Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraethu

Er mwyn sicrhau bod rhaglenni gwaith yn cael eu datblygu, eu hadolygu, eu monitro a’u gweithredu yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol, mae’r fenter yn adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru, fel y dangosir yn Ffigur 1. Mae’r Grŵp hefyd yn adrodd i nifer o fyrddau a grwpiau eraill yn ôl yr angen, ac mae’n derbyn cyngor ganddynt hefyd.

Ffigur 1: Strwythur adrodd y fenter IQI

 

 

Gweithgor IQI

Rôl y grŵp hwn yw arwain ar ddatblygu a gweithredu rhaglenni gwaith sy’n gysylltiedig â’r fenter IQI a sicrhau bod amcanion y fenter yn cael eu bodloni.

Bydd hefyd yn gweithredu fel y grŵp lle caiff materion yn ymwneud ag ansawdd gwybodaeth genedlaethol a lleol eu trafod gyntaf a’u blaenoriaethu o ran eu statws yn y fenter IQI.

Bydd yn derbyn, yn adolygu ac yn pennu cynigion rhaglenni gwaith. Bydd y grŵp hefyd yn adolygu adroddiadau ad hoc a bydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl gyflwyniadau adolygu a gynhyrchir o ansawdd data, a bydd hyn yn lleihau llwyth gwaith WISB.

 

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB)

Mae Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) yn gyfrifol am ddatblygu safonau gwybodaeth cenedlaethol newydd neu ddiwygiedig a’u gweithredu ar draws GIG Cymru er mwyn gwella pa mor addas ydynt at y diben, effeithlonrwydd y data a gesglir a chydlyniaeth gwybodaeth. Mae’n cyfarfod bob mis. Mewn perthynas â’r fenter IQI, mae adroddiadau a chyflwyniadau adolygu a gynhyrchir trwy IQI yn cael eu rhoi i WISB, er mwyn mynd trwy broses sicrwydd y safonau gwybodaeth. 

Mae rhagor o wybodaeth am WISB ar gael.

 

 

Bwrdd Rheoli Gwybodeg Cenedlaethol

Mae’r Bwrdd Rheoli Gwybodeg Cenedlaethol (NIMB) yn gyfrifol am oruchwylio arweinyddiaeth a darpariaeth gwasanaethau technoleg a gwybodaeth yn GIG Cymru, gan gynnwys gweithredu polisïau a datblygu strategaethau.  Mae’r Bwrdd yn rhoi sicrwydd ar gyfer rheoli a darparu gwasanaethau a phrosiectau ledled Cymru. Mae’n cyfarfod bob dau fis.  Mewn perthynas â’r fenter IQI, bydd yn gosod yr agenda lefel uchel ar gyfer datblygu a defnyddio gwybodaeth, a bydd yn adolygu perfformiad y fenter yn erbyn ei hamcanion.

 

 

Perthnasoedd Allweddol

Mae gosod blaenoriaethau ansawdd gwybodaeth genedlaethol a lleol yn amodol ar ystod o ffactorau mewnol ac allanol. Mae’n bosibl y bydd angen i’r Grŵp ofyn am weithredu gan grwpiau/cyrff cenedlaethol eraill neu roi cyngor/arweiniad iddynt, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB)
  • Cyfarwyddwyr Cyswllt Gwybodeg (ADIs) a Phenaethiaid Gwybodaeth GIG Cymru (HoI)
  • Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cymru (WIGB)
  • Rheolaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru/Bwrdd Cynghori ar Newid Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
  • Strategaeth Gwybodaeth Ariannol (FIS) a Grŵp Costio a Meincnodi Gwybodaeth Ariannol (FICaB)
  • Grŵp Cyflawni a Pherfformio, Llywodraeth Cymru

 

 

E-Lawlyfr Llywodraethu

Mae'r llawlyfr yn darparu cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar lywodraethu yn y GIG yng Nghymru. Mae'r fframwaith ar gyfer y llawlyfr yn seiliedig ar Egwyddorion Llywodraethu sy'n Canolbwyntio ar y Dinasyddion Llywodraeth Cymru, sy'n berthnasol i bob corff cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r egwyddorion hyn yn integreiddio pob agwedd ar lywodraethu ac yn ymgorffori'r gwerthoedd a'r safonau ymddygiad a ddisgwylir ar bob lefel o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y llawlyfr yn cefnogi sefydliadau'r GIG i ddiffinio, gweithredu a chynnal eu trefniadau llywodraethu. Mae'n darparu cyfeiriad, arweiniad a chefnogaeth i aelodau'r Bwrdd a staff y GIG i'w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau eu hunain a sicrhau bod eu sefydliadau'n cwrdd â'r safonau llywodraethu da a osodir ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae'r wefan o dan reolaeth Bwrdd Golygyddol ac mae'n destun adolygiad parhaus. Ychwanegir gwybodaeth newydd wrth iddi ddod i'r amlwg. Mae croeso mawr i adborth trwy'r ddolen ar frig y dudalen hon.

I'r rhai sy'n gweithio ochr yn ochr â chyrff y GIG, neu sydd â diddordeb yng ngwaith y GIG yn unig, mae'n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i'r ffordd y mae'r GIG yn cael ei drefnu a'i lywodraethu ledled Cymru.

 

Am ragor o wybodaeth gweler gwefan e-Lawlyfr Llywodraethu (dolen i'r wefan allanol)