Neidio i'r prif gynnwy

Ynghylch Ansawdd Data

 

Gwybodaeth Iechyd

Mae ansawdd y data a gesglir yn yr amgylchedd gofal iechyd yn un o'r ffactorau pwysicaf wrth sicrhau bod y gofal a gynigir i gleifion o'r safon uchaf bosibl.

P'un a yw'n wybodaeth glinigol y mae ymgynghorydd neu feddyg teulu yn ei hysgrifennu ar gofnodion achos neu'n ddata gweinyddol a gofnodir ar system gyfrifiadurol ysbyty gan glerc ward, mae'n hanfodol bod y wybodaeth wedi'i dogfennu mor gywir â phosibl. Gall methu â chasglu, adrodd a chyfathrebu'r wybodaeth gywir, o bosibl, gael effaith sylweddol ar ofal cleifion. At hynny, gellir defnyddio data cywir a phrydlon ar y gweithgarwch a wneir yn y GIG yn rhagweithiol i lywio a datblygu'r gwasanaethau y mae’n eu cynnig, yn unol ag anghenion gofal iechyd y genedl.

Mae sefydliadau GIG Cymru yn cyflwyno ystod eang o ddata i nifer o gronfeydd data cenedlaethol. Defnyddir y data a gynhwysir ym mhob un at amrywiaeth o ddibenion. Yn bwysicaf oll, ar lefel genedlaethol fe'u defnyddir i gefnogi rheoli a chynllunio gwasanaethau gofal iechyd a chleifion. Fe'u defnyddir hefyd wrth werthuso tueddiadau perfformiad y GIG ac, mewn rhai achosion, mae'n ffynhonnell hanfodol o ddata epidemiolegol.

 

Jig-so Ansawdd Data

 

Gellir ystyried bod chwe dimensiwn i ansawdd data a gellir dychmygu‘r dimensiynau hyn o ddata yn ddarnau unigol o ansawdd data ‘jig-so’. Dim ond trwy osod pob un o'r chwe darn gyda'i gilydd a chwblhau'r jig-so y gellir cael darlun cyflawn o ansawdd data sefydliad.

 

 

Mae prydlondeb, cyflawnrwydd, dilysrwydd, cysondeb, manylder a chywirdeb data'r Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yn effeithio'n uniongyrchol ar ddibynadwyedd yr wybodaeth a ddefnyddir i gefnogi'r prosesau hyn. Mae data o ansawdd gwael yn cael effaith sylweddol ar sut mae'r gwasanaeth yn cael ei reoli ac mae’n effeithio ar ansawdd y gofal sy'n cael ei gynnig i gleifion a'u teuluoedd. Yn achos rhai setiau data cenedlaethol, mae ansawdd y data hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar berfformiad y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yr adroddir yn erbyn y targedau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Rhagor o wybodaeth am yr ystyr tu ôl i bob ‘dimensiwn’ o’r jig-so ansawdd data.

Sylwch mai dim ond yn Saesneg y gallwch lawrlwytho’r dogfennau.