Neidio i'r prif gynnwy

 

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi mynediad cyhoeddus i wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus.

Mae'n gwneud hyn mewn dwy ffordd:

Mae gan aelodau o'r cyhoedd hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth gofnodedig a gedwir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Efallai na fydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gallu darparu'r wybodaeth y gwnaethoch gais amdani os nad yw'n cael ei chadw gennym ni, os yw wedi'i chynnwys gan un neu fwy o eithriadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu os byddai'n costio gormod neu'n cymryd gormod o amser staff i ddelio â'r cais.

 

Cysylltu a ni

Os hoffech wneud cais am wybodaeth, gwnewch hynny naill ai:

Drwy e-bost: Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Neu drwy ysgrifennu at:

Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Tŷ Glan-yr-Afon,
21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
Caerdydd
CF11 9AD

 

 

Cynllun Cyhoeddi

Gweld ein cynllun cyhoeddi, canllaw sy'n amlinellu'r dosbarthiadau o wybodaeth rydym yn eu cyhoeddi fel mater o drefn a sut y gall y cyhoedd eu cyrchu.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd.

 

Cofnod Datgeliadau

Yn dod yn fuan.

 

Ymholiadau Cyffredinol

Dylid anfon ceisiadau rhyddid gwybodaeth at yr e-bost uchod, fodd bynnag, dylid anfon ymholiadau cyffredinol at igdc-ymholiadau@wales.nhs.uk.

Dilynwch ni: