Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Methodolegau Dadansoddi

 

Mae GIG Cymru a Llywodraeth Cymru (LlC) yn cynhyrchu ystod o wybodaeth ar gyfer dibenion mewnol mewn meysydd megis cynllunio, rheoli perfformiad, datblygu a gweithredu polisi, cyllid ac iechyd y cyhoedd.  Yn ogystal, mae nifer o sefydliadau yn cynhyrchu datganiadau gwybodaeth rheolaidd ar ffurf dangosyddion ac adroddiadau iechyd ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, yn benodol Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi LlC, Cyfarwyddiaeth Cynllunio a Pherfformiad LlC, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Hyd yma, ni fu unrhyw broses ffurfiol ar gyfer cytuno a dogfennu’n llawn y dulliau ar gyfer cyfrifo amrywiol ddangosyddion a chylchrediad data/gwybodaeth. Mae hyn wedi arwain at nifer o anawsterau, yn benodol:  

a) Anallu sefydliadau iechyd gwahanol i efelychu'r un canlyniadau â data a gyhoeddir yn genedlaethol ar gyfer gofynion adrodd lleol (e.e. ar gyfer adroddiadau'r Bwrdd), gan arwain at gyhuddiadau bod “fersiynau gwahanol o'r gwir”. 

b) Diffyg cyd-ddealltwriaeth ar draws sefydliadau’r GIG a chyrff cenedlaethol ynghylch y fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo rhai dangosyddion a chylchrediad data/gwybodaeth.  

c) Diffyg gwybodeg academaidd gyson a chywirdeb ystadegol wrth ddatblygu methodolegau dadansoddi sy’n sail i ddangosyddion a chylchrediad data/gwybodaeth. 

d) Diffyg cyfle i Fyrddau Iechyd Lleol / Ymddiriedolaethau gyfrannu gwybodaeth a phrofiad y GIG i ddatblygu methodolegau o’r fath. 

Wrth fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a nodwyd uchod, mae GIG Cymru yn ceisio sicrhau cyd-ddealltwriaeth o’r methodolegau a ddefnyddir wrth gyfrifo dangosyddion cenedlaethol, gan sicrhau canolbwyntio ar y busnes neu faterion gweithredol yn hytrach na materion gyda’r wybodaeth ei hun.  Yn aml, gall trafodaethau o'r fath dynnu sylw oddi ar yr wybodaeth go iawn (a defnyddiol) sydd yn y data.  

Ym mis Ebrill 2013, sefydlwyd y Grŵp Methodolegau Dadansoddi yn ffurfiol.  Mae sicrwydd a chyhoeddi ei allbynnau yn rhan o Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth GIG Cymru.  Cylch gwaith y Grŵp yw datblygu ac adolygu methodolegau dadansoddi sy’n gysylltiedig â holl ddadansoddiadau cenedlaethol arferol data gofal iechyd GIG Cymru, megis y rhai a ddatblygwyd i gefnogi’r fframwaith rheoli perfformiad cenedlaethol.  Ni ragwelir y bydd gofyn i’r grŵp ddatblygu methodolegau sy’n gysylltiedig â dadansoddiadau ad-hoc ac anarferol.  

Mae Methodolegau Dadansoddi a gymeradwyir gan y grŵp hwn yn cael eu harfarnu gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) ac mae eu penderfyniadau’n cael eu trosglwyddo i’r Noddwr y Fethodoleg mewn Canlyniad ffurfiol. Yna cyhoeddir yr Hysbysiadau Dull Dadansoddi sy’n dilyn ar y wefan Safonau Data. 

Cylch Gorchwyl / Aelodaeth.

 

Sylwch mai dim ond yn Saesneg y gallwch lawrlwytho’r ddogfen hon.