Neidio i'r prif gynnwy
 

 

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth dadansoddi wedi’i deilwra sy’n cefnogi ystod eang o gleientiaid gyda’u hanghenion data a dadansoddeg, gan gynnwys:

  • Ceisiadau wedi’u teilwra am echdyniadau data
  • Dangosfyrddau data, gan gynnwys ffigurau sy’n barod i’w cyhoeddi
  • Dadansoddiad geo-ofodol (mapio).
  • Profi damcaniaeth, dadansoddi ystadegol a gwyddor data

Mae ein Warws Data Cenedlaethol yn dal hyd at 20 mlynedd o ddata o ystod eang o setiau data lefel cleifion. Mae rhestr o setiau data, eu cwmpas a’u hamserlenni i’w gweld yma. Am ragor o wybodaeth am y setiau data hyn, gweler Geiriadur Data GIG Cymru.

Mae gan ddadansoddwyr o fewn y tîm arbenigedd mewn ystod o offer meddalwedd a dadansoddi, gan gynnwys SQL, Power BI, R, Python, Logi, a Google Cloud Platform. Yn ogystal â deall cryfderau ac anfanteision yr ystod o setiau data clinigol a’r defnydd a wneir ohonynt, byddem yn hapus i siarad â chi am y dadansoddiad goroesi, profi damcaniaeth a dadansoddeg ragfynegol (e.e. rhagweld a chlystyru). Mae ein dadansoddwyr hefyd yn brofiadol iawn mewn cysylltu data, gan ddilyn cleifion ar draws y setiau data hyn i fynd i’r afael ag ystod eang o gwestiynau clinigol a gweithredol. 

 

Gwneud cais

I wneud cais am echdyniadau neu ddadansoddiadau data pwrpasol, e-bostiwch DHCW.Info@wales.nhs.uk.

Bydd un o’n Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi gwybod i chi a yw’r data ar gael, y broses ar gyfer gwneud cais, ac unrhyw fanylebau neu ddogfennau angenrheidiol y gallai fod angen i chi eu darparu.