Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Waith

Bydd y rhaglen waith yn cael ei ffurfio gan brosiectau sydd â’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol, o fewn cwmpas diffiniedig.

 

Nod y fenter yw:

1

Nodi datblygiadau ar lefel leol a chenedlaethol a gaiff eu cynnwys yn y fenter;

2

Blaenoriaethu a datblygu adroddiadau ansawdd ar wybodaeth wedi’u targedu (e.e. dangosyddion ansawdd yr wybodaeth ar y dangosfwrdd);

3

Datblygu mesurau ansawdd data a gwybodaeth, gan gynnwys cysylltiadau â Fframwaith Canlyniadau ac Ansawdd y Safonau Gofal Iechyd;

4

Nodi a gweithredu offer i fesur gwelliannau mewn prosesau a lefelau ansawdd gwybodaeth ar draws sefydliadau gofal iechyd, a fydd yn cynnwys adolygiad o’r defnydd posibl o IQI ar gyfer elfennau o Becyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth NHS England;

5

Monitro’r gwaith o gynnal polisïau ansawdd data sefydliadol i sicrhau bod y rhain yn gyfredol, gyda’r nod o rannu a gweithredu arferion gorau ledled Cymru;

6

Adolygu sicrwydd cyflwyniadau o safonau data presennol cyn eu cyflwyno i WISB;

7

Hwyluso darpariaeth cyngor a chymorth i ganiatáu i bob sefydliad ddatblygu a chyhoeddi ei raglen gwella ansawdd gwybodaeth ei hun;

8

Blaenoriaethu materion ansawdd data i sicrhau bod y materion pwysicaf yn cael eu hystyried yn gyntaf;

9

Gwella cydymffurfiaeth â safonau cyfredol ac unrhyw safonau newydd dilynol, gan gynnwys safonau data gweithredol a chenedlaethol trwy gydweithio â’r Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth a chefnogi Cyflwyniadau Adolygu WISB yn benodol;

10

Gyrru datblygiad Gweithdrefnau Gweithredu Safonol i ddisgrifio’r broses sy’n gysylltiedig â gweithredu safonau newydd;

11

Cyfrannu at ddatblygiad fframweithiau monitro perfformiad cenedlaethol a chynlluniau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg/Cynllun Tymor Canolig Integredig lleol a chenedlaethol;

12

Sicrhau bod cynnydd pob sefydliad o ran ei raglen wella ei hun yn cael ei ddogfennu trwy ddefnyddio mesurau cymharol, a’i gyhoeddi;

13

Hyrwyddo cydweithio a rhannu enghreifftiau o arferion da rhwng sefydliadau; a

14

Datblygu cynllun tymor hwy ar gyfer nodi a mynd i’r afael â materion ansawdd gwybodaeth strategol.

Cwmpas

Mae cwmpas y fenter yn cynnwys: 

  • Data wedi’u codio mewn systemau gweithredol cenedlaethol neu systemau lleol ar draws y sefydliad mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd
  • Data wedi’u codio mewn casgliadau cenedlaethol/setiau data
  • Gwybodaeth sy’n deillio o’r ddwy ffynhonnell
  • Nid yw gofynion ar gyfer gwybodaeth yn y dyfodol yn cael eu casglu ar hyn o bryd mewn perthynas â’r pwyntiau bwled uchod

 

Er nad yw’r Gweithgorau yn uniongyrchol gyfrifol am gefnogi gofynion ansawdd data lleol, lle mae gwelliannau i brosesau lleol yn debygol o arwain at welliannau i ddata cenedlaethol, mae’r rhain o fewn y cwmpas hefyd.