Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Joshua

 

Text

I unrhyw un sy'n ystyried gwneud y naid a chofrestru ar gyfer prentisiaeth trwy IGDC, fy nghyngor i fyddai manteisio arno!

Joshua Harries, Uwch Arbenigwr TG

Container
Image
Text

Joshua Harries, Uwch Arbenigwr TG

Ers y tro diwethaf i ni sgwrsio, dw i bellach wedi symud i rôl Uwch Arbenigwr TG Band 6 o fewn ein tîm Gwasanaethau Rhwydwaith yn IGDC, gan ofalu am holl seilwaith Rhwydweithio hollbwysig GIG Cymru.

Mae fy ngradd, BSc mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, yn cyd�fynd yn uniongyrchol â fy rôl newydd yn y tîm Gwasanaethau Rhwydwaith, gan ganiatáu i mi drosglwyddo sgiliau rydw i wedi'u dysgu o fy ngradd i helpu yn y pen draw i gefnogi ein staff rheng flaen i ddarparu'r gofal gorau posibl i'n cleifion yng Nghymru. Mae hefyd yn caniatáu i mi ddysgu sgiliau newydd yn y swydd o ddydd i ddydd, y gallaf wedyn eu defnyddio yn fy aseiniadau ac arholiadau yn y Brifysgol.

Yr hyn i mi ei fwynhau mwyaf am fy mhrentisiaeth oedd y gallu i gael swydd amser llawn a chael gradd wedi’i hariannu’n llawn ar y diwedd. Ynghyd â gwneud nifer o ffrindiau newydd, a sgiliau i'w defnyddio mewn bywyd cyffredinol hefyd!

Mae gorfod cydbwyso gradd amser llawn yn ogystal â swydd amser llawn wedi bod yn anodd ar adegau, ond mae’r gefnogaeth gan gydweithwyr a rheolwyr yn IGDC a’r Tîm Cyswllt Prentisiaid ymroddedig o fewn PCYDDS wedi bod heb ei ail ac wedi helpu’n fawr.

I unrhyw un sy'n ystyried gwneud y naid a chofrestru ar gyfer prentisiaeth trwy IGDC, fy nghyngor i fyddai manteisio arno! Mae yna amrywiaeth eang o raddau i ddewis o’u plith, ynghyd â lleoliadau gwahanol ledled Cymru, ac er y gall fod yn straen ar adegau, mae’n bendant yn werth chweil! Mae'r tair blynedd diwethaf wedi hedfan heibio, ac mae'n wallgof meddwl y bydd gen i radd ymhen 9 mis! I unrhyw un sydd efallai'n meddwl am brentisiaeth, mae croeso i chi gysylltu â mi fy hun i gael sgwrs