Nod y Tîm Safonau Data yw cefnogi gwella ansawdd gwybodaeth yn GIG Cymru ac ynghylch GIG Cymru. Mae’r tîm yn gyfrifol am ddatblygu ystod o safonau data, ac mae hyn yn cynnwys paratoi a chyhoeddi Hysbysiadau Newid.
Mae tri gwahanol fath o Hysbysiad Newid, a gaiff eu cyhoeddi gan y Tîm Safonau Data. Mae’r rhain yn cynnwys:
I ddarganfod rhagor am bob un o’r safonau hyn, gweler y crynodebau isod. Am ddisgrifiad manylach, dilynwch y dolenni i’r tudalennau Hysbysiad Newid ar wahân.
Noder, mae’r Hysbysiadau Newid canlynol yn fanylebau technegol, ac maent yn orfodol i’r GIG ac i sefydliadau partner a chyflenwyr systemau yn Saesneg. Os dymunwch weld Hysbysiad Newid a gyhoeddwyd, cewch eich ailgyfeirio i fersiwn Saesneg ein gwefan.
Hysbysiad Newid Safon Data
Mae Hysbysiad Newid Safon Data (DSCN) yn orchymyn i’r GIG ac i sefydliadau partner a chyflenwyr systemau i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi safon data newydd neu safon data sydd wedi newid.
Cyflwynir DSCNs i’r gwasanaeth unwaith y caiff safonau data newydd neu safonau data sydd wedi newid, a noddir gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant Llywodraeth Cymru, eu cymeradwyo gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru.
Am gyfnod, roedd safonau data clinigol yn cael eu cadw ar wahân i Eiriadur Data GIG Cymru ac roeddent yn cael eu cyfathrebu drwy Hysbysiadau Newid Set Ddata Glinigol (CDSCNs). Maent yn rhan o’r geiriadur bellach ac felly caiff safonau newydd neu safonau sydd wedi newid eu cyfathrebu drwy DSCNs yn y dyfodol.
Hysbysiadau Newid Geiriadur Data (DDCNs)
Mae Hysbysiad Newid Geiriadur Data yn hysbysiad sy’n amlinellu unrhyw newidiadau i Eiriadur Data GIG Cymru nad ydynt yn cyflwyno gofynion gwybodaeth newydd neu ofynion gwybodaeth sydd wedi newid. Mae’r awdurdod i’w cymeradwyo wedi’i ddirprwyo gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru i’w Fwrdd Datblygu Gwybodaeth Cymru (WIDG).
Ymgorfforir holl safonau data GIG Cymru drwy DSCN yng Ngeiriadur Data GIG Cymru. Mae’r geiriadur yn ffynhonnell gyfeirio ar gyfer yr holl safonau data gorfodol.
Hysbysiadau Dull Dadansoddi (AMNs)
Mae Hysbysiad Dull Dadansoddi (AMN) yn rhoi gwybod am ddull dadansoddi newydd neu ddull dadansoddi sydd wedi newid i’r GIG ac i sefydliadau partner a chyflenwyr systemau. Mae’r rhain yn dogfennu’n ffurfiol y dulliau o gwblhau dadansoddiadau cenedlaethol o ddata gofal iechyd GIG Cymru a chyfrifo dangosyddion a mesurau perfformiad cenedlaethol.
Datblygir a/neu cytunir ar Ddulliau Dadansoddi gan y Grŵp Methodolegau Dadansoddi ac fe’u hachredir gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru.
Rhestr Ddosbarthu
I dderbyn copïau o DSCNs a DDCNs yn awtomatig yn y dyfodol, e-bostiwch ni i danysgrifio i Restr Dosbarthu DSCNs GIG Cymru. Unwaith y byddwch wedi tanysgrifio, byddwn yn rhoi gwybod i chi am safonau newydd, newidiadau i safonau cyfredol a gwybodaeth gysylltiedig arall.
Cysylltwch â ni os dymunwch ddatdanysgrifio.
Noder, bydd gohebiaeth e-bost a chopïau o DSCNs a DDCNs yn Saesneg.