Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn rhoi’r offer digidol angenrheidiol i nyrsys cymunedol, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion er mwyn cydweithio’n well.
Mae system gyfrifiadurol newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru i helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i weithio gyda’i gilydd i ddarparu gofal yn nes at gartrefi pobl.
Enw’r system yw System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) ac mae’n rhoi’r offer digidol angenrheidiol i nyrsys cymunedol, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion er mwyn cydweithio’n well.
Mae’n rhoi mynediad i wybodaeth berthnasol am y gofal a ddarperir i weithwyr proffesiynol eraill, er mwyn dangos lle mae’r claf arni yn ei driniaeth.
Pan fydd wedi’i roi ar waith yn llawn ledled Cymru, bydd yn goresgyn y rhwystrau sy’n codi pan fydd sefydliadau’n defnyddio gwahanol systemau TG trwy storio gwybodaeth bwysig yn ddiogel, yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau, fel nyrsio cymunedol, ymweliadau iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, anableddau dysgu, cam-drin sylweddau, anghenion gofal cymhleth neu therapi gofal cymdeithasol.
Ar hyn o bryd, mae 12 sefydliad yn defnyddio WCCIS, sef: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Dinas Casnewydd.
Pan fydd claf neu gleient yn derbyn triniaeth neu ofal yng Nghymru, mae’r wybodaeth naill ai’n cael ei hysgrifennu ar bapur neu ei chadw ar gyfrifiadur. Mae’r cofnodion hyn yn cael eu defnyddio i gynorthwyo gofal unigolion.
Ond pan gaiff gofal ei ddarparu yn y cartref neu’r gymuned, yn aml, mae’n cael ei ddarparu gan wahanol bobl o wahanol sefydliadau, ac mae cofnodion y claf yn offeryn hanfodol ar gyfer cyfathrebu â’i gilydd.
Yn flaenorol, roedd gweithwyr yn defnyddio systemau electronig a phapur ar wahân i gofnodi gwybodaeth am y bobl yn eu gofal, oedd yn golygu ei bod yn anodd rhannu’r wybodaeth i gynorthwyo gofal.
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru’n goresgyn hyn trwy integreiddio gwybodaeth mewn un system genedlaethol sy’n galluogi i wybodaeth gael ei rhannu’n ddiogel rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, pan fydd hynny’n angenrheidiol.
Bydd yn cael ei defnyddio gan wasanaethau iechyd cymunedol, iechyd meddwl a chymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion i gofnodi’r gofal maen nhw’n ei ddarparu. Gellir rhannu neu drosglwyddo achosion ar draws ffiniau rhanbarthol a sefydliadol os caiff yr unigolyn ei atgyfeirio i wasanaethau newydd, neu os byddwch yn symud tŷ.
Gall staff y rheng flaen gael mynediad i wybodaeth a’i chofnodi ‘wrth fynd’ gan ddefnyddio dyfeisiau symudol fel llechi cyfrifiadurol a ffonau clyfar. Gallant weld y wybodaeth orau a mwyaf diweddar sydd ar gael, i gael gwybod pwy oedd yr unigolyn diwethaf i weld y claf, beth ddigwyddodd a pha gynlluniau gwasanaeth neu driniaeth sydd ar waith.
Nid oes rhaid argraffu cymaint o waith papur na dychwelyd i’r swyddfa neu adref i gael y wybodaeth allweddol.
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru’n cynorthwyo gofal yn y gymuned, sy’n helpu i ostwng nifer yr achosion o aros yn yr ysbyty’n ddiangen. Bydd modd i ofalwyr gael mynediad hawdd i’r holl wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnynt ac ni fydd angen i’r unigolyn ailadrodd ei fanylion dro ar ôl tro i wahanol ofalwyr, gan arwain at ofal mwy cyson.
Sefydlwyd Rhaglen System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn 2015 i gefnogi cyflwyno adnodd digidol i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol a gofal cymdeithasol i weithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal yn agosach at gartrefi pobl.
Mae'r rhaglen 12 mlynedd yn cael ei noddi a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i darparu mewn partneriaeth â Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru a byrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n gweithredu ar ran y 7 bwrdd iechyd a’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae IGDC yn darparu cydlyniad technegol ar gyfer y system aml-asiantaeth Cymru gyfan hon.
Dyma’r ymateb ar ran Rhaglen Genedlaethol WCCIS i adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru.