Beth yw'r rhaglen Iechyd Dŵr Poeth?
Bydd rhaglen Iechyd Dŵr Poeth yn adeiladu cymuned o wirfoddolwyr i helpu i wella gofal i bobl â dŵr poeth, adlifiad asid a diffyg traul. Bydd y rhaglen yn caniatáu i arbenigwyr ymchwilio i faterion fel:
Bydd y tîm Iechyd Dŵr Poeth yn gwahodd miliynau o bobl o wahanol ranbarthau yn y DU i gymryd rhan. Drwy lunio darlun manwl o'r symptomau hyn a rhoi cynnig ar brofion a thriniaethau newydd ar gyfer cyflyrau iechyd cysylltiedig, bydd Iechyd Dŵr Poeth yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ofalu am bobl sydd ag adlif.
Ewch i’r wefan Iechyd Dŵr Poeth
Bydd yr astudiaeth ymchwil yn gwahodd pobl o bob cwr o'r DU i gymryd rhan. Nid oes rhaid i chi dderbyn y gwahoddiad.
Os penderfynwch gymryd rhan, gofynnir i chi roi caniatâd i ymuno â'r astudiaeth ymchwil. Os nad ydych chi eisiau derbyn gwahoddiad SMS gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gallwch chi ddewis peidio â chael eich gwahodd isod.
Sut mae IGCD yn defnyddio eich gwybodaeth
Gofynnwyd i IGCD nodi pobl sy'n byw yng Nghymru a allai fod yn gymwys a'u gwahodd i ymuno â’r rhaglen Iechyd Dŵr Poeth. Byddwn yn defnyddio'r data sydd gennym i nodi pobl a allai fod yn addas a bydd manylion cyswllt yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel i iPlato a fydd yn anfon gwahoddiad neges destun SMS ar ran y rhaglen Iechyd Dŵr Poeth. Bydd y data a ddefnyddir yn cynnwys enw a rhif ffôn symudol. Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu'n uniongyrchol â thîm yr astudiaeth ymchwil
Er mwyn rheoli'r broses wahodd, bydd angen i ni gadw'r rhestr o bobl sydd wedi cael gwahoddiad tan chwe mis ar ôl i'r gwaith recriwtio ar gyfer yr astudiaeth ymchwil gael ei gwblhau. Mae hyn er mwyn sicrhau na chewch wahoddiad os ydych wedi dweud wrthym nad ydych am i ni gysylltu â chi.
Ar ôl yr amser hwn, bydd yr holl wybodaeth a storiwyd at ddiben y rhaglen ymchwil hon yn cael ei dileu.
Byddwn yn defnyddio eich data i lunio adroddiadau cryno i fonitro recriwtio i'r astudiaeth ymchwil (er enghraifft faint o bobl a wahoddwyd). Ni fydd yr adroddiadau hyn yn eich nodi chi'n bersonol.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ein gwasanaethau, yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, yn cynnwys prosesu a gwaith lledaenu data i alluogi ymchwil feddygol gyffredinol.
Yn ogystal, mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd wedi darparu cefnogaeth gyfreithiol i'r rhaglen Iechyd Dŵr Poeth o dan Adran 251 o Ddeddf y GIG 2006 a Rheoliad 5 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth Cleifion) 2002 sy'n galluogi codi'r ddyletswydd cyfrinachedd cyfraith gyffredin dros dro fel y gall IGDC brosesu gwybodaeth gyfrinachol cleifion ar ran yr astudiaeth ymchwil. Mae'r gefnogaeth hon yn darparu'r sail gyfreithiol i gyfranogwyr addas gael eu gwahodd i ymuno â'r astudiaeth ymchwil. Mae hyn yn dilyn cyngor gan y Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd, corff cynghori sy'n darparu cyngor arbenigol annibynnol ar ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol cleifion heb ganiatâd yng Nghymru a Lloegr.
Eich hawliau dros eich data personol
I ddarllen mwy am yr wybodaeth iechyd a gofal y mae IGDC yn ei chasglu, ein sail gyfreithiol dros gasglu'r wybodaeth hon a pha ddewisiadau a hawliau sydd gennych, gweler sut mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn trin data amdanoch chi.
Optio allan o dderbyn gwahoddiad:
Os nad ydych am gael eich gwahodd gan DHCW i gymryd rhan yn Rhaglen Iechyd Llosg y Galon, gallwch:
Ffonio’r tîm ar 0808 281 4772, a gallant gwblhau’r ffurflen ar eich rhan
Os byddwch yn optio allan:
Ni fydd eich manylion yn cael eu cofnodi yng nghronfa ddata Iechyd Llosg y Galon
Ni fydd DHCW yn cysylltu â chi ynghylch y rhaglen hon
Gall sefydliadau eraill eich cysylltu ynghylch y rhaglen yn y dyfodol, ond bydd gennych bob amser y dewis a ydych am gymryd rhan
Gallwch gyflwyno’r ffurflen os nad ydych am gael eich gwahodd i gymryd rhan yn Rhaglen Iechyd Dŵr Poeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Dŵr Poeth.