Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Hyfforddi Codio Clinigol

 

Mae IGDC yn gyfrifol am ariannu a threfnu rhaglen genedlaethol o hyfforddiant codio clinigol ar ran holl Fyrddau Iechyd Lleol Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mae'r hyfforddiant hwn yn cwrdd â gofynion y cwricwlwm craidd ar gyfer codyddion clinigol a nodwyd gan NHS England. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

 

  • Pecynnau e-Ddysgu sylfaenol a ddarperir gan NHS England trwy wefan Technology Reference data Update Distribution (TRUD), sy'n darparu sylfaen o anatomeg a ffisioleg, theori a chefndir codio, safonau gwybodaeth, a defnyddio data wedi'u codio.

  • Deunyddiau e-Ddysgu arbenigol wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth ddyfnach i staff codio clinigol o gymhwyso codau dosbarthu i gyflyrau neu driniaethau penodol.

  • Cwrs Sylfaen Codio 21 diwrnod a ddarperir gan gwmni hyfforddi cymeradwy sy'n defnyddio deunyddiau NHS England.

  • Yr opsiwn o fynd i Gwrs Adolygu ar gyfer Arholiad, sy'n bedwar diwrnod o hyd, cyn rhoi cynnig ar y Cymhwyster Codio Clinigol Cenedlaethol (NCCQ), er mwyn ymdrin â thechneg arholiadau, newidiadau diweddar i safonau, ac i gynllunio amserlen adolygu 30 wythnos.

  • Cyrsiau Gloywi Codio Clinigol bob tair blynedd, a ddyluniwyd i gwmpasu newidiadau diweddar i safonau codio.

  • Gweithdai Arbenigedd Codio Clinigol i gwmpasu arbenigeddau meddygol unigol yn fwy manwl, gan gynnwys anatomeg a ffisioleg, triniaethau cyfredol, a chymhwyso safonau codio perthnasol; gan gynnwys rhaglen newydd o fodiwlau e-Ddysgu.

  • I'r rhai sy'n dymuno arbenigo ymhellach, mae NHS England yn cynnig cyrsiau mewn Archwilio a Hyfforddi codwyr eraill, ar gyfer codwyr sydd ag o leiaf tair blynedd o brofiad ymarferol a'r Cymhwyster Codio Clinigol Cenedlaethol (NCCQ).

  • Mae cyfleoedd pellach ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ar gael trwy sefydliadau fel IHRIM, PACC-UK neu UKCHIP.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen archwilio, cyfeiriwch nhw a Rachael Bruce neu Leanne Cook Arweinwyr y Rhaglen Hyfforddi Codio Clinigol Genedlaethol, trwy'r ddesg gymorth codio clinigol: clinical.coding@wales.nhs.uk.