Neidio i'r prif gynnwy

ICD-10

 

Sefydliad Iechyd y Byd sy'n creu ac yn cynnal Dosbarthiad Ystadegol Rhyngwladol o Glefydau a Phroblemau Iechyd Cysylltiedig,10fed Argraffiad (ICD-10). Fe'i mandadwyd i'w ddefnyddio yn y UK gyntaf yn 1995. Pwrpas ICD-10 yw caniatáu cofnodi, dadansoddi, dehongli a chymharu data am farwolaethau ac afiachedd a gesglir mewn gwahanol wledydd neu ardaloedd ac ar wahanol adegau mewn ffordd systematig. Defnyddir ICD-10 i droi diagnosisau o glefydau a phroblemau iechyd eraill o eiriau (fel y disgrifir gan glinigydd) yn god alffaniwmerig sy'n caniatáu storio, cyrchu a dadansoddi'r data yn hawdd. Ers 1995 mae wedi cael ei diweddaru (gweler isod) er mwyn cadw i fyny â'r wybodaeth feddygol sy'n esblygu'n barhaus y mae'n ei chofnodi.

 

Diweddariadau ICD-10:

  • 2016: ICD-10 5 ed Argraffiad - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o 1 Ebrill 2016 ymlaen.

  • 2012: ICD-10 4ydd Argraffiad - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o 1 Gorffennaf 2012 ymlaen.

  • 2004: Ailargraffwyd ICD-10 gyda diweddariadau a chywiriadau - Fe'i gweithredu yng Nghymru o 1 Ebrill 2004 ymlaen.

  • 1995: ICD-10 - Fe'i gweithredwyd yng Nghymru o 1 Awst 1994 ymlaen.

 

ICD-10 yw’r canlynol:

  • Dosbarthiad ystadegol a ddyluniwyd ar gyfer cymariaethau rhyngwladol o farwolaethau ac afiachedd.
  • Dosbarthiad sy'n seiliedig ar gategorïau grwpio a ddewisir i hwyluso'r astudiaeth ystadegol o ffenomenau afiechydon.
  • Offeryn ystadegol a ddefnyddir i astudio epidemioleg poblogaethau.
  • Offeryn sy'n gofyn am wybodaeth a dealltwriaeth o'i bwrpas a'i strwythur gan ystadegwyr a dadansoddwyr gwybodaeth iechyd, yn ogystal â chan godwyr
  • Mae’n seiliedig ar reolau sy'n cynnwys diffiniad y diagnosis sylfaenol fel:

i. “Bydd maes (meysydd) diagnosis cyntaf y cofnod clinigol wedi'i godio (y diagnosis sylfaenol) yn cynnwys y prif gyflwr a gafodd ei drin neu yr ymchwiliwyd iddo yn ystod y cyfnod perthnasol o ofal iechyd.”

ii. “Lle nad oes clinigwr cyfrifol wedi gwneud diagnosis terfynol, dylid cofnodi’r prif symptom, canfyddiadau annormal neu’r broblem ym maes diagnosis cyntaf y cofnod clinigol wedi’i godio.”

 

Nid yw ICD-10:

  • Yn offeryn i gefnogi gofal uniongyrchol i gleifion sy'n galluogi clinigwyr i gofnodi'n gynhwysfawr holl broblemau iechyd cleifion perthnasol mewn fformat wedi'i amgodio.
  • Ni fwriedir iddo fynegeio endidau clinigol penodol gan nad yw'n ddull enwi sydd wedi'i gynllunio i ddisgrifio'r holl gyflyrau morbid posibl gan fod yn rhaid i'r rhain feddu ar enw gwahanol ar gyfer pob cyflwr morbid.
  • Nid yw wedi'i gynllunio i ddisgrifio statws iechyd claf unigol, gan nad yw, er enghraifft:

o Yn gallu priodoli lefelau sicrwydd i ddiagnosis;

o Yn gallu priodoli lefelau difrifoldeb i ddiagnosis;

o Yn gallu priodoli barn negyddol, h.y. diagnosisau perthnasol o bosibl sydd wedi'u heithrio gan glinigwyr.

 

 

Mae Sally Greenway, cyn Bennaeth Safonau Gwybodaeth (Llywodraeth Cymru) wedi datblygu papur briffio ‘ICD-10 Essentials’, gan ddisgrifio ymhellach ddefnyddiau a chyfyngiadau dosbarthiad ICD-10. Gellir ei weld trwy'r ddolen ganlynol: ICD-10 Essentials.