Neidio i'r prif gynnwy
 
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mawrth 2025
 

Cydymffurfedd â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau 

Rydym yn cyhoeddi ystadegau ar y wefan Cyhoeddiadau ystadegol, cynhyrchion data a data agored - Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Mae OSR yn gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gadw atynt. 

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth

 

Cywirdeb ein hystadegau swyddogol 

Cydnabyddir ein hystadegau 

Mae IGDC wedi’i enwi yng Ngorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 fel corff sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Nghymru. Mae Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 yn diffinio beth yw ystadegau swyddogol. 

Sut rydym yn ymgysylltu â system ystadegol y DU 

Rydym yn cymryd rhan ym mhwyllgorau a rhwydweithiau system ystadegol y DU drwy Brif Ystadegydd a Phennaeth y Proffesiwn Ystadegau Llywodraeth Cymru. 

Ein cod ymarfer 

Rydym yn dilyn Cod Ymarfer Awdurdod Ystadegau’r DU ar gyfer Ystadegau

Pwy sy’n gyfrifol am ein hystadegau 

Mae’r Swyddog Arweiniol yn gyfrifol am arwain ar faterion ystadegau swyddogol. Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn diffinio’r Swyddog Arweiniol ar gyfer Ystadegau fel: 

‘yr uwch ystadegydd neu ddadansoddwr mewn corff hyd braich sydd wedi cael y cyfrifoldeb o arwain ar faterion proffesiynol gan y sefydliad ac sy’n cysylltu â Phennaeth y Proffesiwn Ystadegau mewn adran sy’n noddi.’ 

Mae’r Cod yn rhoi i gynhyrchwyr ystadegau swyddogol yr arferion manwl y dylent ymrwymo iddynt wrth gynhyrchu a rhyddhau datganiadau swyddogol. Mae IGDC yn cydgysylltu â Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru lle bo’n briodol. 

Diffinnir cyfrifoldebau’r Swyddog Arweiniol ar gyfer Ystadegau gan Awdurdod Ystadegau’r DU, corff statudol annibynnol. Mae’n gweithredu hyd braich o’r llywodraeth fel adran anweinidogol, sy’n atebol yn uniongyrchol i’r Senedd. 

Fe’i sefydlwyd ar 1 Ebrill 2008 gan y Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Mae gan yr Awdurdod amcan statudol o hyrwyddo a diogelu’r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol sydd ‘o fudd i’r cyhoedd’. 

 

Arferion rhyddhau 

Pryd ydyn ni’n cyhoeddi ein hystadegau 

Rydym yn cyhoeddi dyddiad Ystadegau Swyddogol o leiaf 4 wythnos cyn eu cyhoeddi. Fel arfer, bydd hyn 3 mis ymlaen llaw. 

Gellir gofyn i ni am ystadegau ar gyfer areithiau, cwestiynau yn y Senedd neu hysbysiadau i’r wasg. Ein nod yw cyhoeddi’r ystadegau hyn cyn iddynt gael eu defnyddio’n gyhoeddus neu’n fuan iawn wedi hynny.  

Cynnwys 

Mae ein Swyddog Arweiniol ar gyfer Ystadegau yn penderfynu ar yr agweddau canlynol ar ein hystadegau swyddogol rheolaidd ac ad-hoc: 

  • dulliau 
  • safonau a gweithdrefnau 
  • cynnwys ac amseriad 

Mae’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

  • benderfynu ar yr angen am ystadegau swyddogol newydd 
  • rhoi’r gorau i ryddhau ystadegau swyddogol 
  • datblygu ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu 

 

Arferion cyhoeddi 

Ble a phryd rydym yn cyhoeddi ein hystadegau 

Rydym yn cyhoeddi ein datganiadau ystadegol ar y wefan Cyhoeddiadau ystadegol, cynhyrchion data a data agored - Iechyd a Gofal Digidol Cymru am 9:30am ar y dyddiad a gyhoeddwyd, a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg lle bo modd. 

Sut rydym yn sicrhau bod ein hystadegau yn hygyrch 

Rydym yn bwriadu cysoni ein cyhoeddiadau yn unol â’r canllawiau GSS sy’n cael eu datblygu ar hygyrchedd ystadegau ar gyfer pobl anabl. 

Mynediad at ystadegau swyddogol cyn iddynt gael eu cyhoeddi 

Cyn cyhoeddi ystadegau, mae rhai pobl angen mynediad at y systemau, adroddiadau a data ystadegol sylfaenol. 

Mae ein Swyddog Arweiniol ar gyfer Ystadegau yn goruchwylio achosion o rannu ein hystadegau gyda’n cydweithwyr. 

Rydym yn cadw’r nifer o bobl sydd â mynediad at ystadegau cyn iddynt gael eu cyhoeddi mor isel â phosibl.

Sut rydym yn rheoli mynediad at ystadegau yn eu ffurf derfynol (mynediad cyn rhyddhau) 

Rydym yn cyflwyno ystadegau yn eu ffurf derfynol i swyddogion 24 awr cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae hyn lle mae Swyddog Arweiniol Ystadegau IGDC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer eu rôl.  

Ymgysylltu â’n defnyddwyr 

Rydym yn parhau i ymgysylltu a chydweithio â’n rhanddeiliaid i wella ein cyhoeddiadau.

Rydym yn hapus i unrhyw ddefnyddwyr neu ddarpar ddefnyddwyr gysylltu â ni: dhcw.info@wales.nhs.uk 

Diwygiadau 

‘Diwygiad’ yw pan fydd gwerth yn cael ei newid ar ôl cael ei gyhoeddi’r tro cyntaf. Mae datganiad IGDC ar ddiwygiadau, gwallau a gohiriadau yn egluro’r prosesau a ddilynir pan gaiff allbynnau ystadegol eu hadolygu neu eu gohirio.

Share: