Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiadau Dull Dadansoddi (AMNs)

 

Mae Hysbysiad Dull Dadansoddi (AMN) yn rhoi gwybod am ddull dadansoddi newydd neu ddull dadansoddi sydd wedi newid i’r GIG ac i sefydliadau partner a chyflenwyr systemau. Mae’r rhain yn dogfennu’n ffurfiol y dulliau o gwblhau dadansoddiadau cenedlaethol o ddata gofal iechyd GIG Cymru a chyfrifo dangosyddion a mesurau perfformiad cenedlaethol. Eu nod yw gwella cysondeb cymhwyso dulliau o’r fath i ddata gofal iechyd GIG Cymru ar draws sefydliadau GIG Cymru a chyrff cenedlaethol eraill.

 

Datblygir a/neu cytunir ar Ddulliau Dadansoddi gan y Grŵp Methodolegau Dadansoddi ac fe’u hachredir gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Mae rhagor o fanylion am y Grŵp Methodolegau Dadansoddi, gan gynnwys y Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth, ar gael drwy dudalen y Grŵp Methodolegau Dadansoddi. Cyflwynir AMNs i’r gwasanaeth unwaith y caiff Dull Dadansoddi newydd neu Ddull Dadansoddi sydd wedi newid ei adolygu gan y Grŵp Methodolegau Dadansoddi a’i achredu gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru.

 

Noder, mae’r Hysbysiadau Newid canlynol yn fanylebau technegol, ac maent yn orfodol i’r GIG ac i sefydliadau partner a chyflenwyr systemau yn Saesneg. Os dymunwch weld Hysbysiad Newid a gyhoeddwyd, cewch eich ailgyfeirio i fersiwn Saesneg ein gwefan.

I weld AMNs sydd wedi’u cyhoeddi, dewiswch y flwyddyn berthnasol:

AMNs 2014

AMNs 2015

AMNs 2016

AMNs 2018

AMNs 2019

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud ag unrhyw AMN, cysylltwch â’r tîm Safonau Data:

E-bost: data.standards@wales.nhs.uk