Trosolwg perfformiad bwydlen
Fel yr arweinydd systemau digidol ar gyfer GIG Cymru, mae’n bwysig bod gan ein partneriaid, defnyddwyr gwasanaethau a phobl Cymru hyder yn ein gwaith. Mae ymgysylltu effeithiol yn helpu i drosi anghenion rhanddeiliaid a defnyddwyr i’n strategaeth a datblygu ein cynhyrchion a’n gwasanaethau.
Mae gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn GIG Cymru yn hanfodol. Rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r holl gyrff iechyd statudol yng Nghymru ac yn sicrhau cysondeb strategol trwy gyfarfodydd gweithredol ddwywaith y flwyddyn a thrwy ddatblygu cynlluniau cyflawni ar y cyd. Trwy ein presenoldeb yn fforymau cymheiriaid Gweithrediaeth Cymru Gyfan a sefydlu a chadeirio Rhwydwaith Digidol Aelodau Annibynnol Cymru rydym yn cefnogi gwell dealltwriaeth o ddulliau digidol ar draws GIG Cymru, yn ogystal ag anghenion y dyfodol.
Drwy sefydlu partneriaethau drwy Femoranda Cyd-ddealltwriaeth ffurfiol neu Gytundebau Partneriaeth, rydym yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein huchelgeisiau ac yn sicrhau ymagwedd gydlynol ac effeithlon at iechyd a gofal ledled Cymru a’r DU. Mae’r rhain yn cynnwys gyda GIG Lloegr, Gofal Cymdeithasol Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, yr Academi Dysgu Dwys Digidol a phartneriaid academaidd drwy’r WIDI.
Trwy bartneriaethau gyda sefydliadau masnachol fel Kainos a Google, rydym yn dod â’r wybodaeth a’r arbenigedd gorau i’n cynhyrchion a’n gwasanaethau ac yn helpu i ddatblygu sgiliau o fewn GIG Cymru.
Rydym wedi cynnwys dros 850 o bobl a 100 o bractisiau Meddygon Teulu mewn ymchwil defnyddwyr a gynhaliwyd drwy brofi defnyddwyr Ap GIG Cymru. Fe wnaethom hefyd sefydlu’r Grŵp Sicrwydd Cleifion a’r Cyhoedd i sicrhau bod llais y claf yn cael ei gynnwys yn ein holl waith.
Mae digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd wedi’u cynnal i ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch themâu allweddol, megis y Symposiwm Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd a Dadansoddeg Uwch Adnoddau Data Cenedlaethol a’r sesiwn Data Mawr. Ochr yn ochr â hyn rydym wedi cynnal amrywiaeth o sesiynau darganfod a gweithdai rhaglenni a phrosiectau unigol Gwersi a Ddysgwyd gyda rhanddeiliaid i gefnogi gwell dealltwriaeth o anghenion, cyd-ddatblygiad a chyd-ddarparu’r systemau a’r atebion digidol sydd eu hangen ar bobl Cymru.
Gan gyd-noddi’r Uwchgynhadledd Ddigidol gyntaf, fe wnaethom archwilio materion allweddol cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal a llofnodwyd Siarter Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo’r agenda drwy chwe addewid.
Gyda newid sylweddol mewn ffyrdd o weithio wedi’i ategu gan wasanaethau digidol newydd, rydym wedi darparu cymorth i staff GIG Cymru sy’n ddefnyddwyr newydd a phresennol o wasanaethau digidol ar draws y rhaglen gyflawni ehangach, gan weithio ochr yn ochr â defnyddwyr gwasanaethau i ddarparu cymysgedd o gymorth, cyngor technegol ar newidiadau i systemau, hyfforddiant, e-Ddysgu, fideos ac arddangosiadau.
Mae hyfforddiant a chymorth ar raddfa fawr wedi’u rhoi ar waith eleni ar gyfer Gwybodeg Canser, System Gweinyddu Cleifion Cymru, Cofnod Gofal Nyrsio Cymru a’r datrysiad interim brys 111 a oedd yn rhan o’n cefnogaeth i Feddygon Teulu yn ystod y digwyddiad seiberddiogelwch a effeithiodd ar un o’n cyflenwyr. Drwy adborth rheolaidd, mae ein tîm Newid Busnes wedi’i gydnabod fel ffactor sy’n cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y gweithredoedd allweddol hyn gan GIG Cymru.
Mae cyfathrebu yn chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o’r hyn a wnawn ac effaith digidol ar ddarparu gwasanaethau gofal iechyd a llesiant cleifion.
Mewn tirwedd sy’n esblygu’n barhaus rydym yn hysbysu ac yn rhyngweithio â chynulleidfaoedd allanol a mewnol trwy gyfryngau cymdeithasol, fideo, podlediadau, digwyddiadau, cyflwyniadau gwobrau, cylchlythyrau a’r cyfryngau.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r Uwchgynhadledd Ddigidol gyntaf yn cysylltu iechyd, gofal a’r sectorau gwirfoddol a llwyddiant cynyddol ein sianeli cyfryngau cymdeithasol – LinkedIn, Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube
Yn ystod y flwyddyn, cynyddodd nifer y dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol 15% i 18,296 ac mae ein cyfradd ôl-ymgysylltu gyfartalog wedi cynyddu 16% i 5.22%.
Drwyddi draw, rydym wedi canolbwyntio ar greu dealltwriaeth gyffredin o werth digidol mewn iechyd a gofal.
Mae angen llysgenhadon newid ar bob lefel o sefydliad i ymgorffori newid mewn ffyrdd ystyrlon a chynaliadwy. Fel rhan o’r strategaeth i gefnogi a gwreiddio newid digidol ar draws GIG Cymru, fe wnaethom greu’r Rhaglen Llysgenhadon Newid. Wedi’i hachredu ar Lefel 6 Addysg Uwch ac wedi’i disgrifio fel rhaglen sy’n batrwm o ran rheoli newid ymddygiad gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r Rhaglen Llysgenhadon Newid yn cefnogi sefydliadau drwy greu llysgenhadon newid sy’n hyrwyddo diwylliant o groesawu a chefnogi newid.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn dibynnu ar y dechnoleg a’r gwasanaethau a ddarparwn ac yn disgwyl iddynt fod ar gael mor hawdd â chyflenwadau cyfleustodau fel nwy a thrydan. Mewn ymateb rydym yn gweithio’n rhagweithiol i sicrhau’r dibynadwyedd a’r argaeledd mwyaf posibl ac atal problemau rhag digwydd.
Rydym yn falch o nodi bod perfformiad cyflwyno ein gwasanaethau gweithredol yn ystod y flwyddyn yn dda gyda chyfartaledd argaeledd o 99.977% gan gynnwys cyfanswm o 45 o ddigwyddiadau yr ydym yn eu categoreiddio fel rhai mawr; gwelsom welliant yn yr argaeledd cyffredinol yn ogystal â phrofi llai o Ddigwyddiadau TG mawr.
Digwyddiadau mawr yw’r rhai sy’n effeithio ar nifer fawr o ddefnyddwyr a gallent gynnwys materion fel oedi wrth brosesu canlyniadau profion, amser segur ar gyfer gwasanaeth neu amhariad rhannol ar wasanaeth. Roedd rhai o’r digwyddiadau hyn o ganlyniad i broblemau gyda chyflenwyr trydydd parti neu broblemau gyda’r seilwaith sydd ar waith yn adeiladau’r bwrdd iechyd. O’r digwyddiadau TG mawr hyn roedd 96% wedi’u datrys o fewn targed yr amseroedd datrys.
Mae ein Desg Gwasanaeth TG sydd wedi ennill gwobrau yn darparu un pwynt cymorth uniongyrchol i dros 16,000 o staff mewn Practisiau Meddygon Teulu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn ogystal â rhai sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae’r tîm hefyd yn bwynt uwchgyfeirio ar gyfer desgiau gwasanaeth lleol holl sefydliadau GIG Cymru, gan helpu i ddatrys materion a cheisiadau a godir gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd.
Yn dilyn archwiliad llwyddiannus ym mis Rhagfyr 2022, cadwodd desg wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru ei hachrediad 3-seren gan y Sefydliad Desgiau Gwasanaeth fel desg wasanaeth a arweinir gan gwsmeriaid. Mewn blwyddyn o addasiadau ailffocysodd y Ddesg Wasanaeth yn dilyn gostyngiad mewn gweithgaredd cymorth Profi Olrhain Diogelu (Covid-19):
Eleni llwyddodd y Ddesg Wasanaeth i gyflawni dros 220,000 o docynnau cymorth o bob rhan o GIG Cymru
Ar gyfartaledd, llwyddodd y Ddesg Wasanaeth i ateb 94.3% o alwadau (h.y. y gyfradd galwadau sy’n cael eu gadael cyn eu hateb yw 5.7% ar gyfartaledd ar draws y flwyddyn).
Mae ein Desg Wasanaeth yn casglu adborth am ansawdd y gwasanaeth ac yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd, mae wedi cynnal cyfradd boddhad cwsmeriaid o 95%+.
Mae seiberddiogelwch yn parhau i fod yn ffocws allweddol. Mae seiberdroseddu eang ac ansicrwydd seiber yn newydd-ddyfodiaid i’r 10 safle uchaf o’r risgiau mwyaf difrifol dros y degawd nesaf, a gyhoeddwyd yn Adroddiad Risgiau Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi datblygu cynllun gwella Seiber 3 blynedd y mae ein Bwrdd wedi cytuno arno ac rydym hefyd yn cynnal Uned Seiberddiogelwch, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i adolygu a chynorthwyo pob un o Weithredwyr y Gwasanaethau Hanfodol (OES) ar draws GIG Cymru i werthuso eu lefel o seiberddiogelwch a’u cadernid, yn seiliedig ar ofynion y Rheoliadau NIS (Rhwydwaith a Systemau Gwybodaeth).
Yn 2022-23 cafodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ei gydnabod am ennill y gwobrau a’r ganmoliaeth ganlynol:
Fe’i cydnabuwyd gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain fel y lle gorau i weithio i weithwyr TG proffesiynol yn y DU.
Cydnabyddiaeth am gyfraniad rhagorol i ymchwil ac arloesi
Enillodd Marilyn Bryan-Jones, a benodwyd yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ddiweddar, wobr yng Ngwobrau Cymunedol Cenedlaethol Hanes Pobl Ddu Cymru 2022 am ei chyfraniadau at gydraddoldeb hiliol a chynhwysiant.
Cafodd tîm caffael Iechyd a Gofal Digidol Cymru ganmoliaeth uchel yng nghategori caffael cydweithredol Gwobrau Go Wales am eu gwaith ar Gytundeb Microsoft Enterprise Cymru.
Enillodd menter gydweithredol rhwng Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru (NHSWLKS) ac e-Lyfrgell GIG Cymru ‘Wobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgelloedd Cymru 2022’ CILIP Cymru Wales am gynhyrchu rhaglen arloesol o hyfforddiant byw ac wedi’i recordio ymlaen llaw i ddefnyddwyr llyfrgell a gyflwynwyd i staff y GIG ledled Cymru.
Cafodd effaith Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) i gleifion mewnol sy’n oedolion ei gydnabod yng Ngwobrau MediWales 2022, gan ennill gwobr iechyd a gofal y beirniaid.
Fel Awdurdod Iechyd Arbennig, mae rôl gyflawni Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn canolbwyntio ar raglenni digidol a gwasanaethau TG gweithredol i gefnogi gofal cleifion a c i boblogi data cleifion yn y cofnod gofal iechyd digidol. Felly, nid yw mwyafrif mesurau Fframwaith Cyflawni GIG Cymru yn berthnasol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Manylir ar y rhai perthnasol isod:
MESUR CYFLAWNI 23Gwariant ar Asiantaethau fel canran o gyfanswm y bil cyflog.
Targed: tuedd o ostyngiad dros 12 mis. Adroddiadau misol trwy’r Ffurflenni Monitro Ariannol.
Canlyniad: Gweler yr adran cyllid
Sylwch fod cyd-destun gwariant iechyd a Gofal Digidol Cymru ar asiantaethau yn wahanol i wariant ehangach ysbytai GIG Cymru sy’n gysylltiedig yn bennaf â lefelau staffio banc. O fewn ein sefydliad mae’n adlewyrchu buddsoddiad digidol a gyfyngir gan amser a mentrau buddsoddi a ategir gan staff asiantaeth/trydydd parti hyblyg.
MESUR CYFLAWNI 26Canran y gydymffurfiaeth ar gyfer yr holl gymwyseddau lefel 1 a gwblhawyd ar gyfer y Fframwaith Sgiliau Craidd a Hyfforddiant.
Targed:85%. Adroddir yn fisol trwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR).
Canlyniad: 91.8%
MESUR CYFLAWNI 27Canran cyfradd salwch staff
Targed:tuedd o ostyngiad dros 12 mis. Adroddir yn fisol trwy’r ESR
Canlyniad:Canran gyfartalog cyfradd salwch staff yw 3%
MESUR CYFLAWNI 28Canran nifer yr unigolion fesul sefydliad sydd wedi cael Adolygiad Gwerthuso a Datblygu Personol (PADR) yn y 12 mis blaenorol.
Targed: 85%. Adroddir yn fisol trwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR)
Canlyniad: 84%
MESUR CYFLAWNI 32 Adroddir am allyriadau yn unol â Dull Adrodd am Garbon Sero Net yn Sector Cyhoeddus Cymru.
Targed:gostyngiad o 16% mewn allyriadau carbon erbyn 2025 yn erbyn llinell sail GIG Cymru 2018/19. Adroddiadau blynyddol trwy Ffurflen Allyriadau ar Lefel Sefydliad.
Canlyniad:Gweler Ein Hadran Ôl Troed Carbon
MESUR CYFLAWNI 33 Adroddiad ansoddol yn manylu ar gynnydd cyfraniad GIG Cymru at ddatgarboneiddio a amlinellwyd yng nghynllun y sefydliad.
Targed: tystiolaeth o welliant. Adroddiad Monitro Ansoddol Sefydliadol chwe mis
Canlyniad: Rydym yn darparu adroddiad bob chwe mis i Lywodraeth Cymru, a gynhwysir yn eu cyhoeddiad o Fesurau GIG Cymru
MESUR CYFLAWNI 34 Adroddiad ansoddol yn manylu ar dystiolaeth bod GIG Cymru yn datblygu ei ddealltwriaeth a’i rôl o fewn yr Economi Sylfaenol trwy gyflawni Rhaglen yr Economi Sylfaenol mewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Targed:cyflawni mentrau’r Economi Sylfaenol a/neu dystiolaeth o welliannau yn y broses gwneud penderfyniadau. Adroddiad Monitro Ansoddol Sefydliadol chwe mis
Canlyniad:Rydym yn darparu adroddiad bob chwe mis i Lywodraeth Cymru, a gynhwysir yn eu cyhoeddiad o Fesurau GIG Cymru
MESUR CYFLAWNI 50Adroddiad ansoddol yn darparu tystiolaeth o gamau gweithredu i gyflawni amcanion Y Gymraeg fel y’u diffinnir yn y Cynllun Gweithredu Mwy Na Geiriau.
Targed: Ffurflen Monitro Mwy na Geiriau
Canlyniad:Gweler yr Adran ar yr Iaith Gymraeg
MESUR CYFLAWNI 59Canran y cwynion sydd wedi cael ateb terfynol (o dan reoliad 24) neu ateb dros dro (o dan reoliad 26) hyd at ac yn cynnwys 30 diwrnod gwaith o’r dyddiad y daeth y gwyn i law’r sefydliad gyntaf.
Targed: 75%
Canlyniad: Gweler yr Adran Gwynion
Mae mesurau rheoli ar waith i sicrhau y cydymffurfir â holl rwymedigaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol.
Fel cyflogwr gyda staff sydd â hawl i fod yn aelodau o Gynllun Pensiwn y GIG, mae mesurau rheoli ar waith i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â holl rwymedigaethau’r cyflogwr sydd wedi’u cynnwys yn rheoliadau’r Cynllun. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod didyniadau o gyflog, cyfraniadau’r cyflogwr a thaliadau i’r Cynllun yn cyd-fynd â rheolau’r Cynllun, a bod cofnodion aelodau’r Cynllun Pensiwn yn cael eu diweddaru’n gywir yn unol â’r cyfnodau amser sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo achosion o dor diogelwch data personol yn torri maen prawf penodol, eu bod yn cael eu hysbysu i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel y corff statudol ar gyfer diogelu data yn y DU. Asesir digwyddiadau o lywodraethu gwybodaeth yn erbyn y trothwy ar gyfer hysbysu gan ein tîm Llywodraethu Gwybodaeth.
Cyflwynir adroddiadau am ddigwyddiadau sy’n cynnwys tor diogelwch data i’r Grŵp Llywodraethu Gwybodaeth i’w harchwilio. Ar gyfer y flwyddyn 2022-2023, ni hysbyswyd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am unrhyw achosion o dor diogelwch data personol.
Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd cydymffurfiaeth staff â’r hyfforddiant Llywodraethu Gwybodaeth yn Fframwaith Hyfforddiant Sgiliau Craidd GIG Cymru yn 88.6% yn erbyn targed o 85%.
Mae angen i’r GIG yng Nghymru gynllunio ar gyfer ac ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau brys a allai effeithio ar iechyd neu ofal cleifion. Er nad yw Awdurdodau Iechyd Arbennig GIG Cymru wedi’u cynnwys yn narpariaethau Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Iechyd a Gofal Digidol Cymru barhau i ymgysylltu a chymryd rhan mewn cynlluniau brys ac wrth gefn ar gyfer Cymru. Felly mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cael cyfarwyddyd ffurfiol (o dan bwerau Deddf GIG Cymru 2006) i barhau i:
Ers iddo weithredu yn y modd parhad busnes yn ystod yr ymateb i bandemig Covid-19, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi parhau â’i ymagwedd gydweithredol at barhad busnes a chynllunio at argyfwng trwy aelodaeth weithredol o nifer o grwpiau cynllunio ledled Cymru.
Mae ein trefniadau parhad busnes yn gweithio’n effeithiol ac yn parhau i wella gydag adnoddau a ffocws ychwanegol ar barhad busnes a chynllunio at argyfwng.
Byddwn yn parhau i ddatblygu ein parodrwydd ar gyfer argyfwng trwy gael ein cynnwys mewn fframweithiau ymateb ac adfer aml-asiantaeth.
Rydym yn gofyn barn ein pobl, staff posibl, partneriaid a’r gymuned i wneud penderfyniadau sy’n cael eu llywio gan ddata ac rydym yn gweithio gydag arloeswyr i ysgogi gwelliant parhaus tuag at gynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb, gan ymdrechu i ddod yn esiampl yn y sector. Rydym yn cydnabod bod cynhwysiant yn gyfrifoldeb i bawb a thrwy hwyluso, hyfforddi, cefnogi a rheoli perfformiad byddwn yn gwreiddio diwylliant sy’n gynhwysol a gwrthwahaniaethol, gan ddangos y gwerthoedd a’r ymddygiadau craidd fel bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei gydnabod fel model rôl ac yn lle gwych i weithio iddo.
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023-2027 a chawsom ein hasesu gan gorff achredu allanol a arweiniodd at:
Mae agwedd systematig at Asesiadau’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ein helpu i osod cydraddoldeb, amrywiaeth, cydlyniant ac integreiddio wrth wraidd popeth a wnawn ac mae ein strategaethau, ein polisïau, ein gwasanaethau a’n swyddogaethau yn gwneud yr hyn a fwriadwyd, ar gyfer pawb.
Strategaeth Cynaliadwyedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw’r lefel uchaf o wybodaeth sy’n cael ei dogfennu sy’n rhoi cyfeiriad cyffredinol i agweddau amgylcheddol y System Reoli Integredig (IMS).
Fe wnaethom sefydlu Strategaeth Cynaliadwyedd yn seiliedig ar gyfuno prosesau cyfredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru â gofynion System Rheoli Amgylcheddol ISO 14001:2015, fel offeryn strwythuredig a systematig, i gyflawni ein mandad i ddiogelu’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol.
Dyma’r egwyddor arweiniol i sefydlu, gweithredu a chynnal ein perfformiad a’i wella’n barhaus o ran rheoli agweddau amgylcheddol a rhwymedigaethau cydymffurfedd, er mwyn rheoli’r risg o fygythiadau a chyfleoedd, a bodloni anghenion a disgwyliadau partïon â buddiant.
Yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, rydym yn cydnabod yr effaith bosibl y gallem ei chael ar yr amgylchedd ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i leihau’r effaith hon ar draws cwmpas ein gwasanaethau gweithrediadau. Drwy wella, cynyddu ein cyfathrebu a rhoi mwy o ffocws ar sut rydym yn cael gwared ar ein gwastraff, rydym wedi dod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd. Rydym wrthi’n ymdrechu i fesur a lleihau ein hôl troed carbon er mwyn hybu cynaliadwyedd. Er bod llawer o weithgareddau a allai leihau cyfanswm y nwyon tŷ gwydr yr ydym yn eu hallyrru fel sefydliad, credwn fod yn rhaid eu cyflawni fel rhan o raglen gydlynol a rhesymegol i sicrhau trawsnewid llwyr. Yn holl bwysig, mae ein dull wedi’i seilio ar y gred bod rhaid i unrhyw gamau a gymerir ystyried nid yn unig sut i fynd i’r afael â’r allyriadau CO2 a gynhyrchir, ond hefyd sut gallwn ni ddod yn garbon effeithlon.
Mae enghreifftiau o’r cynnydd a wnaed gennym yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:
Mae 100% o’r gwaith cyflawni yn erbyn cynllun gweithredu datgarboneiddio 2022-23 wedi’i gwblhau. Mae ein tueddiad blynyddol o ran yr amgylchedd yn gadarnhaol, gydag allyriadau gweithredol ar hyn o bryd yn dangos gostyngiad o 39% (1090tCO2e) ar gyfer 2022-23, o gymharu â’n blwyddyn waelodlin yn 2019-20.
Rydym yn parhau i fesur allyriadau ar draws sawl categori i sicrhau bod dull gweithredu cynhwysfawr ar waith i leihau lefelau CO2.
Mae Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru yn dangos sut gall GIG Cymru gyfrannu at adferiad a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n mynd i’r afael â heriau parhaus hirdymor fel tlodi, annhegwch iechyd, a’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r angen i bawb yn y sector cyhoeddus gyfrannu at y nod uchelgeisiol i Gymru gyrraedd statws carbon sero net erbyn 2050 a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Ar ddiwedd 2021, fe wnaethom ddatblygu Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud. Mae’r cynllun cyflawni hwn yn edrych o’r newydd ar ein hanghenion o ran adeiladau ac ynni, yn ogystal â chaffael, teithio, a ffynonellau allyriadau eraill. Mae rhai o’r allyriadau hyn y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol; gan amlygu’r her sy’n ein hwynebu wrth weithio ar y cyd i ddylanwadu ar benderfyniadau pobl eraill.
Fel sefydliad digidol, rydym mewn sefyllfa unigryw i gyfrannu at leihau allyriadau carbon ar draws y GIG ehangach trwy ddarparu a gwella atebion digidol, fel y rhai sy’n galluogi trosglwyddo a storio gwybodaeth yn ddigidol ac atebion sy’n galluogi ymgynghori o bell.
Mae allyriadau carbon yn rhan bwysig o fesur effaith amgylcheddol. Mae ein hôl troed carbon yn cael ei gyfrifo fel cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir o ganlyniad i’n gweithgareddau a’n gwasanaethau, wedi’i fynegi fel carbon deuocsid cyfatebol.
Mesurodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru allyriadau gyntaf yn 2019-20 (fel y sefydliad a’i rhagflaenodd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru). Adwaenir hyn fel ein blwyddyn sylfaen. Roedd y rhan fwyaf o’n hôl troed carbon gweithredol yn ystod y flwyddyn hon i’w briodoli i drydan (80%) a nwy (18%). Cyfanswm yr allyriadau gweithredol yn ystod 2019-20 oedd 2748 MtCO2e (tunelli metrig o garbon deuocsid cyfatebol).
Yn ystod Blwyddyn 2 (2020-21), gwelwyd gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau o 27% i 2011 MtCO2e, sy’n gadarnhaol iawn, a gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn allyriadau trydan oherwydd newid i gyflenwr ynni adnewyddadwy.
Cyfrannodd gweithio o bell hefyd at ostyngiad mewn allyriadau adeiladau ond rhoddwyd cyfrif amdano mewn ffordd wahanol i adlewyrchu allyriadau gweithio gartref
Ym Mlwyddyn 4, mae allyriadau gweithredol ein blwyddyn adrodd bresennol (2022-23) wedi parhau i ostwng i 1658 MtCOO2e ac rydym bellach yn nodi gostyngiad o 39% yn erbyn ein blwyddyn sylfaen. Mae categori adrodd newydd wedi’i gyflwyno yn ymwneud â Nwy-F sy’n gysylltiedig â systemau aerdymheru.
Rydym yn rhagweld y bydd ein hôl troed carbon gweithredol yn lleihau ymhellach yn 2023-24 gyda gwaith ad-drefnu stadau (un safle i’w gau) a chwblhau prosiect i amnewid y goleuadau gwreiddiol â goleuadau LED mewn dau safle mawr ar ddiwedd 2022/23.
Nodiadau ar gategorïau uwch:
Mae Nwy-F yn gategori adrodd newydd
Mae cynnydd mewn gweithio gartref i’w ddisgwyl yn unol â’r ffyrdd presennol o weithio. Mae hyn yn cael ei wrthbwyso gan gymudo yn gweld gostyngiadau sylweddol.
Cerbydau Fflyd - oherwydd llwythi gwaith y prosiect Gwasanaethau Cleient/cynyddu darpariaethau gwasanaeth.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cwblhau ei ail flwyddyn lawn o weithredu ers trosglwyddo o fod yn gorff a gynhelir o fewn Ymddiriedolaeth GIG Felindre i’w statws Awdurdod Iechyd Arbennig statudol ei hun.
Rydym wedi parhau i gryfhau systemau ariannol, rheolaethau, llywodraethu ac adrodd sydd eu hangen i fodloni gofynion statudol ac anghenion busnes o fewn cyd-destun heriol cyllid y GIG a gweithredu buddsoddiadau newydd.
Arweiniodd atebion digidol a oedd yn cefnogi’r ymateb parhaus i Covid-19 (gan gynnwys systemau Profi Olrhain Diogelu ac Imiwneiddio Torfol Llywodraeth Cymru), at ofyniad ychwanegol o £9.128 miliwn o refeniw. Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw effaith ariannol ychwanegol ar ein gallu i adennill costau. Rydym hefyd yn arwain y gwaith o gyflawni nifer o fentrau digidol a gefnogir gan Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethu Digidol Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer 2022-23 derbyniodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru £31.4 miliwn mewn cyllid refeniw a £9.3 miliwn mewn cyfalaf. Bydd y ffocws yn y dyfodol yn parhau ar ddarparu gwybodaeth ac atebion digidol o’r radd flaenaf i gefnogi gofal cleifion a gwasanaethau dinasyddion effeithiol. Bydd rhai yn gofyn am newidiadau mewn technoleg (megis trosglwyddo i wasanaethau cwmwl yn gyntaf) a fydd yn gofyn am addasiadau i fodelau ariannu cynaliadwy er mwyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gyrraedd targedau ariannol.
Mae dyletswyddau ariannol statudol Awdurdodau Iechyd Arbennig wedi’u hamlinellu yn adran 172 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
DYLETSWYDD ARIANNOL GYNTAF
Mae adran 172(1) yn nodi’r hyn y cyfeirir ati fel y ‘Ddyletswydd Ariannol Gyntaf’ – dyletswydd i sicrhau nad yw gwariant Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn fwy na chyfanred y cyllid a ddyrennir iddo ar gyfer blwyddyn ariannol. Eglurodd y pwerau cyfarwyddo yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) adran 172(6), WHC/2019/004 fod y ddyletswydd ariannol statudol flynyddol yn cael ei gosod ar wahân ar gyfer dyraniadau adnoddau Refeniw a Chyfalaf. Rhoddwyd dyraniadau adnoddau Refeniw a Chyfalaf i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 a byddant yn sail i asesiad o’r Ddyletswydd Ariannol Gyntaf yn y cyfrifon statudol.
AIL DDYLETSWYDD ARIANNOL
Yr ‘Ail Ddyletswydd Ariannol’ ar gyrff y GIG yng Nghymru yw’r ddyletswydd i baratoi cynllun ac i’r cynllun hwnnw gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru a’i gymeradwyo ganddynt.
Ymatebodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru i Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2022-2025 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru gyda Chynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2022. Nid oedd hwn yn ofyniad statudol ar gyfer Awdurdodau Iechyd Arbennig, ac o dan Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 nid oedd angen cymeradwyaeth Gweinidogol ar y cynllun; fodd bynnag, fe’i derbyniwyd a’i nodi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Gorffennaf 2022.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn adrodd ar gyflawni’r holl dargedau ariannol a osodwyd
Y ffioedd a dalwyd i Archwilio Cymru am yr archwiliad statudol a’u harchwiliad ar berfformiad oedd £188,852.
Mae ein polisi Ymdrin â Phryderon a Chwynion yn canolbwyntio ar ddatrysiad cyflym, gan amlinellu’r amserlenni targed ar gyfer ymatebion, yn ogystal â phwyslais ar ddysgu sefydliadol i fod yn sail i’r gwaith o wella gwasanaethau.
Derbyniwyd cyfanswm o dair cwyn a dim pryderon yn ystod 2022-23. Cafodd pob un eu datrys o fewn yr amseroedd a amlinellwyd yn ein polisi.
Ar hyn o bryd, nid yw Awdurdodau Iechyd Arbennig yn rhan o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â pholisi cwynion y GIG ‘Gweithio i Wella’, sydd wedi’i fwriadu ar gyfer sefydliadau sy’n delio â chleifion.
Fel sefydliad yn ein hail flwyddyn, fe wnaethom barhau i osod targedau uchelgeisiol, wrth addasu i heriau newydd a chamu i’r rôl o arwain systemau i fod yn sefydliad digidol GIG Cymru. Mae ein Grŵp Adolygu Digwyddiadau a Dysgu wedi rhoi nifer o welliannau ar waith o ganlyniad i wersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod, ac mae agweddau allweddol yn cynnwys:
Gwella proses, dogfennaeth ac offer Cyfathrebu’r Ddesg Gwasanaeth Arweiniodd yr adolygiad at fwy o gysondeb mewn cyfathrebu o’r Ddesg Wasanaeth, gydag iaith symlach ar gyfer defnyddwyr, a llif gwybodaeth gwell ar draws timau.
Gwella proses, dogfennaeth, adnoddau a hyfforddiant Rheoli Digwyddiadau Mawr y Gwasanaeth TG. Adolygodd gweithgor bob agwedd ar reoli digwyddiadau mawr a chyflawnodd gyfres o welliannau i wneud y broses a oedd gynt yn gymhleth yn haws ei gweithredu i’r rhai dan sylw.
Gwelliannau i’r broses adolygu digwyddiadau gan ddefnyddio Fframwaith Ffactorau Cyfrannol Swydd Efrog i ddatblygu dealltwriaeth fwy soffistigedig o’r ffactorau sy’n achosi digwyddiadau.
Gwelliant i’r broses Rheoli Newid technegol i sicrhau mwy o gysondeb o ran dull gweithredu gan reolwyr newid a byrddau cynghori newid. Mae byrddau cynghori ar newid yn craffu’n ddyfnach ar newidiadau a roddir ar waith, ac mae gwell cysylltiadau ag achosion ar ôl newid, gan ddarparu dysgu sy’n bwydo’n ôl i’r broses ar gyfer mireinio pellach.
Gwersi o ran y gweithlu a diwylliant o ganlyniad i arolygon staff a chofnodion eraill. Mae’r gwersi a ddysgwyd wedi dylanwadu ar y Weledigaeth a’r Gwerthoedd newydd, yn ogystal â pholisïau’r gweithlu, a phrosesau ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sy’n gadael.
Gwella’r gwaith o hyrwyddo a chyfathrebu Gwersi a Ddysgwyd i hyrwyddo arfer gorau o ran Rheoli Gwasanaethau TG a rhannu’r dysgu â chydweithwyr ar draws y sector.
Yn ein hail flwyddyn gwelsom dwf, her a newid sylweddol, wrth i ni wreiddio’r sefydliad o fewn teulu GIG Cymru. Mae’r hyn yr ydym yn ei ddarparu yn bwysig i weithwyr iechyd proffesiynol ac i bobl Cymru, a pho uchaf yw ansawdd ein darpariaeth, y gorau yw’r siawns o ganlyniad cadarnhaol
Ein Gwasanaethau TG yw sylfaen gallu digidol GIG Cymru, ac mae cynnal argaeledd gwasanaethau ar 99.977% wedi sicrhau bod amhariadau technolegol wedi’u cadw i isafswm, wedi’u hategu gan fireinio a rheoli systemau ychwanegol, gan gynnwys ein dull seiberddiogelwch, wrth edrych tua’r dyfodol.
Rydym yn falch o gefnogi ein cydweithwyr yn GIG Cymru, sy’n darparu’r gwasanaethau digidol sydd bellach mor hanfodol ar gyfer gofal cleifion effeithlon ac effeithiol, ac rydym yn edrych ymlaen at wynebu’r heriau a chroesawu’r cyfleoedd a ddaw yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae hyblygrwydd wrth gyflawni ein cynllun yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r pethau iawn ar yr amser iawn; byddwn yn parhau i adeiladu ar y dull hwn, gan ystyried anghenion rhanddeiliaid a’r blaenoriaethau gweinidogol a nodwyd yn glir sy’n llywio’r hyn a wnawn.
Wrth edrych i’r dyfodol byddwn yn parhau i gefnogi staff GIG Cymru gyda systemau a datrysiadau data modern i ddarparu mewnwelediad ac i gyflwyno’r Ap a fydd yn galluogi dinasyddion Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain yn well.
Mae meysydd allweddol yn cynnwys symud ymlaen gyda systemau newydd ar gyfer gofal critigol a gofal brys a datblygu gwasanaethau sy’n wynebu dinasyddion ymhellach i drawsnewid llwybrau gofal, yn ogystal â chynnal y ffocws cryf ar ddatblygu ein sefydliad trwy dwf mewn sgiliau, gallu a diwylliant.
Fel sefydliad blaengar, byddwn yn parhau i weithio gyda’n rhanddeiliaid a’n partneriaid i sicrhau bod ein datrysiadau digidol yn gwneud bywyd yn haws i bawb, yn cael effaith wirioneddol, ac yn gosod data ac ansawdd iechyd wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae ein hamcanion ymestynnol wedi’u nodi yn ein Cynllun Tymor Canolig Integredig diweddaraf 2023 – 2026