21ain Awst 2024
Mae’r trawsnewidiad digidol yn cyflymu yng Ngogledd Cymru wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddewis Better UK yn bartner technoleg i gyflwyno system ragnodi electronig ‘arloesol’ yn ei ysbytai.
Bydd y system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig newydd, a elwir yn ePMA, yn cael ei gyflwyno i bob ysbyty ar draws y bwrdd iechyd.
Bydd yn disodli prosesau papur gyda system ddigidol gyflawn a fydd yn symleiddio rhagnodi ym mhob ward ac yn gwella gofal cleifion.
Bydd y system yn lleihau’r risg o gamgymeriadau meddyginiaeth trwy sicrhau bod presgripsiynau’n glir, yn ddarllenadwy ac yn gyflawn, gyda gwiriadau diogelwch mewnol ar gyfer alergeddau, rhyngweithiadau cyffuriau, a chywirdeb dosau.
Bydd hefyd yn galluogi cyfathrebu di-dor rhwng adrannau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan sicrhau bod gwybodaeth am feddyginiaeth yn gywir ac yn gyfredol bob amser.
Mae cyflwyno ePMA yn rhan allweddol o waith Moddion Digidol, a arweinir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) i wneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn fwy effeithlon ac effeithiol i gleifion, meddygon, nyrsys a fferyllwyr.
Dywedodd Lesley Jones, Cadeirydd Goruchwylio’r Rhaglen ePMA yn IGDC: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous ac yn garreg filltir i bobl a chymunedau clinigol Gogledd Cymru. Fel rhywun a weithiodd fel nyrs ysbyty am flynyddoedd lawer, rwy’n gwybod y bydd ePMA yn chwyldroi prosesau rhagnodi a’i fod yn wirioneddol arloesol.
“Yn syml, bydd ePMA yn disodli’r siartiau cyffuriau papur sy’n cael eu cadw wrth erchwyn gwelyau cleifion ar hyn o bryd, gan alluogi rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau’n fwy diogel. Mae’n caniatáu i feddygon, nyrsys a fferyllwyr ragnodi gan ddefnyddio dyfais ddigidol, sy’n cynnig cymaint o fanteision, gan leihau gwallau meddyginiaeth a dileu’r risg o gamgymeriadau trawsgrifio neu lawysgrifen sy’n anodd ei dehongli.”
Yn y prosiect ePMA, bydd cydweithwyr o feysydd fferylliaeth, nyrsio, digidol a chlinigol yn cydweithio i gyflwyno’r system, sydd hefyd yn cefnogi amcanion cynaliadwyedd y Bwrdd Iechyd drwy leihau’r defnydd o bapur.
Dywedodd Mandy Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ac Uwch Swyddog Cyfrifol yn BIPBC: “Mae hwn yn brosiect pwysig oherwydd dyma’r cam cyntaf yn ein strategaeth cofnodion iechyd electronig.
“Bydd y gwaith ePMA yn trawsnewid gwasanaethau ar draws ein hysbytai ac yn symleiddio prosesau er budd cleifion a staff.
“Rhan bwysig y gwaith hwn fu’r cydweithio â chlinigwyr, nyrsys a staff fferyllol sydd wedi ymgysylltu â defnyddwyr ar draws nifer o’n gwasanaethau i gael eu mewnbwn. Felly mae’n cael ei gyd-ddylunio gan y bobl sy’n gwneud y gwaith.”
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - y mwyaf yng Nghymru ac yn gwasanaethu mwy na 700,000 o bobl - yw’r ail fwrdd iechyd i gyhoeddi ei ddewis cyflenwr o fframwaith y cytunwyd arno. Dewisodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ei bartner technoleg ePMA ym mis Mawrth eleni.
Dywedodd Adrian Aggett, Cyfarwyddwr Cleientiaid, Better UK & Ireland: “Rydym wrth ein bodd i fod yn cefnogi BIPBC wrth iddyn nhw gychwyn cyflawni eu strategaeth ddigidol gynhwysfawr gydag ePMA. Mae’r gwelliannau diogelwch cleifion ac effeithlonrwydd yn anhygoel, sy’n golygu y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yng nghamau cychwynnol cynlluniau digidol BIPBC.
“Byddwn yn gweithio’n agos i sicrhau ei fod yn cryfhau’r cydweithredu ym maes gofal, yn hwyluso trosolwg llawn o gofnod meddyginiaeth y claf, ac yn integreiddio â’r system EHR i gyflawni’r buddion hirddisgwyliedig ar gyfer gofal cleifion ac effeithlonrwydd.”
Mae’r bwrdd iechyd wedi dechrau ar gam cyflwyno’r prosiect yn ddiweddar ac mae’n gweithio’n gyflym gyda Better i weithredu’r system newydd ar draws y bwrdd iechyd yn ystod 2025-Mawrth 26.
Cefnogir y prosiect gan fuddsoddiad o £6.7m ar draws GIG Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans, “Rwy’n falch iawn o weld sut mae ein buddsoddiad sylweddol yn cefnogi’r cynnydd rhagorol parhaus i weithredu system bresgripsiynu gwbl ddigidol ar gyfer cleifion a chlinigwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”
“Mae cyhoeddiad heddiw, ar y bartneriaeth rhwng y bwrdd iechyd a Better UK i gyflwyno rhagnodi electronig ym mhob un o’i ysbytai, yn adeiladu ar y gwaith a arweiniodd at gleifion yng Ngogledd Cymru yn dod y cyntaf i elwa o bresgripsiynau electronig ym maes gofal sylfaenol y llynedd.”
“Mae cyflwyno ePMA yn helpu i drawsnewid y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu mewn ysbytai ym mhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru.”