Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Seiberddiogelwch IGDC yw'r cyntaf yn GIG Cymru i ddod yn aelod o sefydliad Seiber cenedlaethol

 

 

 

Mae pawb yn nhîm Seiberddiogelwch IGDC, dan arweiniad Mark Edwards, wedi dod yn aelodau corfforaethol o Sefydliad Siartredig Diogelwch Gwybodaeth (CIISec). CIISec yw'r sefydliad seiberddiogelwch a gwybodaeth ar gyfer y gymuned seiber broffesiynol.

Fel y tîm seiber llawn cyntaf yn GIG Cymru i ymuno, dywedodd Mark: “Mae hyn yn ymrwymo ein tîm i’r safonau proffesiynol a moesegol uchaf ac yn darparu strwythur wedi’i ddiffinio’n glir ar gyfer datblygiad proffesiynol ar bob cam o yrfaoedd seiberddiogelwch.”

CIISec yw'r sefydliad seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth cyntaf i gael statws Siarter Frenhinol ac mae'n ymroddedig i godi safonau yn y proffesiwn yn barhaus.

Mae IGDC yn arwain ym maes seiberddiogelwch ar gyfer GIG Cymru, gan sicrhau cyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd data'r GIG drwy annog penderfyniadau ar sail gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch. Mae'r tîm yn gweithio i ddiogelu systemau a data GIG Cymru drwy fynd i'r afael â bygythiadau technegol, arwain y gwaith o ddylunio a gweithredu systemau TG diogel, a hyrwyddo diwylliant diogelwch gwybodaeth cadarn wrth rannu arferion gorau.

Dilynwch ni: