Sefydlwyd Grŵp Datblygu Gwybodaeth Cymru (WIDG) (a elwid gynt yn Is-grŵp DSCN) i gefnogi gwaith WISB mewn perthynas â chynhyrchu DSCNs, gan:
Ddatblygu proses drwyadl, amserol ar gyfer asesu gofynion data/gwybodaeth ar y Gwasanaeth fel sy’n ofynnol yn y cam DSCN.
Sicrhau bod newidiadau i’r Geiriadur Data yn cael eu nodi a'u cynnwys yn gynhwysfawr.
Argymell gwelliannau i fformat a chynnwys DSCN, pan fo hynny’n briodol.
Adolygu rôl DSCN ac ystyried yr angen am hysbysiadau eraill.
Cyfrifoldeb dirprwyedig am gymeradwyo DSCNs (yn llawn).
Adolygu newidiadau arfaethedig i strwythur a chynnwys y Geiriadur Data.
Bydd cwmpas WIDG yn cynnwys pob DSCN sy'n deillio o gyflwyniadau sy’n mynd trwy unrhyw ran o’r Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth. Bydd yn eithrio cyfrifoldeb am newidiadau sylfaenol i'r Geiriadur Data er y byddai awgrymiadau sy'n deillio o waith y grŵp yn cael eu casglu.
Ar ôl WIDG ddod i benderfyniad ar DSCN, bydd hyn yn cael ei adrodd i WISB i'w gadarnhau neu ei ail-ystyried. Os nad WIDG wedi gallu dod i gytundeb, bydd hyn yn cael ei adrodd i WISB.
I adolygu DSCNs a gymeradwywyd gweler Hysbysiadau Newid Safonau Data. Hefyd, gallwch weld rhestr gryno o DSCNs sy'n cael eu drafftio ar hyn o bryd.