Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Baich Anghymesur

Cyflwyniad a Chefndir

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae ein gwefan yn un ffordd yr ydym yn cyfleu gwybodaeth am ein gwasanaethau i randdeiliaid, gan gynnwys cleifion, y cyhoedd, a byrddau iechyd GIG Cymru. 

Mae IGDC wedi ymrwymo i wneud ein gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae hyn yn cynnwys gwneud ein gwefannau ac apiau symudol yn hygyrch a chyhoeddi datganiad hygyrchedd.

Rhaid i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â fersiwn 2.2 o ofynion AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) ar lefelau A ac AA. 

Mae’r rheoliadau hyn yn nodi, pan nad yw’n ymarferol i gorff sector cyhoeddus fodloni un o’r gofynion hygyrchedd hyn, er enghraifft oherwydd ei fod yn anodd neu’n rhy ddrud ei ddatrys, bod yn rhaid iddo ddarparu asesiad baich anghymesur. 

Rydym wedi paratoi’r asesiad baich anghymesur hwn i ddisgrifio pam na allwn gynnig fersiynau cwbl hygyrch o ran o gynnwys y wefan, yn benodol dogfennau PDF. 


Diffyg cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd: PDFs anhygyrch

Mae gwefan IGDC yn cynnwys nifer fawr o PDFs nad ydynt yn bodloni canllawiau hygyrchedd WCAG 2.2. Ym mis Ebrill 2025, roedd cyfanswm o 1,093, sydd wedi’u creu gan awduron amrywiol dros nifer o flynyddoedd. Mae’r rhain yn dechnegol neu’n gorfforaethol yn bennaf, ac maent yn ymwneud yn bennaf ag: 

  • Adroddiadau corfforaethol, gan gynnwys papurau’r bwrdd a phwyllgorau 
  • Llywodraethu Gwybodaeth, gan gynnwys deunyddiau technegol ar gyfer rhanddeiliaid clinigol 

Mae rhai o’r problemau yn y PDFs a nodwyd yn cynnwys: 

  • Diffyg testun alt ar ddelweddau a diagramau 
  • Cyferbyniad lliw gwael 
  • Strwythur tagio anghywir ar gyfer elfennau fel penawdau, tablau a rhestrau 

 

Asesiad o gostau a buddion 

Rydym ni’n credu bod cyfanswm yr amser a’r gost o drwsio’r holl ddogfennau PDF hyn i fodloni safonau hygyrchedd yn faich anghymesur. 

Rydym yn amcangyfrif y byddai’n cymryd hyd at 3 awr i drwsio pob dogfen i’r gofynion hygyrchedd a argymhellir yn WCAG 2.2. Mae hyn oherwydd bod nifer sylweddol o’r dogfennau yn arbennig o hir a chymhleth, fel papurau bwrdd. Yn 2024, hyd cyfartalog ein papurau bwrdd oedd 224 tudalen y ddogfen. 

I drwsio pob un o’r 1,093 PDF, gallai gymryd hyd at 437 diwrnod gwaith (yn seiliedig ar ddiwrnod gwaith arferol IGDC o 7.5 awr). Byddai hyn yn cymryd adnoddau’r tîm Cyfathrebu oddi wrth waith arall â blaenoriaeth uchel, gan gynnwys datblygu tudalennau HTML newydd yn barhaus. 

 

Impact on users

Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd darllen a deall dogfennau PDF anhygyrch. Rydym yn cynnig cymorth amgen i ddefnyddwyr sydd ag anghenion mynediad ychwanegol. I wneud cais am PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, braille neu recordiad sain, e-bostiwch dhcw-enquiries@wales.nhs.uk. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.

Rydym yn darparu’r holl gynnwys sy’n hanfodol i ddarparu gwasanaeth mewn fformat HTML, gan gynnwys gwybodaeth am ein gwasanaethau, ein rhaglenni a’n cynnyrch. Mae tudalennau sy’n cynnal PDFs yn cael lefel llawer is o draffig, sy’n golygu bod nifer y bobl a fyddai’n elwa o’r datrysiadau hygyrchedd yn llai.  

Er enghraifft, mae nifer y defnyddwyr unigryw ar dudalennau sy’n cynnwys PDFs papurau’r Bwrdd yn cyfrif am 0.46% o holl ddefnyddwyr y wefan: 

  • Cyfanswm y wefan: 161,928 o ddefnyddwyr unigryw 
  • Tudalennau Cyfarfodydd y Bwrdd: 757 o ddefnyddwyr unigryw 

(Yn seiliedig ar 12 mis o ddata Google Analytics a gasglwyd o 1 Mawrth 2024 – 28 Chwefror 2025). 

 

Beth rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â’r materion hygyrchedd hyn 

Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd. Rydym eisiau i bob defnyddiwr allu llywio a deall ein cynnwys.  

Mae’r tîm Cyfathrebu yn gyfrifol am gyhoeddi’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sefydliadol a gwybodaeth a arweinir gan wasanaeth ar y wefan. Rydym wedi creu map ffordd gyda thair ffrwd waith sy’n canolbwyntio ar wella profiad defnyddwyr a lleihau ymhellach nifer y PDFs anhygyrch ar y wefan. Y ffrydiau gwaith hyn yw:  

  1. Adolygu hen PDFs i wneud gwelliannau (archwiliad) 
  2. Sicrhau bod unrhyw PDFs newydd a gyhoeddir gennym yn cael eu hystyried yn hanfodol ac yn cael eu fformatio mewn ffordd hygyrch wrth i ni chwilio am ddatrysiad gwell (gwella prosesau presennol) 
  3. Dull HTML yn gyntaf o ran cynnwys fel mater o drefn (newid diwylliant parhaus) 

 

Ffrwd waith 1: Archwilio 

Ym mis Mawrth 2025, fe wnaethom ddechrau archwiliad o’r wefan gyfan i fynd i’r afael â’r holl gynnwys PDF anhygyrch hanesyddol. Ein nod yw gwerthuso pob dogfen a phennu ei gwerth yn seiliedig ar faint o bobl sy’n ymweld â hi, ei phwysigrwydd i barhad busnes, a’i heffaith ar ddefnyddwyr terfynol. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon, ynghyd â chynnwys y PDF, i benderfynu a ddylem: 

  • ddatrys problemau hygyrchedd yn y ddogfen 
  • ei throsi i dudalen HTML 
  • ei dileu (dim ond os nad yw’r wybodaeth yn gywir neu’n berthnasol bellach) 
  • ei gadael heb ei newid (dim ond os yw’r ddogfen yn rhy fawr neu’n rhy gymhleth i’w thrwsio) 

Ein nod yw cwblhau’r archwiliad hwn erbyn mis Mawrth 2026. Byddwn yn darparu diweddariad yma ym mis Mawrth 2026. 

Mae gennym ffrwd waith ar wahân ar gyfer dogfennau bwrdd (a nodir isod) oherwydd eu maint a sut y cânt eu creu.  

 

Ffrwd waith 2: Cyhoeddi dogfennau hygyrch 

Fel rheol, nid yw’r tîm Cyfathrebu bellach yn ychwanegu PDFs at y wefan pan ofynnir am hyn. Yn lle hynny, rydym naill ai’n trosi’r deunydd ffynhonnell i dudalennau HTML neu’n awgrymu lle arall i gyhoeddi’r PDF. 

Fodd bynnag, mae adegau prin pan fydd fformat PDF yn cael ei ystyried yn hanfodol at ddibenion busnes neu adrodd, fel ein papurau bwrdd. 

 
Papurau’r Bwrdd 

Ar hyn o bryd mae tîm Llywodraethu Corfforaethol IGDC yn defnyddio meddalwedd o’r enw AdminControl i greu a rheoli papurau’r bwrdd a gyhoeddir ar y wefan. Nid yw’r feddalwedd hon yn bodloni nifer o feini prawf cydymffurfio WCAG 2.2, er enghraifft, mae gan y dogfennau y mae’n eu cynhyrchu: 

  • drefn darllen anghywir 
  • dim opsiwn i osod y teitl meta  
  • dim opsiwn i osod iaith dogfen 

Rydym yn ymwybodol o hyn ac yn gweithio gyda AdminControl i wneud y gwelliannau sydd eu hangen. Fel ag yr oedd ym mis Mawrth 2025, mae AdminControl wedi trefnu y bydd gwaith gwella hygyrchedd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2025. Byddwn yn parhau i weithio gyda thîm datblygu’r cynnyrch i dracio cynnydd. 
I ategu hyn, rydym yn gwella hygyrchedd y templedi rydym yn eu cyflwyno i AdminControl, gan gynnwys lleihau nifer y tablau diangen a gosod y cyferbyniad lliw cywir. Rydym hefyd yn darparu arweiniad pellach i staff am offer gwirio hygyrchedd a’u cyfrifoldebau fel cyhoeddwyr dogfennau. 

 

Ffrwd waith 3: Diwylliant cynnwys HTML yn gyntaf 

Yn 2022, datblygwyd papur yn argymell bod IGDC yn symud i ddull cyhoeddi HTML yn gyntaf. Roedd y papur yn amlinellu’r camau ymarferol sydd eu hangen i leihau dibyniaeth y sefydliad ar PDFs. Roedd yn mynd i’r afael â: 

  • gwella ymwybyddiaeth y sefydliad cyfan o fformatau cynnwys hygyrch, gan gynnwys canllawiau a phecynnau cymorth 
  • cymorth i greu cynnwys hygyrch, gan gynnwys ysgrifennu pâr gydag arbenigwyr pwnc 
  • lleihau risg drwy adolygu nifer y bobl sy’n cyhoeddi cynnwys gwefan 
  • hyfforddiant wedi’i ddiweddaru i’r rhai sy’n cadw hawliau cyhoeddi 

Mae gwaith yn parhau yn y meysydd hyn. Ers dechrau, mae nifer y dogfennau PDF newydd sy’n cael eu hychwanegu at y wefan wedi lleihau’n sylweddol, ac mae llawer o brif gyhoeddiadau IGDC wedi’u cyhoeddi yn HTML am y tro cyntaf, gan gynnwys yr Adroddiad Blynyddol (2023 ymlaen) a’r Strategaeth Sefydliadol (2024). 

 
Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch 

Rydym yn cynnig cymorth amgen i ddefnyddwyr sydd ag anghenion mynediad ychwanegol. I wneud cais am PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, braille neu recordiad sain, e-bostiwch dhcw-enquiries@wales.nhs.uk. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.

 

Paratowyd yr asesiad hwn ym mis Mawrth 2025. Bydd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cynnydd pellach ym mis Mawrth 2026. 

Share: