Darperir hyfforddiant codio clinigol yng Nghymru drwy raglen a gydlynir yn genedlaethol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).
Nodwch: Mae'r hyfforddiant hwn ar gael i unigolion sydd eisoes yn gweithio mewn rolau codio clinigol o fewn GIG Cymru yn unig.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
Cwrs Safonau Codio Clinigol cynhwysfawr 24 diwrnod a ddarperir gan hyfforddwr cymeradwy.
Cyrsiau Gloywi Codio Clinigol bob tair blynedd, a ddylunnir i gwmpasu newidiadau diweddar i safonau codio.
Cymorth ar gyfer y Cymhwyster Codio Clinigol Cenedlaethol (NCCQ), megis arholiadau ffug a chymorth paratoi.
Mae staff codio hefyd yn elwa ar fynediad at fodiwlau e-ddysgu arbenigol sy'n ymdrin â chyflyrau a thriniaethau fel cataractau, COVID-19, gosod toriadau, a methiant y galon sydd ar gael trwy'r Ganolfan Hyfforddi Ar Alw, er mwyn gwella cywirdeb ac ansawdd codio.
I'r rhai sy'n dymuno arbenigo ymhellach, mae GIG Lloegr yn cynnig cyrsiau mewn Archwilio a Hyfforddi codwyr eraill, ar gyfer codwyr sydd ag o leiaf tair blynedd o brofiad ymarferol a'r Cymhwyster Codio Clinigol Cenedlaethol (NCCQ).
Mae cyfleoedd pellach ar gyfer datblygu proffesiynol parhaus ar gael trwy sefydliadau fel IHRIM a FEDIP.
Cyfeiriwch unrhyw gwestiynau sydd gennych am y rhaglen hyfforddi genedlaethol at Leanne Cook, a/neu Rhiannon Jones, Arweinwyr y Rhaglen Hyfforddi Codio Clinigol Genedlaethol, drwy'r ddesg gymorth codio clinigol: clinical.coding@wales.nhs.uk.