Bydd y rhaglen waith yn cael ei ffurfio gan brosiectau sydd â’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol, o fewn cwmpas diffiniedig.
Nod y fenter yw:
1 |
Nodi datblygiadau ar lefel leol a chenedlaethol a gaiff eu cynnwys yn y fenter; |
2 |
Blaenoriaethu a datblygu adroddiadau ansawdd ar wybodaeth wedi’u targedu (e.e. dangosyddion ansawdd yr wybodaeth ar y dangosfwrdd); |
3 |
Datblygu mesurau ansawdd data a gwybodaeth, gan gynnwys cysylltiadau â Fframwaith Canlyniadau ac Ansawdd y Safonau Gofal Iechyd; |
4 |
Nodi a gweithredu offer i fesur gwelliannau mewn prosesau a lefelau ansawdd gwybodaeth ar draws sefydliadau gofal iechyd, a fydd yn cynnwys adolygiad o’r defnydd posibl o IQI ar gyfer elfennau o Becyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth NHS England; |
5 |
Monitro’r gwaith o gynnal polisïau ansawdd data sefydliadol i sicrhau bod y rhain yn gyfredol, gyda’r nod o rannu a gweithredu arferion gorau ledled Cymru; |
6 |
Adolygu sicrwydd cyflwyniadau o safonau data presennol cyn eu cyflwyno i WISB; |
7 |
Hwyluso darpariaeth cyngor a chymorth i ganiatáu i bob sefydliad ddatblygu a chyhoeddi ei raglen gwella ansawdd gwybodaeth ei hun; |
8 |
Blaenoriaethu materion ansawdd data i sicrhau bod y materion pwysicaf yn cael eu hystyried yn gyntaf; |
9 |
Gwella cydymffurfiaeth â safonau cyfredol ac unrhyw safonau newydd dilynol, gan gynnwys safonau data gweithredol a chenedlaethol trwy gydweithio â’r Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth a chefnogi Cyflwyniadau Adolygu WISB yn benodol; |
10 |
Gyrru datblygiad Gweithdrefnau Gweithredu Safonol i ddisgrifio’r broses sy’n gysylltiedig â gweithredu safonau newydd; |
11 |
Cyfrannu at ddatblygiad fframweithiau monitro perfformiad cenedlaethol a chynlluniau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg/Cynllun Tymor Canolig Integredig lleol a chenedlaethol; |
12 |
Sicrhau bod cynnydd pob sefydliad o ran ei raglen wella ei hun yn cael ei ddogfennu trwy ddefnyddio mesurau cymharol, a’i gyhoeddi; |
13 |
Hyrwyddo cydweithio a rhannu enghreifftiau o arferion da rhwng sefydliadau; a |
14 |
Datblygu cynllun tymor hwy ar gyfer nodi a mynd i’r afael â materion ansawdd gwybodaeth strategol. |
Mae cwmpas y fenter yn cynnwys:
Er nad yw’r Gweithgorau yn uniongyrchol gyfrifol am gefnogi gofynion ansawdd data lleol, lle mae gwelliannau i brosesau lleol yn debygol o arwain at welliannau i ddata cenedlaethol, mae’r rhain o fewn y cwmpas hefyd.