Neidio i'r prif gynnwy

Darparu'r Seilwaith

Darparu

Seilwaith Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yw’r fframwaith o gysylltiadau rhwydwaith a gwasanaethau, canolfannau data, systemau cymorth, cynnal a chadw a diweddariadau sy’n rhoi cryfder, diogelwch a sefydlogrwydd i systemau iechyd a gofal ledled Cymru.

Rhwydwaith

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru’n rheoli cysylltedd. Mae ein timau seilwaith yn sicrhau y gall clinigwyr ddibynnu ar anfon a derbyn data, negeseuon a delweddau dros bellteroedd 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Hefyd, mae gwasanaethau fideo-gynadledda a Skype yn dod â chlinigwyr ynghyd – sy’n darparu offeryn cyfathrebu i dimau amlddisgyblaethol a helpu eu cleifion ar draws ffiniau gofal iechyd. Mae ein tîm Gwasanaethau Rhwydwaith yn cadw’r traffig aruthrol ar weinyddion GIG Cymru i lifo ac yn ddiogel, gan reoli popeth o waliau tân i gyfeiriadau IP a chysylltiadau data.

Cymorth

Mae ServicePoint yn ymdrin â miloedd o achosion a llawer o geisiadau gwasanaeth bob mis, ac mae’n adnodd rheoli cymorth sydd wedi’i ddylunio, ei ddatblygu a’i gynnal gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae’n darparu pwynt cyswllt dibynadwy ar gyfer materion technoleg – yn ateb cwestiynau ac yn canfod atebion – ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau TG GIG Cymru ar unrhyw adeg, ddydd a nos.

E-bost

Mae GGGC yn cynnal NADEX – sef gwasanaeth cyfeiriadur cenedlaethol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr fewngofnodi i systemau a gwasanaethau ni waeth ble maen nhw’n defnyddio cyfrifiadur, a gwasanaeth e-bost cenedlaethol sy’n darparu llyfr cyfeiriadau sy’n cael ei ddiweddaru, ac mae’n caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol rannu dyddiaduron â chydweithwyr ar draws sefydliadau GIG Cymru.

NADEX

Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr fewngofnodi i systemau ni waeth ble maen nhw’n cyrchu cyfrifiadur dynodedig yn GIG Cymru. Mae’n darparu hunaniaeth unigryw ar gyfer pob aelod o staff a ddefnyddir ar gyfer dilysu a chyrchu systemau electronig cenedlaethol. 

Profi, Cynnal a Chadw a Diweddaru

Mae profi’n gam hanfodol yn unrhyw gynnyrch, yn enwedig pan roddir darn newydd o seilwaith ar waith. Cyn i gynhyrchion gael eu cyflwyno i amgylcheddau clinigol, mae ein timau seilwaith yn profi i weld a ydyn nhw’n gweithredu yn y ffordd gywir, yn ogystal â phennu beth ellir ei ddisgwyl os byddant yn methu. Os nad yw’r systemau’n gweithredu yn y modd cywir, maent yn cael eu hail-archwilio, ac weithiau eu hail-ddylunio, nes y byddant yn hyderus eu bod nhw’n gweithio. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru hefyd yn sicrhau bod technoleg yn cael ei gynnal a’i ddiweddaru’n rheolaidd, gan sicrhau bod y systemau’n parhau i fod yn gryf ac yn ddiogel.