Llywodraethu Prosiectau

P'un a ydych chi'n cynllunio astudiaeth ymchwil, prosiect arloesi, neu werthuso gwasanaeth, rydym ni yma i'ch helpu chi i lywio'r broses a chael mynediad at y gefnogaeth, yr arbenigedd a'r data sydd eu hangen arnoch chi. Mae ein dull strwythuredig yn sicrhau bod prosiectau'n cael eu hadolygu'n effeithlon, yn bodloni'r gofynion llywodraethu angenrheidiol, ac yn derbyn y cyngor cywir o'r cychwyn cyntaf. 

Mae'r camau isod yn esbonio sut i ymgysylltu â thîm Ymchwil ac Arloesi IGDC, pa wybodaeth y bydd ei hangen arnom gennych chi, a sut y bydd eich prosiect yn symud ymlaen o'r cynnig cychwynnol hyd at ei gymeradwyo a'i gyflawni. Anogir ymgysylltu'n gynnar, yn enwedig os ydych chi'n ansicr ynghylch dosbarthiad prosiect, gofynion data neu ystyriaethau llywodraethu. 

 

1. Cadarnhau Eich Math o Brosiect 

Yn gyntaf, nodwch a yw eich prosiect yn: 

  • Ymchwil 

  • Arloesi 

  • Gwerthuso gwasanaethau 

  • Math arall o weithgaredd 

Bydd hyn yn helpu i benderfynu pa gymeradwyaethau sydd eu hangen arnoch. 

Defnyddiwch yr Offeryn Penderfynu HRA: https://www.hra-decisiontools.org.uk/research/ 

 

2. Cyflwyno Cynnig Prosiect 

Cwblhewch y Ffurflen Cynnig Prosiect Ymchwil ac Arloesi  

Mae'r ffurflen yn dweud y canlynol wrthym: 

  • Yr hyn mae eich prosiect yn anelu at ei gyflawni 

  • Pa ddata neu gymorth sydd ei angen arnoch chi  

  • Pa gyllid sydd ar gael i chi i gefnogi'r cais 

  • Pa ddogfennau sydd eu hangen, fel Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) 

  • Pa gymeradwyaethau sydd gennych eisoes 

Gall ein tîm eich helpu os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw ran o'r broses. 

 

3. Adolygu a Thrafod y Prosiect 

Bydd y Grŵp Brysbennu Ymchwil ac Arloesi’n adolygu eich cynnig ac yn neilltuo aelod o'r tîm i gefnogi eich prosiect. Os yw'r prosiect yn cael ei ddosbarthu fel Arloesi, bydd yn cael ei ddatblygu gan y Grŵp Diddordeb Arbennig Arloesi Data a Digidol (SIG) 

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi ac yn trefnu trafodaeth os oes angen. 

 

4. Cymeradwyaeth y Bwrdd Ymchwil ac Arloesi 

Ar ôl adolygu'r holl ddogfennau a thystiolaeth ofynnol, bydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Ymchwil ac Arloesi i'w gymeradwyo. 

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn fisol. Byddwn yn eich hysbysu o'r penderfyniad o fewn dau ddiwrnod gwaith i'r cyfarfod. 

 

5. Cytundeb Cyflenwi a Rhannu Data 

Ar ôl cymeradwyaeth y Bwrdd, rydym yn symud ymlaen i'r cam cyflawni. 

Gallai hyn gynnwys: 

  • Cytuno ar amserlenni prosiect 

  • Paratoi a llofnodi Cytundeb Rhannu Data (DSA), lle bo angen 

  • Cwblhau unrhyw ofynion cyfreithiol neu gytundebol sy'n weddill 

Unwaith y bydd y camau hyn wedi'u cwblhau, gall gwaith ar eich prosiect ddechrau. 

  

Oes angen cymorth arnoch cyn cwblhau'r ffurflen? Cysylltu â ni: DHCW_R&I@wales.nhs.uk