Neidio i'r prif gynnwy

Sicrwydd Safonau Gwybodaeth

 

“Anelu at gyd-ddealltwriaeth o eiriau a rhifau ym maes iechyd a gofal iechyd”.  

Mae Sicrwydd Safonau Gwybodaeth yn cyfrannu at y nod cyffredinol o gasglu, rhannu, storio, defnyddio a dadansoddi data yn gyson ac yn drefnus ar draws GIG Cymru ac yn ei berthynas â’i sefydliadau partner. Mae’n berthnasol i’r data a ddefnyddir ym mhob agwedd ar fusnes y GIG. Mae’n cyfrannu at wella ansawdd gwybodaeth wrth weithio i leihau unrhyw faich na ellir ei gyfiawnhau wrth gasglu data. 

Mae pawb sy’n gweithio yn y GIG yn ymwneud â data a gwybodaeth bob dydd. Mae hyn yn cynnwys clinigwyr rheng-flaen, clercod wardiau, rheolwyr sefydliadol, rheolwyr perfformiad, ystadegwyr a llunwyr polisïau.  

P’un ai eu rôl yw casglu, prosesu neu ddadansoddi data, neu wella gofal cleifion trwy gymhwyso data, dim ond os ydynt i gyd yn deall yr hyn y mae data yn ei olygu y gallant wneud hyn yn ddiogel ac yn gyfrifol, a rhannu ymrwymiad i wella eu cysondeb.  

Gall data coll neu ddata wedi’u camddehongli arwain at aneffeithlonrwydd syml - caiff amser ac ymdrech eu gwastraffu wrth geisio gwella ansawdd data oherwydd nad oedd y meini prawf wedi’u diffinio yn y lle cyntaf - neu mewn niwed gwirioneddol - oherwydd nodwyd y manylion clinigol anghywir yn y cofnod gofal.

Gellir creu ffiniau artiffisial yn y gwasanaeth trwy wahanol ddiffiniadau data/gwybodaeth a safonau ar gyfer darparu gofal mewn lleoliadau sylfaenol, eilaidd a chymunedol. Gall hyn weithio yn erbyn ymdrechion i greu gofal di-dor i gleifion. 

Mae ffiniau tebyg yn bodoli pan fydd iaith gofal clinigol a gweinyddol yn gwrth-ddweud ei gilydd, neu’n methu disgrifio’r un digwyddiadau cleifion. Yn aml, bydd hyn yn rhwystro ymdrechion i ddatblygu a gweithredu canlyniadau a mentrau gwella ansawdd eraill.  

Mae Sicrwydd Safonau Gwybodaeth yn bodoli i helpu pawb sy'n anelu at hybu gwelliannau mewn unrhyw agwedd ar wybodaeth gofal iechyd a TG trwy nodi: 

  • pa safonau data a gwybodaeth berthnasol sy’n bodoli eisoes 

  • sut y gellir lleihau baich casglu data amhriodol neu ddyblyg a sut y gellir gwella ansawdd data – gan alluogi adnoddau gwerthfawr i newid ffocws ar wella gwasanaethau. 

  • sut y gall pob cam wrth gasglu, cyfathrebu, storio a dadansoddi data effeithio ar ansawdd gwybodaeth ac o ganlyniad ei dehongliad cyson, a 

  • sut y bydd dewis y safonau data a gwybodaeth cywir yn gwella canlyniad y prosiect gan arwain at fuddion gwell. 

Y corff a sefydlwyd i oruchwylio’r broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth (a elwir ar y pryd yn Broses Llywodraethu Gwybodaeth) oedd Bwrdd Safonau a Llywodraethu Gwybodaeth Cymru. Sefydlwyd hwn o dan Gylchlythyr Iechyd Cymru (2006) 83 ym mis Mai 2006 *.

 

Yn sgil creu Iechyd a Gofal Digidol Cymru a newidiadau i sicrwydd materion cyfrinachedd a chydsynio, rhoddwyd cyfle i resymoli cyfrifoldebau sicrwydd gwybodaeth a TG a oedd yn bodoli eisoes. Mae hyn wedi galluogi adolygiad o rôl a Chylch Gorchwyl Bwrdd Safonau a Llywodraethu Gwybodaeth Cymru. Adlewyrchir newidiadau i’r ddau yn ei enw newydd, Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru. 

 

* Sylwch mai dim ond yn Saesneg y gallwch lawrlwytho’r dogfennau hyn.