Datganiad gan y prif swyddog gweithredol
Cyflawniad Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyntaf ac yn bennaf yw ein gallu i alluogi GIG Cymru i weithredu mewn amgylchedd digidol trwy sicrhau bod y gwasanaethau digidol sy'n sail i iechyd a gofal ar gael lle a phan fo angen. Mae hyn yn gofyn am reoli a chynnal a chadw gwasanaethau bob awr o'r dydd, ac ymateb cyflym i ddigwyddiadau wrth iddynt godi. Yn ogystal, mae ein cynllun uchelgeisiol ar waith i gadw i fyny â newid technolegol, yn ogystal â darparu gwasanaethau iechyd a gofal newydd a gwell i’n rhanddeiliaid yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a GIG Cymru; rydym yn gwneud hyn law yn llaw â chydweithwyr ar draws GIG Cymru i gyd-fynd â’u cynlluniau a’u cyfyngiadau. Mae'n rhaid i ni hefyd gyflawni ein rhwymedigaethau ariannol, statudol ac eraill, gan gydbwyso risg; mae ein perfformiad ar draws y flwyddyn yn gyfuniad o'r holl elfennau hyn.
Yn ystod 2022-23 rydym wedi cynnal lefel uchel o argaeledd gwasanaeth ar gyfer ein rhanddeiliaid, yn ogystal ag ystwytho ein cynllun i ymgymryd â gofynion newydd yn ystod y flwyddyn, er enghraifft ym mis Ionawr cymerasom gyfrifoldeb am arwain dwy raglen foderneiddio diagnosteg allweddol. Rydym wedi cyflawni’r mentrau digidol allweddol yn ein cynllun, wrth weithio’n barhaus hefyd tuag at ddatrys y rhwystrau sydd wedi atal rhai mentrau rhag symud ymlaen; bydd y rhain yn parhau i gael eu datblygu fel y nodir yn ein cynllun ar gyfer 2023-24.
Rydym wedi llwyddo i ennill sawl gwobr, sy’n dangos safon ein staff a’n safle fel arweinydd systemau ar gyfer digidol o fewn GIG Cymru.