Trosolwg perfformiad bwydlen
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn awdurdod iechyd arbennig sy’n trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal digidol yn cael eu darparu o fewn GIG Cymru.
Mae
o ymarferwyr yn defnyddio’r Cofnod Iechyd a Gofal Digidol i gael y wybodaeth gydgysylltiedig orau bosibl am ofal cleifion
Edrychwyd ar
o ganlyniadau profion endosgopi gan ymarferwyr gofal iechyd ym Mhorth Clinigol Cymru: gan gyfoethogi’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer gofal gwell a mwy diogel
Cynhaliwyd
o ymgynghoriadau ar gyfer anhwylderau cyffredin ar draws fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru, gan ryddhau amser i feddygon teulu ymdrin ag anghenion cleifion oedd angen sylw ar fwy o frys
Roedd
o ddefnyddwyr misol yn defnyddio Cofnod Gofal Nyrsio Cymru: gan leihau dyblygu, cynyddu diogelwch cleifion a rhyddhau amser nyrsys i ofalu am gleifion
Cynhyrchwyd
o ganlyniadau ac adroddiadau yn dilyn pelydrau-x a delweddau digidol eraill ar draws GIG Cymru: gan alluogi ymarferwyr i wneud diagnosis o gleifion a gweld eu canlyniadau a’u hadroddiadau yng nghofnod digidol y claf.
Cwblhawyd mwy nag
o asesiadau poen, a thros
o asesiadau ar gyfer briwiau pwyso yng Nghofnod Gofal Nyrsio Cymru: gan gefnogi rheolaeth reolaidd o boen cleifion yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty
Roedd
o ddefnyddwyr yn defnyddio System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru, gan rannu data a gwybodaeth cleifion rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i gael canlyniadau gwell
Cynyddodd nifer y dogfennau cleifion clinigol a storiwyd yn ddigidol o
i dros
dyna 45 miliwn o ddogfennau nad oes angen eu cadw ar bapur mwyach
Mae cofnod Meddyg Teulu dros
o drigolion Cymru yn cael ei weld bob mis mewn ysbytai, sy’n golygu y gall eu hymarferydd wneud penderfyniadau gwell am eu gofal
Mae
o ddefnyddwyr System Rheoli Gwybodaeth Labordy Cymru yn prosesu a rheoli dros
o brofion patholeg ar draws labordai yng Nghymru
Mae yna
o wasanaethau digidol sy’n sail i wasanaethau rheng flaen ac sy’n galluogi ymarferwyr iechyd a chymunedol i drin a gofalu am ddinasyddion gyda’r wybodaeth gywir ar flaenau eu bysedd, waeth beth fo’u lleoliad daearyddol
Galluogwyd
o frechiadau COVID-19 gan System Imiwneiddio Cymru, gan leihau effaith y firws ledled Cymru
Mae yna
o ddefnyddwyr System Rheoli Stoc Fferylliaeth Ysbytai Cymru: rheoli cyffuriau yn electronig, i leihau gwastraff a chynyddu diogelwch
Bu
o alwadau i’n Desg Wasanaeth, o geisiadau syml i faterion cymhleth, gyda thargedau datrys i leihau aflonyddwch ar y GIG
Mae
o ddefnyddwyr System Gweinyddu Cleifion Cymru: rheolaeth ddigidol o apwyntiadau ysbyty ac arosiadau cleifion mewnol mewn ffordd effeithlon ac effeithiol
Darparu gwasanaethau digidol o’r radd flaenaf, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach.
Trawsnewid iechyd a gofal i bawb yng Nghymru.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Awdurdod Iechyd Arbennig newydd sydd â rôl bwysig wrth drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu.
Fe’n sefydlwyd o dan statud ar 1 Ebrill 2021, ac rydym yn cael ein hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru ac yn gweithio’n agos ac mewn partneriaeth â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol, gwyddorau bywyd, diwydiant a’r byd academaidd.
Ein nodau yw ei gwneud yn haws i staff ddarparu gofal, galluogi gwell canlyniadau a phrofiadau i gleifion a helpu pobl i reoli eu hiechyd a’u gofal eu hunain.
Fel aelod allweddol o deulu GIG Cymru mae ein gwaith yn cael effaith amlwg, fel y gwelir drwy’r 103 o wasanaethau gweithredol a ddefnyddir bob dydd i gefnogi iechyd a gofal ac i gyflawni’r cofnod iechyd digidol sengl.
Rydym yn gweithio’n gyflym ac yn ystwyth i ddatblygu cynhyrchion newydd, i wella gwasanaethau, ac i ymateb i ofynion digidol nas rhagwelwyd, yn ogystal â chyflawni yn erbyn anghenion hirdymor trawsnewid digidol o fewn GIG Cymru.
Yn ystod y flwyddyn daeth y gwaith o recriwtio ein tîm gweithredol i ben a phenodwyd rhai Aelodau Annibynnol newydd i’n Bwrdd, wrth barhau i fireinio ein gweledigaeth, ein cenadaethau a’n portffolios cyflawni drwy ein cynllun strategol, sy’n cefnogi blaenoriaethau system iechyd a gofal Cymru.
Mae pobl wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud, felly roeddem yn falch o ennill gwobr Lle Gorau i Weithio ym maes TG y DU Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain ar gyfer 2022 - canmoliaeth i'r sefydliad a phawb sy'n gweithio i Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Rhoddodd y beirniaid farciau uchel am ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal â sgiliau a datblygiad gyrfa’r staff.
Mae ein model gweithredu hybrid yn golygu bod mwyafrif ein staff yn gweithio o bell am y rhan fwyaf o'r wythnos, tra mae’r rhai y mae’n well ganddynt weithio o'r swyddfa yn gallu gwneud hynny.
Rydym wedi ein strwythuro i saith cyfarwyddiaeth:
Cefnogi staff llinell flaen iechyd a gofal gyda systemau modern o ansawdd uchel a mynediad diogel at wybodaeth am eu cleifion, sydd ar gael lle bynnag maen nhw ei angen
Darparudatrysiadau digidol newyddsy’n helpu staff clinigol i ofalu am gleifion, gan gynnwys gwasanaethau digidol newydd i nyrsys, unedau gofal critigol, fferylliaeth mewn ysbytai, rhagnodi a rheoli meddyginiaethau a gofal cymunedol
Defnyddio data i roi mewnwelediad a gwella canlyniadau, yn ogystal â chefnogi sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu a sut mae cleifion yn cael mynediad atyn nhw
Helpu pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunaina gwella o salwch, gyda mynediad at eu cofnod iechyd digidol eu hunain ac apiau o unrhyw ddyfais, gan ei gwneud yn haws cysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal
Brwydro yn erbyn seiberdroseddu a gefnogir gan uned seibergadernid bwrpasol a gynhelir ar ran Llywodraeth Cymru
Defnyddio safonau digidol a data i allu datblygu a darparu gwasanaethau digidol yn gyflymach
Diogelu asedau data gwerthfawr trwy foderneiddio’r ffordd y caiff data eu cadw a rhoi polisi 'cwmwl yn gyntaf' ar waith
Darparu’r seilwaith technegol a’r platfform cadarn sydd eu hangen, gan ddefnyddio’r safonau diogelwch uchaf, er mwyn gallu darparu gwasanaethau digidol a data ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru
Rydym yn darparu platfform ar gyfer trawsnewid digidol trwy ddiogelu data, seilwaith a gwybodaeth, a thrwy agor pensaernïaeth GIG Cymru i alluogi rhannu data yn gyflymach gyda phartneriaid a chyflenwyr, gan gefnogi gofal cyson cydgysylltiedig.
Wrth i dechnoleg ac anghenion iechyd a gofal esblygu, rydym yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau safonedig i ddarparwyr iechyd a gofal Cymru, yn ogystal â darparu gwasanaethau newydd yn gyflym i ymdopi â sefyllfaoedd nas rhagwelwyd, wrth gefnogi effeithlonrwydd a gwelliannau mewn prosesau gofal yr un pryd.
Mae gwybodaeth glinigol a gofal iechyd i ddinasyddion yng Nghymru ar gael i'w darparwyr gofal drwy'r cofnod iechyd a gofal digidol, pryd bynnag a lle bynnag y bo ei hangen, gan helpu i wella ansawdd triniaeth. Wrth symud ymlaen, bydd mwy o elfennau'r cofnod ar gael yn uniongyrchol i ddinasyddion.
Mae'r angen am ddata cywir ar gyfer mewnwelediadau a dadansoddeg yn bwysicach nag erioed i wella iechyd a gofal. System wedi’i sbarduno gan ddata sy’n cynyddu gwerth mewn gofal iechyd trwy wybodaeth amserol i helpu i wneud penderfyniadau a sicrhau canlyniadau gwell.
Mae bod yn un o sefydliadau GIG Cymru yr ymddiriedir ynddo yn allweddol i gyflawni gweledigaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn llwyddiannus a chyflawni popeth a ddisgwylir gennym.
Mae datblygu ein pobl yn rhan allweddol o'n cenadaethau strategol. Mae cefnogi datblygiad talent, arweinyddiaeth dosturiol, a datblygiad parhaus yn llinyn euraidd sy'n rhedeg trwy bopeth a gyflwynir eleni ac a gynllunnir ar gyfer y dyfodol.
Lansiwyd ein Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol (OD) ym mis Hydref 2022, gan roi arwydd clir o bwysigrwydd y gweithlu presennol ac ar gyfer denu a chadw talent newydd.
Lle gwych i weithio lle mae ein pobl yn ymgysylltu’n llawn, yn perfformio’n dda ac yn ymgorffori ein gwerthoedd a’n hymddygiad.
Byddwn yn cyflawni hyn trwy ymuno â'r rhain chwe thema i siapio ein gweithlu.
Yn ystod 2022-2023 rydym wedi canolbwyntio ar roi’r blociau adeiladu canlynol ar waith i gefnogi’r sefydliad i ddod yn:
Mae polisïau a strategaethau gweithlu newydd a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn wedi'u llunio mewn gwir bartneriaeth â'r undebau llafur a'r gweithlu ehangach, gan gynnwys rhanddeiliaid a rhwydweithiau allanol.
Mae bod yn bartner dibynadwy yn elfen hanfodol ar gyfer cyflawni ein gweledigaeth a'n gwerthoedd yn llwyddiannus ac ar gyfer cyflawni popeth a ddisgwylir gennym.
Mae ein harweinwyr yn cael eu herio i fod yn emosiynol ddeallus, i groesawu newid a cheisio arloesi a gwelliant parhaus i gyflawni'r canlyniadau y mae ein rhanddeiliaid yn eu gwerthfawrogi a'u heisiau, gan ysbrydoli ac annog eu timau i wneud yr un peth.
Mae gwerthoedd yn cael effaith gadarnhaol ar ein hunaniaeth yn fewnol ac yn allanol ac maent yn hanfodol i lywio ein diwylliant.
Ym mis Mawrth 2023 lansiwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd gennym sy'n ymgorffori ymrwymiadau gwrth-fwlio a gwrth-hiliaeth sefydliadol. Mae'n atgyfnerthu pwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac mae'n cynnwys ystod o ymrwymiadau newydd i'w cyflawni dros y blynyddoedd i ddod.
Merched yw 42 y cant o'n cyflogeion, a 50 y cant o'n Bwrdd o Aelodau Annibynnol a Chyfarwyddwyr Gweithredol. Cyfartaledd diwydiant TG y DU yw 23 y cant, a dim ond pump y cant ohonynt sydd mewn swyddi arwain, ond mae mwy o waith i’w wneud i wella amrywiaeth mewn meysydd technegol, ac i ystyried yr angen am y safbwynt benywaidd wrth ddatblygu cynhyrchion technegol o fewn iechyd a gofal.
Daw wyth y cant o'n gweithlu o gymuned ddu, Asiaidd neu leiafrifol ethnig a'n nod yw cynyddu'r nifer hwn.
Mae cofleidio gwahaniaeth a chynnwys pawb yn rhan sylfaenol o ddatblygu cymuned ein gweithle ac mae hynny'n golygu adeiladu a datblygu timau sy'n amrywiol a chynhwysol, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu ethnigrwydd.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant sefydliadol cynhwysol ac amrywiol ac amgylchedd gwaith gwych, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael y cyfle i ddatblygu, cael eu clywed, a chael dealltwriaeth glir o'r rhan y maent yn ei chwarae wrth gyflawni ein gweledigaeth a'n canlyniadau - gan gyfrannu at ein gwerth wrth ddarparu profiad defnyddiwr heb ei ail - a dyna pam, o fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd gennym rwydwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) newydd, yn cefnogi ac yn dathlu pawb o fewn y gweithlu, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer mewnbwn a llais y gweithwyr.
Yn dilyn Adolygiad Gweithlu Digidol Llywodraeth Cymru yn 2022, byddwn yn dechrau ar y gwaith sydd ei angen i ddatblygu’r proffesiwn digidol ar draws GIG Cymru, gan sicrhau ein bod yn adeiladu gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Bydd hyn yn cefnogi llwybrau gyrfa clir, rolau swyddi cyson a buddsoddiad allweddol mewn hyfforddiant a datblygiad, uwchsgilio a datblygu sgiliau digidol blaengar, gan gefnogi rhaglenni trawsnewid cenedlaethol o 2023 ymlaen.
Mae ein partneriaeth ag Athrofa Cymru ar gyfer Gwybodaeth Ddigidol (WIDI) yn sail i’n cydweithrediad â’r sector prifysgolion. Mae cynllun manwl sy’n ymateb i anghenion cylch cynllunio’r gweithlu 2023 yn cael ei ddatblygu i dargedu a chefnogi’r proffesiwn digidol ledled Cymru, ac i ddarparu cronfeydd cadarn o dalent newydd.
Wedi ymrwymo i 'dyfu ein gweithlu ein hunain' a chefnogi cenedlaethau'r dyfodol, rydym yn cynnig dysgu a datblygiad i holl bobl Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar bob cam o’u gyrfa.
Bydd ein hymrwymiad i raddedigion a phrentisiaethau yn cynyddu ymhellach yn 2023, gyda’r hyn a ddysgir o gylch cynllunio’r gweithlu yn strategol yn cael ei ddefnyddio i lywio ein gwaith gyda’r sector addysg.
Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau. Roedd yn ofynnol yn flaenorol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (fel hen Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) gydymffurfio â’r safonau hyn fel un o gyrff a gynhelid gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Daeth y gofyniad hwn i ben pan sefydlwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a oedd wedyn, fel Awdurdod Iechyd Arbennig heb safonau wedi’u cyhoeddi, yn gorfod datblygu Cynllun Iaith Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Fodd bynnag, rydym wedi parhau i weithio i'r safonau wrth i ni ddatblygu ein Cynllun Iaith Gymraeg.
Yn ystod 2022-23 buom yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gytuno ar ein Cynllun Iaith Gymraeg sy’n ein hymrwymo i ddarparu lefel o wasanaethau Cymraeg sy’n cyfateb i Safonau’r Gymraeg sy’n cael eu mabwysiadu gan sefydliadau cyhoeddus tebyg yng Nghymru.
Nod y Cynllun Iaith Gymraeg newydd yw:
Mae’r gweithgareddau yr ymgymerir â nhw ledled y sefydliad i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn weithredol yn cynnwys:
Rydym wedi ymrwymo i ychwanegu at yr hyfforddiant a’r gweithgareddau Cymraeg a ddarperir gennym ar hyn o bryd i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chanllawiau ynghylch y fframwaith cynllunio, gan ddychwelyd at Gynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd i ddisodli trefniant cynllun blynyddol y flwyddyn flaenorol.
Cymeradwywyd y Cynllun Tymor Canolig Integredig gan ein Bwrdd, fe’i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Mawrth 2022 a’i dderbyn a’i nodi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Gorffennaf 2022. Darparwyd adborth gan Lywodraeth Cymru fel set o ofynion ac amodau atebolrwydd, a ddisgrifir yn ein Hadroddiad Atebolrwydd.
Mae rheoli risg yn elfen allweddol o lywodraethu corfforaethol sy'n cryfhau ein gallu i gyflawni ein hamcanion.
Mae ein Strategaeth Fframwaith Risg a Sicrwydd y Bwrdd yn nodi’r dull sefydliadol o ymdrin â’r prif risgiau i’r amcanion strategol a sut y bydd y Bwrdd yn cael sicrwydd ynglŷn â’r prif risgiau hynny.
Cefnogir y strategaeth hon gan system rheoli risg ar draws y sefydliad sy'n galluogi ac yn grymuso staff i nodi, asesu, rheoli a, lle bo angen, uwchgyfeirio risgiau. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Mae ein cynllun a’n hamcanion wedi’u seilio ar ddogfennau cyfreithiol a pholisi. Mae’r rhain yn cynnwys:
Cymru Iachachcynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Strategaeth Ddigidol i Gymru Gweledigaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer mabwysiadu dull digidol ar y cyd o foderneiddio gwasanaethau cyhoeddus.
Mae ein cynllun hefyd yn cynrychioli gofynion y Blaenoriaethau Gweinidogol ehangach a'r Rhaglen Lywodraethu.
Mae’r diagram canlynol yn egluro sut mae Cenadaethau a Phortffolios Strategol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyd-fynd â Blaenoriaethau Gweinidogol a Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru:
cenadaethau a phortffolios iechyd a gofal digidol cymru 2022-23 wedi’u mapio i flaenoriaethau gweinidogol a’r rhaglen lywodraethu
Cenadaethau a phortffolios iechyd a gofal digidol cymru 2022-23 wedi'u mapio i flaenoriaethau gweinidogol a’r rhaglen lywodraethu
Datblygu agwedd ‘llwyfan agored’ at arloesi digidol, drwy ymateb i safonau cenedlaethol ar gyfer sut mae data, meddalwedd a thechnolegau’n gweithio gyda’i gilydd, a sut mae partneriaid allanol yn gweithio gyda’r llwyfan digidol cenedlaethol a’r adnodd data cenedlaethol.
Datblygu fframwaith, safonau a mecanweithiau Llywodraethu Gwybodaeth a Seiberddiogelwch, sy’n blaenoriaethu diogelwch a chyfrinachedd cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, ac yn diogelu data rhag bygythiadau allanol a mewnol, gan arwain at gadw data yn ddiogel a gallu ymddiried yn GIG Cymru i edrych ar ôl gwybodaeth bersonol cleifion a defnyddwyr gwasanaeth.
Datblygu a chynnal seilwaith cenedlaethol o ansawdd uchel, gan drosglwyddo i’r cwmwl er mwyn sicrhau gwell argaeledd, dibynadwyedd, diogelwch, gwarchodaeth, cyflymder ac ystwythder.
Gwella ac ehangu cynnwys, argaeledd ac ymarferoldeb y Cofnod Iechyd a Gofal Digidol, ar draws ffiniau byrddau iechyd a daearyddol a chefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a chysylltedd gan ddefnyddio e-lyfrgell GIG Cymru a chyfres Microsoft Office 365.
Datblygu fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth a Seiberddiogelwch, safonau a mecanweithiau sy’n blaenoriaethu diogelwch a chyfrinachedd cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, ac yn diogelu data rhag bygythiadau allanol a mewnol, gan arwain at ddata’n aros yn ddiogel ac ymddiried yn GIG Cymru i gadw gwybodaeth bersonol cleifion a defnyddwyr gwasanaeth.
Datblygu, gweithredu a chynnal set o wasanaethau digidol cenedlaethol o ansawdd uchel i gefnogi Rhaglenni atal ac ymyrraeth gynnar Iechyd y Cyhoedd.
Creu seilwaith digidol ar draws gofal sylfaenol a chymunedol drwy ddatblygu, gweithredu a chynnal set o wasanaethau digidol cenedlaethol o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu modelau newydd o ofal lleol, yn nes at y cartref.
Datblygu, gweithredu a chynnal set o wasanaethau digidol cenedlaethol o ansawdd uchel i alluogi modelau newydd o ofal a rheolaeth cleifion wedi’i gynllunio a heb ei drefnu.
Datblygu, gweithredu a chynnal gwasanaethau digidol cenedlaethol o ansawdd uchel i alluogi moderneiddio diagnosteg.
Datblygu, gweithredu a chynnal set o wasanaethau digidol cenedlaethol o ansawdd uchel i alluogi moderneiddio rheolaeth meddyginiaethau.
Darparu mewnwelediadau ymchwil ac arloesedd ar gyfer gwella gwasanaethau
Sbarduno gwerth o ddata er mwyn cael canlyniadau gwell i gleifion a chynllunio gwasanaethau yn well.
Daw ein cyfraniad at iechyd a gofal y boblogaeth o’r systemau digidol a ddarparwn sy’n trawsnewid y ffordd y mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn gweithio i ofalu am gleifion ac i bobl gael mwy o ran yn y gwaith o reoli eu gofal eu hunain. Rydym hefyd yn cefnogi'r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd trwy gasglu data perthnasol, gan gynnwys data canlyniadau, y byddwn wedyn yn eu cyfuno, eu dadansoddi a'u cyflwyno mewn cyfres o ddangosfyrddau yn ymwneud â chyflyrau penodol (fel epilepsi, arthroplasti’r pen-glin, methiant y galon, canser yr ysgyfaint). Mae’r cynhyrchion gwybodaeth hyn yn cefnogi gwneud penderfyniadau o fewn GIG Cymru ac yn helpu i ysgogi gwelliannau mewn iechyd a gofal.
Mae holl wasanaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael eu cynllunio yn unol â chyd-destun ehangach blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, sy'n ystyried tueddiadau mewn iechyd a'r gwelliant disgwyliedig mewn canlyniadau i gleifion. Mae ansawdd gwasanaethau digidol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael eu monitro trwy gyfuniad o:
Disgrifir themâu allweddol y GIG uchod fel blaenoriaethau gweinidogol ac mae'r diagram yn disgrifio sut mae portffolios Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyd-fynd â phob blaenoriaeth. Ym mhob un o bortffolios Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer 2022-23, mae sawl menter, sy'n bodloni'r gofynion o ran trawsnewid y ffordd y mae GIG Cymru yn darparu iechyd a gofal drwy gefnogi a galluogi technoleg ddigidol.
Wrth i gyfyngiadau’r pandemig leddfu fe wnaethom ddychwelyd i fusnes fel arfer, gan gau ein strwythur ymateb brys. Fodd bynnag, parhaodd y gofynion digidol ar gyfer y rhaglen frechu, ac mae gwasanaethau Profi, Olrhain, Diogelu wrth gefn yn dal yn eu lle i gefnogi Covid-19, pe bai angen; mae'r ddau hyn wedi parhau'n rhan greiddiol o'n darpariaeth am y flwyddyn.
Mae datrysiadau a gwasanaethau digidol yn cyfrannu at weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac ymdrin â thlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.
Mae ein rôl yn cyd-fynd ag anghenion digidol Cymru Iachach a chynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae pob un o’r saith nod llesiant hefyd yn cyd-fynd â’n dull gweithredu a byddant yn parhau i gael eu datblygu.
Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi adolygu cynnydd yn erbyn gweithgareddau ar gyfer pob amcan ac wedi nodi gweithgareddau ychwanegol lle bo angen. Dyma rai o’r cyflawniadau allweddol yn ystod 2022-23:
Rydym wedi cyflymu trawsnewidiad digidol iechyd a gofal o fewn GIG Cymru fel y partner cyflawni y gellir ymddiried ynddo ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal digidol.
ydym wedi parhau i ehangu cynnwys, argaeledd ac ymarferoldeb y Cofnod Iechyd a Gofal Digidol fel bod ansawdd gofal a thriniaeth yn cael ei wella
Rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid cyflawni ar y cynllun ar gyfer Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd, gan gynnwys ap dwyieithog GIG Cymru, a fydd yn cynorthwyo dinasyddion Cymru i gymryd rhan fwy gweithredol yn eu hiechyd a’u lles.
Rydym wedi gweithio i gyflawni map trywydd ein Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio ar gyfer 2022-23 ac wedi dod i ddeall y ffordd y gall ein hatebion digidol gyfrannu at agenda datgarboneiddio gyffredinol GIG Cymru.
Rydym wedi sefydlu ffocws newydd ym meysydd ymchwil ac arloesi
Rydym wedi parhau i hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau sy'n dathlu amrywiaeth a chynhwysiant.
Rydym wedi parhau i hybu a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ac mae gennym bellach Gynllun Iaith Gymraeg sydd wedi ei gymeradwyo.
Rydym wedi gweithio ar sail Cymru gyfan i rannu arfer gorau a chroesawu gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys partneriaethau cymdeithasol.
Rydym wedi lansio hyb arloesi Microsoft pwrpasol ar gyfer staff.
Rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i hyrwyddo a chyflwyno diwylliant o groesawu newid drwy gymhwyster newydd sy’n uwchsgilio ac yn grymuso staff.