Neidio i'r prif gynnwy

Dogfennaeth Nyrsio GIG Cymru

 

Mae rhaglen genedlaethol yn mynd rhagddi i drawsnewid dogfennaeth y mae gofyn i nyrsys ei chwblhau. Mae arweinwyr Gwybodeg Nyrsio yn GIG Cymru yn cydlynu safoni dogfennau nyrsio tra bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr clinigol i greu dogfennau nyrsio digidol sy’n dilyn claf trwy ei daith gofal iechyd. Mae’r un iaith nyrsio safonol yn cael ei defnyddio i leihau dyblygu, i wella profiad cleifion a chanlyniadau gofal.

Mae cynrychiolwyr clinigol o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru yn arwain y gwaith o safoni a digideiddio dogfennau nyrsio i sicrhau eu bod yn addas i’r diben; yn canolbwyntio ar y claf ac yn cyd-fynd â’r broses nyrsio.

Bellach mae’r dogfennau canlynol wedi’u datblygu a’u safoni a’u cymeradwyo’n swyddogol trwy’r broses lywodraethu ar gyfer eu defnyddio ar draws GIG Cymru. 

 

Sylwch, mae'r dogfennau canlynol yn fanylebau technegol, ac maent yn orfodol i'r GIG a sefydliadau partner a chyflenwyr system yn Saesneg. Os ydych am weld dogfen gyhoeddedig, cewch eich ailgyfeirio i fersiwn Saesneg ein gwefan. 

Cliciwch yma i weld y Ddogfennaeth Nyrsio GIG Cymru a gyhoeddwyd.

 

Os oes unrhyw un yn bwriadu datblygu dogfen / safon newydd yn genedlaethol, cyfeiriwch at y Weithdrefn Gweithredu Safonol (SOP) – Safoni Data Gwybodaeth Genedlaethol.