Mae IDGC wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IDGC). Rydym gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
1. Wrth lywio’r dudalen gyda bysellfwrdd, nid yw’n bosibl tabio i, a rhyngweithio â’r dolenni ar rai tudalennau oherwydd bod y cynnwys penodol hwn yn ‘llwytho’n ddiog’ ar ôl i’r tab eisoes fod wedi mynd heibio’r adran honno. Dim ond drwy dabio yn ôl y gallwch chi ei gyrchu. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 WCAG 2.4.7 Ffocws yn Weladwy
Rydym yn gobeithio datrys y problemau hyn erbyn diwedd Hydref 2025
Rydyn ni wedi paratoi asesiad baich anghymesur i esbonio pam mae gennym ni ffeiliau PDF wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan nad ydyn nhw’n gwbl hygyrch, a sut rydyn ni’n bwriadu gwneud gwelliannau.
Mae'r PDFs hyn yn dechnegol neu'n gorfforaethol yn bennaf, gan gynnwys:
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau bydd gennym PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau'r Bwrdd Iechyd a dogfennaeth weithdrefn neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Rydym yn cyhoeddi dogfennau PDF yn achlysurol sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau, llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth – mae’r rhain y tu allan i’r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu datrys.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.
Paratowyd y datganiad hwn gyntaf ym mis Ionawr 2019.
Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ym mis Ebrill 2025. Bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Hydref 2025.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Ebrill 2025. Profwyd sampl o dudalennau gan dîm mewnol gan ddefnyddio dull cymysg a oedd yn cynnwys:
Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, yn y lle cyntaf, cysylltwch â igdc-ymholiadau@wales.nhs.uk a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: igdc-ymholiadau@wales.nhs.uk
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae IDGC wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.