Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Platfform Rheoli Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API)?

 

 

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Uwch Arbenigwr Cynnyrch (neu Reolwr Cynnyrch) i Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Dechreuais weithio fel rhan o'r Rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol tua blwyddyn yn ôl. Roeddwn wedi gweithio mewn swyddi TGCh amrywiol yn flaenorol; roedd y diweddaraf yn ymwneud â rheoli’r cynhyrchion a’r offer a ddefnyddir gan ystadegwyr. Fodd bynnag, ar ôl 17 mlynedd o weithio yn y Llywodraeth roeddwn eisiau rhoi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol. Rhywbeth a fyddai efallai yn mynd â fi'n nes at dechnoleg, gan ehangu fy mhrofiad o bensaernïaeth data, a chynnig fy nghefnogaeth i faes newydd o wasanaeth cyhoeddus.

Yn ystod y 12 mis diwethaf rwyf wedi bod yn helpu i arwain y broses o roi’r Platfform Rheoli API newydd ar gyfer GIG Cymru ar waith. Roedd hyn yn cynnwys dysgu mwy am rwydweithiau, tirwedd TGCh GIG Cymru, y prosesau Llywodraethu, a’r syniadau a chysyniadau ynghylch galluoedd Rheoli API, ac wrth gwrs, cyfarfod â chydweithwyr, rhanddeiliaid a thimau prosiect newydd a gwych.

Rwyf hefyd wedi gorfod dod i wybod am dechnoleg cwmwl newydd. Roeddwn wedi gweithio gyda Microsoft Azure yn flaenorol ond dim ond ar sail “hobi” yr oeddwn wedi ymhel â Google Cloud (a gwasanaethau Amazon Web) Mae ehangu fy ngwybodaeth o Google Cloud wedi bod yn ddiddorol. Wrth ddod i adnabod y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng y ddau ddarparwr cwmwl hyn gallaf ddeall pam mae llawer o sefydliadau’n mabwysiadu dull aml-gwmwl, gan fod gan y ddau blatfform gryfderau a gwendidau amlwg.

Symudaf ymlaen i drafod yr APIs eu hunain. Roeddwn wedi gweithio gydag APIs data agored yn flaenorol. Maent yn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu tryloywder y Llywodraeth ac mae tebygrwydd rhwng y safonau a’r patrymau yr wyf wedi gweithio gyda nhw, fodd bynnag, mae’r APIs sy’n sail i’r systemau a ddefnyddir gan glinigwyr yn tueddu i fod ar lefel uwch yn gritigol ac yn fwy brys. Mae rhai safonau gofal iechyd API wedi'u diffinio'n glir, fel FHIR, yr wyf wedi gorfod dod i’w hadnabod.

Felly, Rheoli API, pam y byddai ei angen arnoch a pha gyfleoedd sydd ar gael i'w ddefnyddio?

 

 

 

Felly sut mae'r prosiect yn dod yn ei flaen?

Roedd diwedd mis Medi yn garreg filltir wirioneddol i’n tîm, gan ein bod yn gallu sicrhau bod rhai APIs presennol ar gael i’w defnyddio. Mae’r cysylltiadau API newydd hyn yn cael eu profi ar hyn o bryd gydag ychydig o randdeiliaid “peilot” dethol lle rydym yn egluro, yn dogfennu ac yn ymarfer rhai o’r prosesau sy’n ymwneud â sefydlu cysylltedd - gan sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn modd diogel sy’n cydymffurfio â disgwyliadau uchel data gofal iechyd.

Mae'r broses sicrwydd (a elwir yn aml yn “cynefino”) sy'n caniatáu i gymwysiadau ddefnyddio APIs yn gymhleth, ac mae cynlluniau ar y gweill i'w safoni, symleiddio a'i gwneud yn fwy tryloyw. Yn y cyfamser, tua adeg y gwanwyn y flwyddyn nesaf, rydym yn gobeithio cael Porth Datblygwyr ar waith lle byddwn yn dechrau rhestru ein APIs, gan rannu mwy o wybodaeth am sut maent yn gweithio’n dechnegol, a’r hyn y byddai angen i ddatblygwr cymwysiadau ei ystyried yn dechnegol wrth gysylltu.

Mae wedi bod yn bleser pur gweithio fel rhan o’r Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol a’r GIG ehangach yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at allu parhau â’r gwaith. Mae’r Adnodd Data Cenedlaethol yng Nghymru bob amser yn chwilio am unigolion talentog i gymryd rhan...