Crëwyd Hwb Data Covid-19 Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gan Gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Gwybodaeth ac mae'n gweithredu fel 'Siop Un Stop' ar gyfer gwybodaeth am y feirws ledled Cymru.
Mae'r hwb yn arddangos cymysgedd o ddelweddiadau a thablau data, a ddatblygwyd yn Logi Analytics. Daw ffynonellau'r dangosfwrdd o storfa ddata rithwir COVID-19 yn y Warws Data Cenedlaethol, sy'n cynnwys llifoedd data presennol a rhai newydd i gefnogi’r broses o reoli COVID-19.
Ar hyn o bryd, mae'r hwb yn cynnwys crynodebau ac archwiliadau manwl o'r canlynol:
Crynodeb profion COVID-19
Adroddiad ar y sefyllfa o ran capasiti a gweithgarwch y Byrddau Iechyd
Profion positif yn ôl yr Awdurdod Lleol ac amseroedd prosesu
Ymweliadau dyddiol ag Adrannau Brys ysbytai
Galwadau ambiwlans
Galwadau ambiwlans yn ôl y Bwrdd Iechyd
Gofal Sylfaenol
Galwadau 111 a defnydd o’r gwiriwr symptomau
Data marwolaeth
Cyfleuster casglu data, gan alluogi'r defnyddiwr i gasglu’r data y tu ôl i'r delweddiadau ar y dangosfwrdd
Mapiau cleifion sydd wedi’u gwarchod
Offer modelu data
Mynediad
Ewch i https://isdapps.wales.nhs.uk/COVID-19 (neu ar gyfer defnyddwyr Llywodraeth Cymru, dewiswch y ddolen i'r Hwb Data ym mhorth Mynediad Llywodraeth Cymru) ond nodwch mai dim ond defnyddwyr cofrestredig sy'n gallu cyrchu'r system oherwydd bod llawer o’r cofnodi ynddo yn amodol. I ofyn am fynediad i’r system, cofrestrwch trwy ddewis y botwm ‘Request Covid-19 Dashboard Access' a lle bydd gofyn i chi roi eich enw, cyfeiriad e-bost a manylion y sefydliad.
Ewch i flwch negeseuon Gwybodaeth Covid-19 Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn NWISCOV19DATA@Wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau
Er mwyn deall a rhagweld y galw ar wasanaethau iechyd a gofal yn ystod pandemig COVID-19, mae’n hollbwysig meddu ar ddata yn gyflym.
Gan weithio ar y cyd â byrddau iechyd, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi datblygu hwb data newydd ar garlam, er mwyn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau weld ymateb ‘GIG Cymru’ i’r pandemig mewn amser real.
Mae'r hwb data yn dwyn gwybodaeth ynghyd o ffynonellau gwahanol, gan ddarparu ffynhonnell dystiolaeth mewn un lle am sefyllfa sy'n newid yn gyflym.
Cesglir data o bob rhan o GIG Cymru, ysbytai, practisiau meddygon teulu, gofal brys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, 111 a chanolfannau galwadau Galw Iechyd Cymru ac fe'i cyfunir â chanlyniadau profion COVID-19.
Mae data a gesglir, a gedwir yn ddiogel yn warws data GIG Cymru, yn cael eu glanhau, eu gwneud yn ddienw a'u hintegreiddio i ddarparu'r metrigau a'r dystiolaeth wyddonol sy'n ofynnol i gynorthwyo dealltwriaeth ar lefel leol, genedlaethol ac ar lefel y DU.
Mae'r adroddiadau sydd ar gael yn dangos statws ymateb GIG Cymru i COVID-19. Nid yw'r hwb data yn darparu mynediad at unrhyw ddata ar lefel cleifion.
Er mwyn wynebu sefyllfa sy'n newid yn barhaus, mae'r hwb data yn cael ei ddatblygu'n barhaus. Lansiwyd y fersiwn gyntaf ar ddechrau mis Ebrill 2020.
Mae'r adroddiadau data sydd ar gael yn dangos:
Trwy ddefnyddio'r adroddiadau a ddaw o’r hwb data, bydd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau’n gallu:
Mae'r holl ddata'n cael eu cadw'n ddiogel gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac mae'n ddarostyngedig i'r fframwaith llywodraethu gwybodaeth (dolen i'r Dudalen Llywodraethu Gwybodaeth) a'r ddeddfwriaeth diogelu data a ddefnyddiwn yn ein gwaith beunyddiol.