Mae IGDC yn gyfrifol am ariannu a threfnu rhaglen genedlaethol o hyfforddiant codio clinigol ar ran holl Fyrddau Iechyd Lleol Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mae'r hyfforddiant hwn yn cwrdd â gofynion y cwricwlwm craidd ar gyfer codyddion clinigol a nodwyd gan NHS England. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Pecynnau e-Ddysgu sylfaenol a ddarperir gan NHS England trwy wefan Technology Reference data Update Distribution (TRUD), sy'n darparu sylfaen o anatomeg a ffisioleg, theori a chefndir codio, safonau gwybodaeth, a defnyddio data wedi'u codio.
Deunyddiau e-Ddysgu arbenigol wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth ddyfnach i staff codio clinigol o gymhwyso codau dosbarthu i gyflyrau neu driniaethau penodol.
Cwrs Sylfaen Codio 21 diwrnod a ddarperir gan gwmni hyfforddi cymeradwy sy'n defnyddio deunyddiau NHS England.
Yr opsiwn o fynd i Gwrs Adolygu ar gyfer Arholiad, sy'n bedwar diwrnod o hyd, cyn rhoi cynnig ar y Cymhwyster Codio Clinigol Cenedlaethol (NCCQ), er mwyn ymdrin â thechneg arholiadau, newidiadau diweddar i safonau, ac i gynllunio amserlen adolygu 30 wythnos.
Cyrsiau Gloywi Codio Clinigol bob tair blynedd, a ddyluniwyd i gwmpasu newidiadau diweddar i safonau codio.
Gweithdai Arbenigedd Codio Clinigol i gwmpasu arbenigeddau meddygol unigol yn fwy manwl, gan gynnwys anatomeg a ffisioleg, triniaethau cyfredol, a chymhwyso safonau codio perthnasol; gan gynnwys rhaglen newydd o fodiwlau e-Ddysgu.
I'r rhai sy'n dymuno arbenigo ymhellach, mae NHS England yn cynnig cyrsiau mewn Archwilio a Hyfforddi codwyr eraill, ar gyfer codwyr sydd ag o leiaf tair blynedd o brofiad ymarferol a'r Cymhwyster Codio Clinigol Cenedlaethol (NCCQ).
Mae cyfleoedd pellach ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ar gael trwy sefydliadau fel IHRIM, PACC-UK neu UKCHIP.
Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen hyfforddi genedlaethol yn cael ei darparu gan gontractwr allanol, sef D&A Consultancy Ltd. Mae D&A Consultancy Ltd yn cynnig ystod eang o gyrsiau a gweithdai hyfforddi, gan ddefnyddio deunyddiau a gymeradwywyd gan Wasanaeth Dosbarthu Clinigol NHS England yn ogystal â’u cyrsiau arbenigol eu hunain sy'n cydymffurfio â safonau cenedlaethol ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer yr holl godwyr clinigol.