Neidio i'r prif gynnwy

Prawf electronig mewn practisau meddygon teulu

 

Mae’r defnydd o’r system electronig ar gyfer gwneud ceisiadau am brofion mewn practisiau meddygon teulu ar gynnydd â mwy o bractisiau’n defnyddio’r system dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r system electronig ar gyfer gwneud ceisiadau am brofion mewn practisiau meddygon teulu (GPTR) yn galluogi practisiau meddygon teulu i wneud cais am brofion gwaed i’w cleifion yn electronig gan roi darlun llawnach i Feddygon Teulu o’u cleifion.

Esboniodd Ann-Marie Cunningham, Meddyg Teulu yn Sir Caerffili a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Gofal Sylfaenol yng Iechyd a Gofal Digidol Cymru,

“Bydd unrhyw fanylion clinigol sydd wedi’u cynnwys gyda’r cais yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad canlyniadau, gan wella ansawdd gwybodaeth a rhoi darlun llawnach o’r claf i’r clinigydd.”

Gall Weithwyr Iechyd Proffesiynol weld canlyniadau gofal sylfaenol ac eilaidd, unrhyw le yng Nghymru, a chyda miloedd o brofion gwaed yn cael eu gwneud yng Nghymru bob wythnos, mae GPTR yn helpu i brosesu ceisiadau a chanlyniadau yn gynt.

 

Astudiaeth Achos: ‘Gwneud Cais am Brawf yn Electronig mewn practisiau Meddygon Teulu’