Neidio i'r prif gynnwy

A oes cyfleoedd i ddatblygu gyrfa?

Fel sefydliad sy’n tyfu, mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld bron i 50% o swyddi gwag yn cael eu llenwi gyda staff mewnol yn camu ymlaen i yrfa newydd.

Lle bynnag ydych chi o ran eich gyrfa, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai a chynlluniau ar gael i’ch helpu i ddatblygu a gwneud eich gwaith yma yn fwy boddhaus a phleserus.