Neidio i'r prif gynnwy

System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru

 

System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru

Darparu Uned Gofal Dwys Digidol

Lansio yn gynnar yn 2023

Mae monitro cleifion yn barhaus yn unedau gofal dwys Cymru yn hanfodol i ganfod newidiadau critigol yng nghyflwr y claf.  Pan fydd pob eiliad yn cyfrif i staff iechyd sydd angen gwneud penderfyniadau critigol ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael, mae gwybodaeth yn adnodd hanfodol.

Nawr bydd datrysiad digidol newydd i ddisodli siartiau papur a'r arsylwadau a ysgrifennwyd â llaw a ddefnyddir i gofnodi arwyddion bywyd hanfodol yn dechrau cael ei gyflwyno. Yr Uned Gofal Dwys newydd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fydd y gyntaf o'r 14 uned gofal critigol i oedolion yng Nghymru i fabwysiadu'r gwasanaeth digidol newydd.

Mae'r datrysiad digidol newydd a reolir yn llawn yn gallu disodli'r holl siartiau sy'n bodoli eisoes. Bydd yn casglu gwybodaeth amser real yn awtomatig o'r dyfeisiau monitro, pympiau ac offer anadlol a ddefnyddir ar gyfer gofal pob claf, gan ddarparu mynediad hawdd at ddata a mewnwelediadau hanfodol, gan roi trosolwg cyflym a chlir i staff rheng flaen o statws cleifion a dyfeisiau ar draws y ward.

O ystyried bod dros 10,000 o bobl yn cael eu derbyn am ofal critigol yn ysbytai Cymru bob blwyddyn, ynghyd â phwysau cynyddol ar ofal dwys, bydd gwella Unedau Gofal Dwys yn ddigidol yn gwella gofal trwy symleiddio prosesau, darparu gwybodaeth glinigol hanfodol ac arbed staff nyrsio rhag dogfennu wrth wely claf.

Bydd integreiddio â systemau GIG Cymru yn galluogi staff gofal dwys i wneud y canlynol:

  • Cofnodi asesiadau cleifion yn electronig
  • Rheoli presgripsiynau a rhoi cyffuriau wrth wely claf
  • Cysylltu ag offer wrth wely claf i gofnodi arwyddion hanfodol a chydbwysedd hylif
  • Cyfrifo sgoriau aciwtedd claf
  • Rheoli heintiau yn well
  • Rheoli cynlluniau gofal dyddiol
  • Creu adroddiadau ar ganlyniadau ac amcanion adran
  • Cefnogi anghenion archwilio ac ymchwil cenedlaethol

Cesglir gwybodaeth mewn cronfa ddata ddeinamig, y gellir ei defnyddio hefyd fel meincnod yn erbyn systemau gofal iechyd eraill a darparu platfform ar gyfer ymchwilio i welliannau mewn gofal beunyddiol sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial, a'u gweithredu o bosibl.

Er mwyn cwrdd â gofynion amgylchedd clinigol heriol, mae cyflwyno'r datrysiad digidol yn cael ei arwain gan uwch ymgynghorydd unedau gofal dwys, Tamas Szakmany MBE, gyda chefnogaeth bwrdd rhaglen aml-arbenigedd a thîm o arbenigwyr technegol a gwybodaeth.

Wedi'i gyflenwi gan y cyflenwr Ascom ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, dyfarnwyd y contract yn 2020. Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano yma.