw am greu system ddigidol unedig. Bydd y system famolaeth newydd yn cael ei hategu gan fframwaith clinigol safonol a fydd yn ymgorffori data, llwybrau gofal a gwybodaeth i fenywod. Bydd yn integreiddio â seilwaith digidol craidd GIG Cymru ac yn rhan o’r cofnod clinigol sengl ar gyfer Cymru.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru fydd yn caffael ac yn gweithredu’r system famolaeth ddigidol newydd hon. Bydd yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru i rannu gwybodaeth hanfodol yn gyflymach, gan gefnogi gwasanaethau mamolaeth diogel, effeithiol a chyson lle bynnag y bydd menywod yn dewis cael gofal.
Bydd gan fenywod fynediad digidol at eu cofnod mamolaeth personol hefyd, lle gallant gyfrannu manylion sy’n bwysig iddyn nhw a derbyn cyngor iechyd perthnasol a nodiadau atgoffa. Dim ond unwaith y bydd angen iddynt rannu eu gwybodaeth allweddol.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi mabwysiadu arweinyddiaeth dwy raglen ddiagnosteg newydd allweddol GIG Cymru, Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC) a Chaffael y System Gwybodeg Radioleg (RISP), a fydd yn moderneiddio’r broses o ddigido adroddiadau diagnosteg. Trosglwyddwyd y rhaglenni hyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar 1 Ionawr 2023.
Roedd trosglwyddo’r rhaglenni a’r staff yn gam pwysig wrth gysoni systemau digidol newydd mawr â gwasanaethau data a thechnoleg gofal iechyd cenedlaethol GIG Cymru, a ddarperir ac a weithredir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Bydd y trefniadau newydd yn galluogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru i reoli gweithrediad y rhaglenni hyn yn well fel busnes craidd.
Mae canlyniadau endosgopi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bellach ar gael ym Mhorth Clinigol Cymru gan sicrhau bod gwybodaeth endosgopi hanfodol ar gael ar draws ffiniau sefydliadol a daearyddol. Integreiddio data system endosgopi Powys oedd y tro cyntaf i system glinigol seiliedig ar gwmwl integreiddio â’n cadwrfa ganlyniadau. Mae data endosgopi hefyd ar gael ar gyfer Byrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda.
Bellach gall clinigwyr sy’n trin claf sydd wedi cael prawf endosgopi yn y Byrddau Iechyd hyn weld y canlyniad yn WCP waeth pa sefydliad GIG Cymru y maen nhw’n perthyn iddo. Mae hyn yn rhoi mwy o wybodaeth glinigol i’r clinigwr i lywio penderfyniadau ac o bosibl yn lleihau nifer y profion sy’n cael eu dyblygu. Mae cyfanswm o ddeuddeg ysbyty bellach yn adrodd am ganlyniadau endosgopi ledled Cymru, gyda dros 59,000 o ganlyniadau endosgopi wedi’u gweld yn WCP gan ymarferwyr gofal iechyd, ar draws ffiniau Byrddau Iechyd Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol.
Mae’r portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol yn darparu dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Mae’r portffolio yn dod â phedair rhaglen ynghyd i wneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn effeithiol
Yn dilyn adolygiad annibynnol o ragnodi electronig yng Nghymru, nododd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ei huchelgais ar gyfer cynllun meddyginiaethau digidol cynhwysfawr i Gymru:
Mae’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol yn cydlynu pedwar maes gwaith.
Llofnodi a throsglwyddo presgripsiynau’n electronig oddi wrth feddygon teulu a rhagnodwyr anfeddygol i’r fferyllfa gymunedol neu fferyllydd o ddewis yr unigolyn.
Ymgysylltodd y rhaglen â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cyflenwyr Meddygon Teulu a chyflenwyr systemau Fferylliaeth Gymunedol ym mis Awst 2022 i adolygu gofynion gyda lansiad ‘prawf o gysyniad’ wedi’i gynllunio ar gyfer haf 2023.
Gweithredu rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau (ePMA) ar draws holl ysbytai GIG Cymru. Anfon presgripsiynau cleifion allanol i fferyllfa o ddewis yr unigolyn. Sefydlwyd fframwaith aml-werthwr ar gyfer e-ragnodi mewn gofal eilaidd (ePMA) gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ran byrddau iechyd GIG Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Defnyddio Ap GIG Cymru i rannu a chasglu gwybodaeth am feddyginiaethau, archebu presgripsiynau rheolaidd ac enwebu fferyllfa o ddewis yr unigolyn.
Creu un cofnod o feddyginiaethau a rennir ar gyfer pob claf yng Nghymru fel bod yr holl wybodaeth mewn un lle.
Bydd y ffrydiau gwaith hyn yn moderneiddio ac yn digido rheoli meddyginiaethau, gan leihau gwastraff amgylcheddol, cost ac amser wrth gynyddu cywirdeb i gleifion a staff y GIG ledled Cymru.
Bydd cynllun y cofnod meddyginiaethau a rennir nawr yn cael ei gwblhau fel rhan o gynllun 2023-24.
Mae Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cymeradwyo strategaeth Ymchwil ac Arloesi a fydd yn cefnogi cydweithrediad Iechyd a Gofal Digidol Cymru gyda sefydliadau partner ledled Cymru ym meysydd gwella, arloesi ac ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gall ymchwil ac arloesi gynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gofal iechyd a gallant gefnogi sefydliadau a gwasanaethau gofal iechyd i ddarparu gwell gofal i bobl.
Mae Dangosfyrddau Data Cenedlaethol a ddatblygwyd gyda Rhaglen Gwerth mewn Iechyd GIG Cymru yn cyfuno ac yn delweddu ystod eang o wybodaeth yn ymwneud â chanlyniadau clinigol i gleifion, gweithgarwch gofal eilaidd, newidynnau mewn cymysgedd o achosion, marwolaethau, a ffactorau economaidd-gymdeithasol ar gyfer llawer o feysydd clinigol gwahanol.
Mae’r dangosfyrddau arloesol hyn yn cael eu defnyddio gan dimau clinigol, grwpiau diddordeb arbennig, rhwydweithiau clinigol, swyddogaethau cymorth a rhanddeiliaid eraill i’w helpu i wneud penderfyniadau gwell.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, daethom â data iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd mewn hyb data ‘prawf cysyniad’ i gymhwyso delweddau sy’n sail i ofynion data Cymru Iachach.
Data defnyddio Ceisiadau Prawf Electronig (ETR) :
Dangosfwrdd sy’n cynnwys data defnydd gofal eilaidd ar gyfer Ceisiadau Prawf Electronig (ETR) gwyddor gwaed a microbioleg – mae hyn yn galluogi byrddau iechyd i fonitro’r defnydd o ETR, o gymharu â cheisiadau am brawf papur, ac mae’r canlyniadau ar gael ar lefel ysbyty a ward, gan ddisodli’r dulliau llaw a ddefnyddiwyd yn flaenorol, gan arbed amser a sicrhau bod y data yn fwy gweladwy.
Mae dangosfwrdd Hysbysu Canlyniadau yn cael ei dreialu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Pan awdurdodir canlyniadau profion patholeg neu radioleg, hysbysir yr ymgynghorydd perthnasol bod y canlyniad wedi’i awdurdodi a bod angen ei gymeradwyo ym Mhorth Clinigol Cymru.
Mae’r dangosfwrdd newydd yn crynhoi canlyniadau’r profion o’r 30 diwrnod diwethaf ac yn ei gwneud yn bosibl drilio i lawr i gofnodion unigol. Un o fanteision allweddol y dangosfwrdd yw ei fod yn galluogi meddygon ymgynghorol i weld a chymeradwyo canlyniadau profion eu cleifion yn gyflymach, gan wella gofal cleifion a lleihau’r risg o niwed posibl yn sgil oedi wrth adolygu canlyniadau profion cleifion.
Prosiect Gwella Ansawdd Gweithgaredd Data Meddygon Teulu yn cyflwyno dadansoddiad o weithgarwch Meddygon Teulu
Mae echdynnu data yn ei wneud yn bosibl i ddata apwyntiadau fod ar gael yn y Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIP) i’w ddefnyddio gan bractisiau Meddygon Teulu. Mae’n galluogi Meddygon Teulu i ddechrau eu proses Gwella Ansawdd (QI) o safoni a gwella ansawdd data.
Mae’r data apwyntiadau wedi’i fapio wedi’i ddadansoddi gyda delweddau ac mae ar gael o fewn y PCIP ar lefel Practis, Clwstwr a Bwrdd Iechyd. Mae’r gweithgaredd hwn wedi cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella (QAIF) a’r gofynion cytundebol ar gyfer Safonau Mynediad, a dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i’r math hwn o ddadansoddiad fod ar gael.
Mae llif data misol o Gofrestrfa Genedlaethol y Cymalau, yn cynnwys data am gleifion sy’n cael eu trin yng Nghymru, ac ar drigolion Cymru sy’n cael eu trin mewn ysbytai yn Lloegr. Gellir creu golygfeydd i fwydo’n ôl i fyrddau iechyd a’u cysylltu â data yn y dangosfyrddau Arthroplasti Pen-gliniau a Chluniau. Mae Cam Dau’r Dangosfwrdd Arthroplasti Pen-gliniau wedi’i ryddhau i gynnwys data ar Ganlyniadau a Adroddir am Gleifion ac archwiliad pellach i ganlyniadau arthroplasti pen-gliniau.
Mae ansawdd wrth wraidd yr hyn a wnawn, yn y modd yr ydym yn cynnal ein busnes, yn y systemau a gynhyrchwn ac yn y data a ddarparwn. Yn hanfodol i hyn mae dull o ddatblygu cynhyrchion, systemau a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ansawdd, a ddangosir trwy fabwysiadu safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol ac y gellir ymddiried ynddynt.
Rydym wedi datblygu strategaeth a chynllun ansawdd ac wedi buddsoddi mewn offeryn arbenigol i gefnogi ein prosesau rheoli dogfennau. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach yn paratoi ar gyfer cyflwyno rheoliad newydd mewn perthynas â dyfeisiau meddygol.
Mae gan aelodau’r cyhoedd hawl i ofyn am wybodaeth gan awdurdodau cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth amdanynt eu hunain (Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth) neu wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus (ceisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol).
Mae’n ofynnol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ymateb i unrhyw geisiadau yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth, gan gynnwys ymateb o fewn amserlenni statudol
Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, derbyniodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru 51 o geisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Ymatebwyd i 98% o geisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlenni statudol. Ymatebwyd i un cais y tu allan i’r amserlen statudol.
Derbyniodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd saith Cais Gwrthrych am Wybodaeth a thri chais gan yr heddlu ac asiantaethau eraill, ac ymatebwyd i bob un ohonynt o fewn y cyfnod hwn.