**Gwybodaeth reoli yw hon a gall newid wrth i ddata newydd gael ei gyflwyno
Mae'r dangosfwrdd yn cynnwys tablau data rhyngweithiol sy'n cynnwys dadansoddiadau ar wahân yn ôl diagnosis, llawdriniaeth, arbenigedd a Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) preswylfa arferol y claf. Mae gwybodaeth o’r tablau data rhyngweithiol hefyd ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf csv.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd i drigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r data a ddarperir yn seiliedig ar ffiniau newydd y Byrddau Iechyd.
Mae datganiadau blaenorol o’r tablau data Gofal Cleifion a Dderbyniwyd yn Flynyddol ar gael i’w lawrlwytho isod. Mae data ar gael ar gyfer 2014/15 i 2020/21. Maent yn cynnwys ffigyrau pennawd sy'n ymwneud â derbyniadau i ysbytai (cleifion mewnol, cleifion allanol a derbyniadau mamolaeth) mewn fformat dogfen gludadwy (PDF); a thablau Microsoft Excel yn cynnwys dadansoddiad ar wahân yn ôl diagnosis, llawdriniaeth, arbenigedd, Grŵp Adnoddau Gofal Iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol preswylfa arferol y claf a gwybodaeth presenoldeb rheolaidd.