Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB)

 

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru yw’r bwrdd olynol i Fwrdd Safonau Llywodraethu Gwybodaeth Cymru. O'r herwydd, hwn yw ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth. 

Mewn egwyddor, nod y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth yw adolygu prosiectau datblygu gwybodaeth ar rai camau allweddol. Mae'r adolygiadau hyn ar ffurf arfarniadau o ddogfennau cyflwyno wedi'u cwblhau gan aelodau WISB mewn cyfarfodydd misol. 

Gall WISB ddarparu'r cymorth mwyaf os yw Noddwyr a Datblygwyr yn ymgysylltu ag ef yn gynnar yn oes prosiectau datblygu. Anogir Noddwyr a Datblygwyr i fynychu cyfarfodydd WISB gan fod hyn yn gwella cyfathrebu a gallai leihau amserlenni prosiectau datblygu. Wrth i brosiect gychwyn, bydd y ffocws ar egluro'r budd busnes y mae'n ceisio ei gyflawni. Bydd bod yn glir am hyn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer nodi a datblygu'r gofyniad gwybodaeth a phrofi pa mor ymarferol y gallai fod i'w weithredu. Ar ôl profi dichonoldeb, gellir rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer gweithredu ar sail Cymru gyfan. Ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan WISB, mae'r polisi neu'r cyd-destun gweithredol ar gyfer y datblygiad fel arfer yn cael ei fynegi i'r Gwasanaeth trwy lythyr Gweinidogol neu Swyddogol. I gyd-fynd â hyn, bydd Hysbysiad Newid Safonau Data, sef y mandad gwybodaeth i holl gyrff y GIG.  

 

Y camau allweddol yw:  

Hysbysiad Gofyniad

Y ffocws ar hyn o bryd yw'r gofyniad busnes sy'n ysgogi'r cyflwyniad. 

 

Cynnig Datblygu 

Erbyn y cam hwn, dylai asesiadau effaith cychwynnol fod wedi’u cynnal, bydd y safon arfaethedig wedi'i nodi a dylid disgrifio cynlluniau profi neu asesu effaith Cymru gyfan. 

 

Cynnig Terfynol 

Erbyn y cam hwn, dylai canlyniadau'r holl brofion neu asesiadau effaith fod ar gael a dylid eu hystyried yng nghynllun gweithredu arfaethedig Cymru gyfan. 

 

Adolygiad

Unwaith y bydd y safon wybodaeth ar waith, bydd y cyflwyniad hwn yn ymdrin â gwersi a ddysgwyd, sut mae'r safon yn cwrdd â gofynion busnes parhaus ac argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.   

 

Os daw Noddwr neu Ddatblygwr yn ymwybodol o'r gofyniad i ymgysylltu â WISB dim ond pan fydd prosiect eisoes ar y gweill, nid oes angen cychwyn yn y cam Hysbysiad Gofyniad. Dylai'r cam cyflwyno a ddewisir adlewyrchu'r cam a gyrhaeddwyd yn y prosiect orau. Mae'r cyflwyniadau wedi'u cynllunio i adeiladu ar ei gilydd ac felly bydd manylion prosiect perthnasol sydd wedi'u cynnwys yn yr Hysbysiad Gofyniad yn cael eu cynnwys yn y cynigion Datblygu a Therfynol hefyd. 

 

Mae ymgysylltu'n gynnar â WISB yn helpu i leihau risg prosiect gan y gall arfarnu wneud y canlynol: 

  • helpu i egluro cwmpas prosiect, 

  • tynnu sylw at feysydd a fyddai’n elwa ar gael mwy o sylw, 

  • galluogi nodi cysylltiadau perthnasol â datblygiadau eraill, 

  • cywiro unrhyw gamddealltwriaeth mewn cynlluniau prosiect. 

 

Fodd bynnag, mae hefyd yn dderbyniol dod at WISB yn y cam Cynnig Terfynol yn unig.

Gellir ystyried cyflwyniadau drafft hefyd os yw cyflwynwyr yn teimlo y byddent yn elwa ar fewnbwn WISB cyn cyflwyno fersiynau terfynol. 

Os hoffech ddeall mwy am rôl WISB yn gyffredinol neu os hoffech siarad am brosiect penodol, cysylltwch â'r Tîm Safonau Data: Data.Standards@wales.nhs.uk