Mai 23 2025
Mae gwasanaeth digidol a ddisgrifiwyd gan staff gofal iechyd fel un sy'n 'arloesol' a'r 'peth gorau rydyn ni erioed wedi'i wneud' bellach ar gael mewn dros 50% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.
Cyrhaeddodd y Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS), sy'n cael ei harwain gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ac sy'n gwneud y broses bresgripsiynu'n haws ac yn fwy diogel i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, y garreg filltir y mis hwn wrth i'r broses o'i chyflwyno'n raddol i bob cymuned yng Nghymru ennill momentwm.
Mae EPS yn cynnwys teclyn olrhain presgripsiynau sy'n caniatáu i staff fferyllfeydd a meddygon teulu weld bob amser ble mae presgripsiwn. Nid yw’n bosibl gwneud hynny gyda phresgripsiynau papur.
Dywedodd y fferyllydd Steffan John o Fferyllwyr Llyn ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd: “Mae EPS wedi bod yn newid enfawr er gwell i’r fferyllfa ac wedi arbed cymaint o amser yn barod. Nid oes rhaid i ni bellach ffonio’r feddygfa sawl gwaith y dydd i ddod o hyd i bresgripsiynau. Mae wedi bod yn arloesol, mewn gwirionedd.”
Mae saith system fferyllfa gymunedol wedi cael sicrwydd y byddan nhw'n cyflwyno EPS ledled Cymru, gyda chefnogaeth un system meddygon teulu. Dechreuodd Fferyllwyr Llyn ddefnyddio EPS ym mis Medi 2024 gan ddefnyddio meddalwedd Cofnodion Meddyginiaeth Cleifion (PMR) Titan Invatech.
Ychwanegodd Steffan: “Mae ein cleifion wedi sylwi ar y gwahaniaeth yn fawr ac wedi cael eu synnu gan faint yn gyflymach y gall fod. Does dim rhaid iddyn nhw ddod â darn o bapur draw atom, ac erbyn iddyn nhw gyrraedd ein fferyllfa ni mae eu presgripsiwn wedi'i ddosbarthu ac yn aros ar y silff.
“Mae EPS wedi caniatáu inni gael dosbarthfa ddi-bapur. Caiff presgripsiynau eu gwirio'n glinigol ar y sgrin, sy'n cynhyrchu rhestr ddewis ar gyfer staff dosbarthu ar ddyfais llaw. Yna cynhyrchir labeli trwy sganio cod bar y cynnyrch. Mae'r broses yn gwbl ddi-bapur gan fod yr hawlio’n cael ei wneud yn electronig drwy’r PMR hyd yn oed.”
“Mae’r rhan fwyaf o’n cleifion ym Mlaenau Ffestiniog yn lleol, ond mae gennym saith fferyllfa yng Ngwynedd ac mae’r rhai ym Mhenrhyn Llŷn yn gweld llawer o dwristiaid ar wyliau o Loegr. Mae EPS yn ei gwneud hi'n haws prosesu eu presgripsiynau pan fyddan nhw’n ymweld.”
Mae EPS yn nodi un o'r newidiadau mwyaf ers degawdau i'r ffordd y mae GIG Cymru yn rheoli presgripsiynau, ac mae'n dod â nifer o fanteision i gleifion, staff gofal iechyd a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys llai o alwadau rhwng y fferyllfa a'r feddygfa, sy’n symudiad tuag at leihau'r angen i argraffu presgripsiynau ac arbed teithiau i gleifion a staff.
Mae'r gwasanaeth ar gael mewn oddeutu 15% o feddygfeydd teulu, ffigur sy'n cynyddu bob wythnos. Mae hefyd ar gael gan 75% o gontractwyr offer dosbarthu, sy'n dosbarthu offer a chyfarpar meddygol a roddir ar bresgripsiwn. Mae IGDC yn gweithio gyda byrddau iechyd, meddygfeydd teulu a fferyllfeydd i sicrhau bod EPS ar gael ledled Cymru mor gyflym a diogel â phosibl.
Mae Gareth Rowe yn fferyllydd yn fferyllfeydd Nantymoel ac Ogmore Vale ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn safleoedd peilot ar gyfer meddalwedd Proscript Connect PMR Optum (EMIS gynt). Dywedodd Gareth: “Dw i’n meddwl mai’r peth gorau fu’r tryloywder. Hyd yn hyn, os na allwn ddod o hyd i'r presgripsiwn, rhaid i ni ffonio'r feddygfa, ond nawr gallwn weld yn union ble mae’r presgripsiwn bob amser ar y traciwr.
“Un camsyniad ymhlith cleifion yw nad oes rhaid iddyn nhw archebu eu presgripsiwn bellach. Mae'n rhaid iddyn nhw ei archebu yn yr un ffordd ag arfer o hyd, ond yna mae'r meddyg teulu yn ei anfon yn ddigidol atom ni. Mae cleifion yn ymddangos i fod yn hapus gyda'r gwasanaeth ac rydym wedi cael llawer o ddiddordeb gan fferyllfeydd eraill yn yr ardal a fydd yn mynd yn fyw gydag EPS yn fuan. Rydym hefyd yn tywys pobl tuag at Ap GIG Cymru fel y gall y broses archebu a’r broses presgripsiynu bron â bod yn brosesau di-bapur.”
Dywedodd Simon Nelson, fferyllydd a pherchennog Fferyllfa Nelson yn Nhredegar, Blaenau Gwent, sy'n defnyddio meddalwedd Rheolwr Fferyllfa Cegedim Rx: “I’r fferyllfa, mae gymaint yn haws oherwydd nawr mae gwelededd ac olrheinedd llawn i’r meddyg teulu, y fferyllfa ac i’r claf ynghylch ble mae eu presgripsiwn ar unrhyw adeg benodol.
“Mae cleifion wedi synnu o glywed y gallant nawr gael eu presgripsiwn wedi’i anfon yn electronig yn lle gorfod rhedeg o gwmpas amdano. I'r feddygfa, maen nhw'n arbed amser ac ymdrech oherwydd does dim papur. Mae'r meddyg yn llofnodi'r presgripsiynau hynny'n electronig. I'r fferyllfa, rydym yn eu derbyn yn electronig ac i'r claf mae'n broses llawer mwy di-dor a gallant fod yn llawer mwy sicr o ble mae eu presgripsiwn ar unrhyw adeg benodol.”